Cludiant mewn cysylltiad â hyrwyddo neu roi cyhoeddusrwydd i'ch plaid
Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae'n cynnwys cost cludo:
gwirfoddolwyr
aelodau o'r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
ymgyrchwyr eraill
o gwmpas yr ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
llogi unrhyw gludiant
tanwydd neu drydan a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
parcio ar gyfer unrhyw gludiant
lle maent yn ymgyrchu ar ran y blaid.
Mae'n cynnwys cost cludiant y telir amdano gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall ac y bydd y blaid wleidyddol neu drydydd parti yn ei thalu neu'n ei had-dalu, lle'r oedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar ran y blaid.
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo'r blaid, gan gynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â:
dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant
teithio rhwng ardaloedd etholaethol
teithio o amgylch ardal etholiadol
ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd
Mae'n cynnwys cyfran o gostau:
swyddfa
ardrethi busnes
trydan
rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
Lle mae'r rhain yn gysylltiedig â chynllunio, trefnu neu ddefnyddio cludiant o unrhyw fath, neu lle mae cerbyd neu fath o gludiant yn cael ei baratoi i'w ddefnyddio mewn ardaloedd etholiadol. Er enghraifft, cost dylunio cynllun sy'n hyrwyddo'r blaid a'i osod ar ochr bws.
Mae'n cynnwys yr holl gostau cludiant sy'n gysylltiedig â materion gwariant eraill. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.