Trysorydd cofrestredig plaid sydd fel arfer yn gyfrifol am sicrhau bod y blaid yn dilyn y rheolau ar wariant ar ymgyrch.1
Fodd bynnag, os yw plaid wedi cofrestru swyddog ymgyrchu, yr unigolyn hwn sy'n gyfrifol am wariant ar ymgyrch yn lle hynny.2
Gallwch benodi dirprwyon i'ch helpu gyda rhai o'ch cyfrifoldebau. Gallwch wneud hyn ar CPE Ar-lein neu drwy ddefnyddio Ffurflen DPS.
Awdurdodi a thalu treuliau'r ymgyrch
Dim ond yr 'unigolyn cyfrifol' a gofrestrwyd gyda ni a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol a all fynd i gostau o ran gwariant plaid ar ymgyrchu.3
Ystyr 'mynd i gostau' yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian.
Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.
Mae'r rheolau hyn ar waith er mwyn sicrhau y gallwch fod mewn rheolaeth o wariant eich plaid a'i gofnodi ac adrodd arno yn gywir.
Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau.