Mewn etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, mae'n ofynnol i bleidiau sydd ag ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad gyflwyno adroddiad cyn y bleidlais bob wythnos am y rhoddion a gawsant a'r benthyciadau a benthyciadau y maent wedi'u trefnu.1
Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw rodd a dderbyniwyd neu fenthyciad yr ymrwymwyd iddo gan y blaid ganolog os yw dros £11,180.
Os nad ydych wedi derbyn unrhyw roddion a benthyciadau o'r fath, rhaid i chi gyflwyno cofnod o ddim.
Rhaid i chi gyflwyno'r adroddiadau hyn bob wythnos gan ddechrau o ddyddiad diddymu'r Senedd hyd at ddyddiad yr etholiad.
Rhaid i adroddiadau gael eu darparu i ni o fewn saith diwrnod i'r adeg y daw pob cyfnod adrodd wythnosol i ben.
Cyfnod adrodd
Dyddiad cau cyflwyno’r adroddiad cyn yr etholiad
30 Mai – 5 Mehefin
12 Mehefin 2024
6 Mehefin – 12 Mehefin
19 Mehefin 2024
13 Mehefin – 19 Mehefin
26 Mehefin 2024
20 Mehefin – 26 Mehefin
3 Gorffennaf 2024
27 Mehefin – 3 Gorffennaf
10 Gorffennaf 2024
4 Gorffennaf (un diwrnod yn unig)
11 Gorffennaf 2024
Os ydych wedi dweud wrthym nad oes gennych ymgeiswyr yn sefyll, ni fydd rhaid i chi gyflwyno adroddiad cyn y bleidlais.
Pwy sy'n gyfrifol am gyflwyno adroddiadau cyn y bleidlais?
Rhaid i'r trysorydd sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolau ac yn cyflwyno'r adroddiadau cyn y bleidlais yn brydlon.2
Rhaid i'r trysorydd wneud datganiad ar gyfer pob adroddiad i ddweud ei fod yn gyflawn ac yn gywir.3
Hyd yn oed os bydd gan eich plaid swyddog ymgyrchu sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrchu, y trysorydd fydd yn gyfrifol o hyd am gyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau cyn y bleidlais.
Gallwch roi gwybod am eich rhoddion a'ch benthyciadau drwy CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch rhoddion a’ch benthyciadau cyn y bleidlais ar CPE Ar-lein, nodwch fod yr adroddiadau rhoddion a benthyciadau yn ddogfennau ar wahân.
Rydym hefyd yn cynhyrchu ffurflenni y gallwch eu defnyddio ar gyfer hyn: