Gwariant pleidiau a rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais: Etholiad cyffredinol Senedd y DU

Y terfyn gwariant

Bydd faint y gallwch ei wario yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn dibynnu ar faint o ymgeiswyr sy'n sefyll dros eich plaid.

Mae gennych derfyn gwario ar wahân ym mhob rhan o'r DU – Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon – yn seiliedig ar nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd yn y rhan honno. 1

Os nad oes gennych unrhyw ymgeiswyr yn sefyll, yna ni fyddwch yn cael terfyn gwariant ac ni fydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen.

Pleidiau ag ymgeiswyr yn sefyll ym Mhrydain Fawr  

Ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy'n ymladd etholiad cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig ym Mhrydain Fawr, terfyn gwario eich plaid yw'r mwyaf o blith y canlynol:

Naill ai:

Rhan o Brydain FawrTerfyn gwariant
Lloegr  £1,458,440
Yr Alban £216,060
Cymru  £108,030

Neu:

£54,010 x nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd ym mhob rhan o Brydain.  

Mae gan bob rhan o Brydain Fawr derfyn ar wahân sy'n seiliedig ar nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd yn y rhan honno. 

eg

Er enghraifft:

Mae eich plaid yn cystadlu ym mhob etholaeth ym mhob rhan o Brydain Fawr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Hynny yw, 543 o etholaethau yn Lloegr, 57 o etholaethau yn yr Alban a 32 o etholaethau yng Nghymru. Eich terfyn gwariant fydd: 

Rhan o Brydain FawrTerfyn gwariantYmresymu
Lloegr  £29,327,430(543 x £54,010)
Yr Alban £3,078,570(57 x £54,010)
Cymru  £1,728,320(32 x £54,010)

Y rheswm am hyn yw bod y cyfanswm ar gyfer pob ardal yn fwy na'r swm penodedig a ddangosir yn y tabl cyntaf. 

NI

Pleidiau ag ymgeiswyr yn sefyll yng Ngogledd Iwerddon  

Ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy'n ymladd Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig ym Mhrydain Fawr, terfyn gwario eich plaid yw  

£54,010 x nifer y seddi y mae eich plaid yn eu hymladd yn Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig.  

ni eg

Er enghraifft:

Mae eich plaid yn ymladd 18 etholaeth yng Ngogledd Iwerddon. Eich terfyn gwariant fydd:

£54,010 x 18 = £972,180

Pleidiau sy'n sefyll ymgeiswyr ar y cyd â phlaid arall

Pleidiau sy'n sefyll ymgeiswyr ar y cyd â phlaid arall

Mae rhai ymgeiswyr yn sefyll o dan ddisgrifiad ar y cyd, sy'n golygu y gallant sefyll dros ddwy neu fwy nag un blaid wleidyddol gofrestredig ar unwaith. Gelwir yr ymgeiswyr hyn yn 'ymgeiswyr ar y cyd'.

Os yw eich plaid yn sefyll ymgeisydd ar y cyd, ni fydd y £54,010 llawn ar gyfer eu hetholaeth yn cael ei ychwanegu wrth gyfrifo eich terfyn gwariant. Yn lle hynny, rydych yn ychwanegu £54,010 wedi'i rannu â nifer y pleidiau y mae'r ymgeisydd yn sefyll drostynt.2

Er enghraifft, os yw'r ymgeisydd yn sefyll o dan ddisgrifiad ar y cyd a rennir rhwng eich plaid a phlaid arall, yna mae gennych chi a'r blaid arall £27,005 o'r etholaeth honno.
 

Enghraifft o ddisgrifiad ar y cyd

Er enghraifft: 

Yn Lloegr mae eich plaid yn sefyll 10 ymgeisydd o dan ddisgrifiad ar y cyd ag un blaid arall.

Mae eich plaid hefyd yn sefyll ymgeiswyr mewn 25 o etholaethau eraill yn Lloegr o dan enw eich plaid yn unig.

Cyfrifiad terfyn gwariant:

(10 x £54,010/2) + (25 x £54,010) = £1,620,300.

Gan fod hyn dros isafswm Lloegr o £1,458,440, terfyn gwariant eich plaid yn Lloegr yw £1,620,300.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Mehefin 2024