Ynglŷn â'r canllawiau hyn
Paratowyd y canllawiau hyn gan y Comisiwn Etholiadol, a'u cyflwyno gerbron Senedd y DU, yn unol ag adran 54 o Ddeddf Etholiadau 2022.
Mae'n gymwys drwy Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Diben y canllawiau hyn yw:
- esbonio'r broses o weithredu Rhan 6 o'r Ddeddf, sy'n ymwneud â'r wybodaeth y dylid ei chynnwys gyda deunydd digidol a sut i gydymffurfio â'i gofynion
- esbonio'r modd y bydd y Comisiwn Etholiadol a'r heddlu yn cyflawni eu swyddogaethau gorfodi pan fydd achos o dorri neu amheuaeth o dorri Rhan 6 o'r Ddeddf.
Pan fydd y canllawiau'n dweud bod yn rhaid gwneud rhywbeth, mae hyn yn golygu ei fod yn ofyniad mewn deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth.
Mae'r canllawiau yn defnyddio ‘chi’ i gyfeirio at hyrwyddwr y deunydd, ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. Mae hyn oherwydd mai'r hyrwyddwr a/neu unrhyw un y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran fydd yn cyflawni trosedd o dan adran 48 o Ddeddf Etholiadau 2022 os caiff deunydd ei gyhoeddi sy'n groes i Ran 6 o'r Ddeddf.
Caiff y termau allweddol eu hesbonio yn y canllawiau, a'u rhoi fel rhestr yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y ddogfen.
Mae'n rhaid i'r Comisiwn Etholiadol a'r heddlu ystyried y canllawiau wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 6 o'r Ddeddf.
Gall y Comisiwn Etholiadol gynnig diwygiadau i'r canllawiau hyn o bryd i'w gilydd yn unol â'r Ddeddf neu pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi cyfarwyddyd i wneud hynny.
Mae'r enghreifftiau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn yn ymwneud â swyddogaethau llwyfannau digidol ym mis Mai 2023. Bydd yr egwyddorion cyffredinol a nodir yn y canllawiau yn parhau i fod yn gymwys os bydd swyddogaethau yn newid, neu os caiff llwyfannau newydd eu cyflwyno.
Cyflwyniad
Pan gaiff deunydd ymgyrchu penodol ei gyhoeddi, rhaid iddo gynnwys manylion penodol er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei gyhoeddi.
Gelwir y manylion hyn yn ‘argraffnod’. Mae'r argraffnod yn helpu i sicrhau tryloywder i bleidleiswyr ynglŷn â phwy sy'n ymgyrchu.
Mae cyfreithiau eisoes yn bodoli ledled y DU ar y gofyniad i gael argraffnodau ar ddeunydd etholiadau, refferenda a deisebau adalw argraffedig, ac ar ddeunydd etholiad digidol a ddefnyddir yn etholiadau datganoledig yr Alban. Ceir gwybodaeth am y deddfau hyn yng nghanllawiau anstatudol y Comisiwn Etholiadol.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i gael argraffnodau ar rai mathau o ddeunydd electronig. Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ddeunydd electronig fel ‘deunydd digidol’. Caiff enghreifftiau o'r mathau o ddeunydd digidol y mae angen argraffnod arnynt eu hegluro yn y canllawiau.
Nid yw'r gofynion i gael argraffnodau digidol yn gymwys i ddeunydd digidol a gyhoeddir cyn dechrau Rhan 6 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, os caiff y deunydd hwnnw ei ailgyhoeddi ar ôl dechrau'r Ddeddf, bydd y deunydd a ailgyhoeddir yn ddarostyngedig i'r gofynion.
Beth yw deunydd digidol?
Gall argraffnod fod yn ofynnol ar unrhyw ddeunydd digidol, os bydd y deunydd yn bodloni'r meini prawf a nodir yn yr adrannau canlynol.
Deunydd digidol yw deunydd ar ffurf electronig sy'n cynnwys testun, delweddau sy'n symud, delweddau llonydd, iaith lafar neu gerddoriaeth.
Nid yw'n cynnwys galwadau ffôn na negeseuon SMS. Gall fod yn gymwys i ddeunydd a gyhoeddir mewn gwasanaethau negesu nad ydynt yn defnyddio SMS, fel WhatsApp neu Signal.
Dim ond i ddeunydd digidol a gyhoeddir y mae'r gofyniad i gynnwys argraffnod yn gymwys, sef deunydd sydd ar gael i'r cyhoedd neu unrhyw ran o'r cyhoedd. Er enghraifft, ni fyddai'n gymwys i grŵp negesu preifat rhwng ffrindiau, nac i e-bost a anfonir gan blaid at ei haelodau yn unig.
Os bydd deunydd ar gael yn y DU, yna bydd y rheolau ynglŷn ag argraffnodau digidol yn gymwys, ni waeth o ble y caiff y cynnwys ei gyhoeddi na phwy yw'r hyrwyddwr. Er enghraifft, gallech fod y tu allan i'r DU, ond yn cyhoeddi deunydd ar lwyfan digidol sy'n golygu ei fod ar gael i ran o'r cyhoedd yn y DU.
Gall fod angen cael argraffnodau ar ddeunydd cyhoeddedig gan gynnwys (er nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
- Hysbysebion naid
- Postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- Unrhyw hysbyseb sy'n ymddangos ar unrhyw wefan, canlyniad peiriant chwilio, ap neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol
- Hysbysebion ar radio rhyngrwyd neu lwyfannau ffrydio sain eraill, fel Spotify
- Hysbysebion ar wasanaethau ffrydio teledu digidol
- Hysbysebion mewn podlediadau
- Hysbysebion mewn papurau newydd ar-lein
- Negeseuon ar WhatsApp, Signal neu Telegram
- Negeseuon MMS
- Gwefannau
- Delweddau
- Fideos
- Hysbysfyrddau electronig
Gall is-ddeddfwriaeth hefyd ddiweddaru'r diffiniadau o ddeunydd yng nghwmpas y drefn er mwyn cynnwys technoleg a ddaw i'r amlwg.
Pa fath o ddeunydd y mae angen argraffnod arno?
Mae dwy set wahanol o feini prawf sy'n pennu a oes angen argraffnod ar eich deunydd digidol o dan Ddeddf Etholiadau 2022.
Mae'r set gyntaf yn gymwys i hysbysebion y telir amdanynt. Mae'r ail set yn gymwys i unrhyw ddeunydd arall. Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ddeunydd nad yw'n hysbyseb y telir amdani fel ‘deunydd organig’.
Os ydych wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb, yna rhaid iddo gael argraffnod os yw'n ‘ddeunydd gwleidyddol’. Mae'r gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw un sy'n cyhoeddi deunydd gwleidyddol fel hysbyseb y telir amdani.
Os nad ydych wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb, yna mae'n ddeunydd organig. Mae'n rhaid i ddeunydd organig gael argraffnod os yw'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw, ac y caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol, fel ymgeisydd neu blaid wleidyddol gofrestredig.
Mae eithriadau ar gyfer rhai mathau o ddeunyddiau o dan y Ddeddf Etholiadau hefyd. Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at y rhain fel esemptiadau.
Caiff yr holl gysyniadau hyn eu hesbonio'n fanylach yn yr adrannau canlynol.
Mae argraffnodau yn bwysig ar gyfer tryloywder wrth ymgyrchu. Felly, mae'n arfer dda cynnwys argraffnod ar bob deunydd digidol sy'n ymwneud ag etholiadau, refferenda neu ddeisebau adalw, hyd yn oed oes nad oes angen un ar y deunydd yn ôl y gyfraith.
Hysbysebion y telir amdanynt
Os ydych wedi talu i ddeunydd digidol gael ei gyhoeddi fel hysbyseb, yna rhaid iddo gael argraffnod os yw'n ‘ddeunydd gwleidyddol’. Mae'r gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw un sy'n cyflwyno hysbyseb y telir amdani.
Mae tâl yn cynnwys taliadau o unrhyw fath – er enghraifft, hysbysebu ‘talu fesul clic’ a ‘thalu fesul argraff’.
Nid dim ond taliadau ariannol a geir. Gall taliadau hefyd gynnwys buddion mewn nwyddau, er enghraifft nwyddau neu wasanaethau a ddarperir am ddim neu am bris gostyngol gan yr hyrwyddwr i'r llwyfan digidol am letya'r hysbyseb.
Nid yw'n cynnwys taliadau fel rhan o'r costau o greu, sefydlu, gweithredu neu gynnal y deunydd. Mae'n gyfyngedig i daliadau a wneir yn benodol i ddarparwr y gwasanaeth neu'r llwyfan sy'n lletya'r hysbysebion am gyhoeddi'r hysbysebion hynny. Os na fydd darparwr y gwasanaeth sy'n lletya'r hysbyseb (er enghraifft, llwyfan digidol neu hysbysebwr hysbysfyrddau electronig) wedi cael ei dalu am gyhoeddi'r deunydd ar y llwyfan, yna nid yw'r deunydd yn hysbyseb y telir amdani.
Example
Er enghraifft, os byddwch yn cyflogi asiantaeth ddigidol i dalu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am osod yr hysbysebion ar eu llwyfannau, mae'r rhain yn hysbysebion y telir amdanynt am fod yr asiantaeth yn talu'r llwyfannau i gyhoeddi'r hysbysebion.
I'r gwrthwyneb, os byddwch yn cyflogi asiantaeth ddigidol i gyhoeddi deunydd digidol ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun, nid yw'r rhain yn hysbysebion y telir amdanynt, am nad yw'r llwyfannau lle caiff y deunydd ei gyhoeddi yn cael eu talu. Nid yw'r ffaith bod yr asiantaeth yn cael ei thalu yn gwneud y deunydd yn hysbyseb y telir amdano.
Yn yr un modd, os byddwch yn talu dylanwadwr neu lysgennad i bostio deunydd ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun, nid yw'r rhain yn hysbysebion y telir amdanynt, am nad yw'r llwyfannau lle caiff y deunydd ei gyhoeddi yn cael eu talu am gyhoeddi'r deunydd. Mae hyn yn wir hyd yn oed os caiff y postiadau eu dosbarthu fel hysbysebion at ddibenion deddfwriaeth arall.
Paid adverts2
Ni fydd yr holl daliadau i ddarparwr y gwasanaeth sy'n lletya'r deunydd yn golygu bod y deunydd yn hysbyseb y telir amdani – dim ond y rheini a wneir i ddarparwr y gwasanaeth yn benodol am gyhoeddi'r deunydd fel hysbyseb.
Example
Er enghraifft, os byddwch yn talu cwmni cyfryngau cymdeithasol am fath penodol o gyfrif (e.e. y cyfrif glas y telir amdano ar Twitter), nid yw hyn yn golygu bod pob postiad gennych yn hysbyseb y telir amdani.
I'r gwrthwyneb, os byddwch yn talu cwmni cyfryngau cymdeithasol i gynyddu cyrhaeddiad postiad drwy ei gyhoeddi fel hysbyseb (e.e. hybu postiad ar Facebook), yna bydd hyn yn hysbyseb y telir amdani.
Paid adverts3
Os nad yw deunydd yn hysbyseb y telir amdani, yna mae'n ‘ddeunydd organig’. Gall fod angen argraffnod ar ddeunydd organig o hyd – gweler yr adran ‘Deunydd Organig’.
Deunydd gwleidyddol
Deunydd gwleidyddol yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi:
- un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
- ymgeisydd penodol neu ddarpar ymgeisydd penodol (yn ei rinwedd fel y cyfryw)
- deiliad swydd etholedig penodol (yn ei rinwedd fel y cyfryw)
- pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
- categorïau eraill o ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ASau a gafodd eu magu yn eu hetholaeth
- cynnal refferendwm, neu ganlyniad penodol refferendwm
- unrhyw gyfuniad o'r uchod
Ceir enghreifftiau isod o hysbysebion digidol y telir amdanynt a ystyrir yn ddeunydd gwleidyddol:
Deunydd gwleidyddol y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi plaid wleidyddol.
Deunydd gwleidyddol y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi ymgeisydd penodol
Deunydd gwleidyddol y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i beidio â chefnogi deiliad swydd etholedig
Deunydd gwleidyddol y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi categori o ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi polisi.
Deunydd gwleidyddol y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi canlyniad refferendwm.
Gall deunydd fod yn ddeunydd gwleidyddol ar unrhyw adeg, nid dim ond yn ystod cyfnodau etholiadau neu refferenda. Er enghraifft, gallech dalu am hysbyseb ddigidol sy'n hyrwyddo plaid neu ddeiliad swydd etholedig ar unrhyw adeg, heb iddo fod yn gysylltiedig â digwyddiad etholiadol.
Dim ond os gellir ystyried yn rhesymol bod unig ddiben neu brif ddiben hysbysebion y telir amdanynt wedi'i gynnwys ar y rhestr uchod, y bydd angen argraffnod arnynt.
Example
Er enghraifft, ni fyddai angen argraffnod ar bostiad Facebook o ddigrifwr yn beirniadu un o weinidogion y Llywodraeth fel arfer, oherwydd gellir ystyried yn rhesymol fel arfer mai prif ddiben y clip yw hyrwyddo'r digrifwr.
Political material2
Os bydd sefydliad yn cyhoeddi deunydd digidol, ni fydd unig ddiben neu brif ddiben unrhyw ddeunydd a nodir bob amser yr un fath â diben cyffredinol y sefydliad. Mater o ffaith ym mhob achos fydd a ellir ystyried yn rhesymol bod unig ddiben neu brif ddiben unrhyw ddarn penodol o ddeunydd yn un a nodir yn y rhestr uchod.
Yn benodol, os yw prif ddiben darn penodol o ddeunydd yn ymwneud â mater ymgyrchu ei hun a dim un o'r rhain ar y rhestr uchod, ni fydd yn ddeunydd gwleidyddol.
Example
Er enghraifft, tybiwch mai prif amcan sefydliad ymgyrchu yn 2023 yw ailgyflwyno'r gosb eithaf. Mae'n rhedeg tair cyfres o hysbysebion y telir amdanynt.
Mae'r hysbyseb gyntaf yn beirniadu plaid wleidyddol sy'n gwrthwynebu'r gosb eithaf. Gellir ystyried yn rhesymol mai prif ddiben y deunydd hwn yw dylanwadu ar y cyhoedd i beidio â chefnogi'r blaid. Felly mai angen argraffnod.
Mae'r ail hysbyseb yn dadlau o blaid cynnal refferendwm ar ailgyflwyno'r gosb eithaf. Gellir ystyried yn rhesymol mai prif ddiben y deunydd hwn yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi cynnal refferendwm. Felly mae angen argraffnod.
Mae'r trydydd hysbyseb yn rhestru nifer o ragfynegiadau cadarnhaol ynghylch effeithiau ailgyflwyno'r gosb eithaf. Gellir ystyried yn rhesymol mai prif ddiben y deunydd hwn yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi'r gosb eithaf. Felly nid oes angen argraffnod.
Er bod gan y sefydliad brif ddiben sefydliadol cyffredinol, mae gan y darnau gwahanol o ddeunydd digidol a gyhoeddir ganddo brif ddibenion gwahanol. Mae hyn yn golygu bod angen argraffnod ar rai o'r deunyddiau, ond nid ar eraill, yn dibynnu ar y ffeithiau.
Deunydd gwleidyddol sy'n gysylltiedig â refferenda
Bydd hysbyseb y telir amdani yn ddeunydd gwleidyddol os gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi cynnal unrhyw fath o refferendwm yn y DU, neu ganlyniad penodol hynny, fel:
- refferendwm ledled y DU
- refferendwm a gynhelir yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu unrhyw gyfuniad o'r rhain
- refferendwm Senedd Cymru
- refferendwm llywodraethu awdurdod lleol
- refferendwm llywodraeth leol
- digwyddiad pleidleisio lleol
- refferendwm ar gynyddu treth gyngor
- digwyddiad pleidleisio plwyf
- refferendwm Cynllunio Cymdogaeth
Rhaid i unrhyw hysbyseb ddigidol y telir amdani sy'n cefnogi canlyniad mewn refferendwm a gynhelir gynnwys argraffnod.
Rhaid i unrhyw hysbyseb sy'n hyrwyddo canlyniad mewn refferendwm posibl yn y dyfodol gael argraffnod, hyd yn oed os nad yw'r refferendwm hwnnw wedi cael ei alw neu os na ddeddfwyd yn ei gylch.
Example
Er enghraifft, mae cryn drafod ynghylch cynnal refferendwm ar fater, ond nid yw wedi cael ei alw'n swyddogol na'i ddeddfu eto. Os bydd ymgyrchydd yn gosod hysbyseb y telir amdani sy'n dweud ‘PLEIDLEISIWCH IE’ mewn perthynas â'r mater penodol, gellid ystyried yn rhesymol fod hyn yn dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi canlyniad penodol (Ie) mewn refferendwm yn y dyfodol. Felly byddai angen argraffnod.
pol ref 2
Rhaid i unrhyw hysbyseb ddigidol sy'n dadlau'n bendant o blaid cynnal refferendwm newydd gael argraffnod. Nid oes gwahaniaeth os nad yw'n debygol y caiff y refferendwm ei gynnal – bydd y gofynion ynghylch argraffnodau yn gymwys o hyd.
Example
Er enghraifft, byddai angen argraffnod ar hysbyseb ddigidol y telir amdani sy'n galw am refferendwm ar gael annibyniaeth i Ogledd Lloegr.
Pol ref 3
Ni fydd hysbysebion y telir amdanynt mewn perthynas â refferenda a gynhaliwyd yn y gorffennol yn ddeunydd gwleidyddol o dan ran refferendwm y diffiniad.
example
Er enghraifft, ni fyddai angen argraffnod ar hysbyseb y telir amdani i goffáu’r refferendwm yng Ngogledd Iwerddon yn 1998 a gymeradwyodd Gytundeb Gwener y Groglith.
pol ref 4
Gall rhai hysbysebion digidol y telir amdanynt fod yn gysylltiedig â:
- phwnc testun refferendwm blaenorol
- effeithiau canlyniad refferendwm
- y broses o roi canlyniad refferendwm ar waith
Gan fod y refferendwm wedi digwydd yn yr achosion hyn, dim ond os bydd y deunydd yn bodloni un o rannau eraill y meini prawf ar gyfer deunydd gwleidyddol y bydd angen argraffnod arno.
example
Er enghraifft, ni ellid ystyried yn rhesymol mai bwriad hysbyseb y telir amdani a gyhoeddir ar ôl refferendwm yn dweud ‘PARCHWCH Y CANLYNIAD’ yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi'r canlyniad buddugol yn y refferendwm, oherwydd bod y refferendwm eisoes wedi digwydd.
Fodd bynnag, yn dibynnu ar y cyd-destun a'r deunydd, gall fod yn ddeunydd gwleidyddol am reswm arall. Er enghraifft, gellid ystyried yn rhesymol mai'r bwriad yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi plaid benodol neu gategori o ddeiliaid swyddi etholedig sydd â barn benodol am sut i roi'r canlyniad ar waith, neu i beidio â chefnogi cynnig i gynnal ail refferendwm.
Deunydd organig
Os nad ydych wedi talu i'r deunydd digidol gael ei gyhoeddi fel hysbyseb – er enghraifft, rydych newydd ei rannu ar eich cyfryngau cymdeithasol eich hun – nid yw'n ddeunydd organig.
Mae'n rhaid i ddeunydd organig gynnwys argraffnod os yw'n bodloni'r amodau isod:
- caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol
- mae'n un o'r canlynol:
- deunydd etholiad
- deunydd refferendwm
- deunydd deiseb adalw
Caiff y cysyniadau hyn eu hesbonio isod.
Endidau perthnasol
Yr endidau perthnasol yw:
- plaid gofrestredig
- ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig
- ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
- ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
Os nad yw rhywun yn endid perthnasol, a'i fod yn cyhoeddi deunydd organig ar ei ran ei hun, ni fydd angen argraffnod ar y deunydd.
Rhaid i ddeunydd organig a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod, hyd yn oed os nad yw wedi talu iddo gael ei gyhoeddi, os yw'n un o'r canlynol:
- deunydd etholiad
- deunydd refferendwm
- deunydd deiseb adalw
Yn wahanol i hysbysebion y telir amdanynt, mae'r tri math o ddeunydd organig y mae angen argraffnod arnynt oll yn ymwneud â digwyddiadau etholiadol penodol. Felly, mae mwy o angen argraffnod ar ddeunydd organig yn ystod yr ymgyrchoedd yn y cyfnod cyn y digwyddiadau hyn.
Deunydd etholiad
Deunydd etholiad yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol ar gyfer:
- un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, neu ddarpar ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
- categorïau eraill o ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr a aeth i un o ysgolion y wladwriaeth, neu ymgeiswyr annibynnol (nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol)
- unrhyw gyfuniad o'r uchod
Mae'n cynnwys deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio o blaid neu yn erbyn un o'r endidau a restrir uchod – er enghraifft, mae'n cynnwys ymgyrch gadarnhaol am bolisïau plaid, ac ymgyrch negyddol yn beirniadu polisïau plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn.
Os bydd deunydd yn bodloni unrhyw rai o'r meini prawf hyn, bydd yn ddeunydd etholiad hyd yn oed os gellir ystyried yn rhesymol fod ganddo ddibenion eraill hefyd. Ceir rhagor o fanylion am y pwynt hwn yn yr adran am ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae'n rhaid i ddeunydd digidol organig sy'n ddeunydd etholiad ac a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod. Ceir enghreifftiau isod o ddeunydd organig a ystyrir yn ddeunydd etholiad:
Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn plaid wleidyddol.
Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol ar gyfer ymgeisydd.
Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol ar gyfer categori o ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi polisi.
Deunydd refferendwm
Deunydd refferendwm yw deunydd sy'n gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â refferendwm PPERA, ac a gyhoeddir yn ystod cyfnod y refferendwm.
Mae hyn yn golygu, yn y rheolau ar gyfer deunydd organig, fod deunydd refferendwm ond yn gysylltiedig â refferendwm a gynhelir – yn wahanol i'r rheolau ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt, a all hefyd fod yn gymwys i ddeunydd sy'n ymwneud â refferenda na fyddant yn digwydd o bosibl.
Refferendwm PPERA yw refferendwm a gynhelir o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, gan gynnwys:
- refferendwm ledled y DU
- refferendwm a gynhelir yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon neu mewn mwy nag un o'r rhain (ond heb gynnwys refferendwm Senedd Cymru)
Nid yw'r rheolau ar gyfer deunydd organig yn gymwys i ddeunydd sy'n gysylltiedig ag unrhyw fath arall o refferendwm, er enghraifft:
- refferendwm Senedd Cymru
- refferendwm llywodraeth leol
- refferendwm llywodraethu awdurdod lleol
- digwyddiad pleidleisio lleol
- refferendwm ar gynyddu treth gyngor
- digwyddiad pleidleisio plwyf
- refferendwm Cynllunio Cymdogaeth
Mae'n rhaid i ddeunydd digidol organig sy'n ddeunydd refferendwm ac a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod.
Deunydd deiseb adalw
Deunydd deiseb adalw yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant neu fethiant deiseb adalw.
Mae'n rhaid i ddeunydd digidol organig sy'n ddeunydd deiseb adalw ac a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod.
Esemptiadau
Nid oes angen cynnwys argraffnod ar y mathau canlynol o ddeunydd oherwydd eu bod wedi'u hesemptio yn benodol:
- Deunydd, heblaw am hysbyseb, a gyhoeddir ar wefan neu ap sydd ar gyfer newyddiaduraeth yn bennaf
- Unrhyw ddarllediad gwleidyddol neu ddarllediad ymgyrch refferendwm
- Deunydd penodol a rennir sy'n dal i gynnwys yr argraffnod gwreiddiol. Ceir rhagor o fanylion yn Rhannu ac ailgyhoeddi deunydd
Deunydd a gyhoeddir ar wefan neu ap sydd ar gyfer newyddiaduraeth yn bennaf
- Nid oes angen i ddeunydd, heblaw am hysbyseb, a gyhoeddir ar wefan neu ar ap ffôn symudol sydd â newyddiaduraeth fel ei brif ddiben (neu un o'i brif ddibenion) gynnwys argraffnod. Nid yw'r esemptiad hwn yn gymwys i hysbysebion, ni waeth a yw'r llwyfan wedi cael ei dalu i gyhoeddi'r hysbyseb ai peidio.
Gall gwefannau neu apiau sydd â newyddiaduraeth fel un o'u prif ddibenion gynnwys, er enghraifft:
- Sianeli papurau newydd neu newyddion ar-lein
- Apiau papurau newydd
- Gorsafoedd radio ar-lein
Darllediad gwleidyddol neu ddarllediad ymgyrch refferendwm
Nid oes angen cael argraffnodau digidol ar unrhyw ddarllediad gwleidyddol neu ddarllediad ymgyrch refferendwm a gaiff ei gynnwys gan ddarlledwr yn ei wasanaethau darlledu. Ystyr “darlledwr” yw:
- deiliad trwydded o dan Ddeddf Darlledu 1990 neu 1996,
- Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, neu
- Sianel Pedwar Cymru.
Ystyr ‘darllediad ymgyrch refferendwm’ yw unrhyw ddarllediad sydd â'r diben (neu'r prif ddiben) neu y gellir tybio'n rhesymol mai ei ddiben (neu ei brif ddiben) yw datblygu unrhyw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad penodol mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn a ofynnir mewn refferendwm y mae Rhan 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn gymwys, neu fel arall i hyrwyddo neu sicrhau unrhyw ganlyniad arall.
Os bydd plaid yn cyhoeddi'r un deunydd ar blatfform digidol, er enghraifft ar ei gwefan, yna ni fydd hyn yn ddarllediad gwleidyddol ac felly ni fydd wedi'i esemptio.
Ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr
Os ydych yn ymgeisydd neu'n ddarpar ymgeisydd, mae'n rhaid i chi gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn yr adrannau blaenorol.
Er enghraifft, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mewn perthynas â hysbysebion y telir amdanynt a deunydd organig, bydd angen argraffnod ar unrhyw ddeunydd sy'n:
- hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth
- beirniadu ymgeisydd arall
- hyrwyddo eich plaid wleidyddol (os oes gennych un) yn yr etholiad
- beirniadu plaid wleidyddol arall yn yr etholiad
Dod yn ddarpar ymgeisydd
Byddwch yn dod yn ddarpar ymgeisydd pan fyddwch yn cyhoeddi eich bwriad i sefyll yn yr etholiad nesaf, neu os bydd rhywun arall yn ei gyhoeddi ar eich rhan. Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion.
Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl bod yn ddarpar ymgeisydd am gyfnod hir cyn yr etholiad. Unwaith y caiff eich bwriad i sefyll ei ddatgan, byddwch yn ddarpar ymgeisydd, ac felly byddwch yn endid perthnasol a bydd gofyn i chi gynnwys argraffnodau ar ddeunydd organig os yw'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw.
Byddwch yn rhoi'r gorau i fod yn ddarpar ymgeisydd os byddwch yn tynnu eich datganiad o fwriad i sefyll yn ôl, neu pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd.
Os ydych yn ddarpar ymgeisydd, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad neu, ar gyfer etholiad cyffredinol seneddol, ar y dyddiad y caiff y Senedd ei diddymu.
Hyd yn oed cyn i chi fod yn ymgeisydd neu'n ddarpar ymgeisydd, bydd angen i chi gynnwys argraffnod ar hysbyseb ddigidol y telir amdani o hyd os yw'n ddeunydd etholiad.
Pleidiau gwleidyddol
Mae'n arfer dda i bleidiau gwleidyddol gynnwys argraffnod ar eu holl ddeunyddiau digidol.
Deunydd organig
Mae plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol yn un o'r endidau perthnasol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i blaid gofrestredig gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd organig sydd naill ai'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw.
Yn benodol, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mae'n rhaid i blaid gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd organig sy'n:
- hyrwyddo'r blaid neu unrhyw un o'i hymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr mewn etholiad
- beirniadu plaid arall neu unrhyw un o'i hymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr mewn etholiad
- hyrwyddo canlyniad mewn refferendwm PPERA – hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd refferendwm
- hyrwyddo canlyniad mewn deiseb adalw – hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Swyddog Deisebau fel ymgyrchydd deiseb adalw
Hysbysebion y telir amdanynt
Fel unrhyw un arall, mae'n rhaid i blaid wleidyddol gynnwys argraffnod ar unrhyw hysbyseb y telir amdani sy'n ddeunydd gwleidyddol.
Yn benodol, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mae hyn yn cynnwys unrhyw hysbyseb ddigidol y telir amdani, a gyhoeddir unrhyw bryd, y gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd i wneud y canlynol:
- cefnogi'r blaid neu unrhyw un o'i hymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig
- peidio â chefnogi'r plaid arall neu unrhyw un o'i hymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig
- cefnogi neu beidio â chefnogi cynnig i gynnal refferendwm
- cefnogi neu beidio â chefnogi canlyniad mewn refferendwm sy'n digwydd, hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd refferendwm
- cefnogi neu beidio â chefnogi canlyniad mewn deiseb adalw – hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Swyddog Deisebau fel ymgyrchydd deiseb adalw
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn unigolion a sefydliadau sy'n ymgyrchu o gwmpas adeg etholiadau heb sefyll fel ymgeiswyr eu hunain. Mae galluogi ymgyrchwyr i gyfleu eu negeseuon i bleidleiswyr yn rhan sylfaenol o'r broses ddemocrataidd, ac mae'n bwysig bod pleidleiswyr yn clywed gan amrywiaeth eang ac amrywiol o ymgyrchwyr.
Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n gwario mwy na swm penodol ar ymgyrchu mewn etholiadau gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol.
Yn wahanol i blaid wleidyddol, lle mae'n debygol y bydd angen argraffnod ar lawer o'i deunydd, os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ymgyrchu ar fater, efallai y byddwch yn gweld mai dim ond ar rywfaint o'ch deunydd y bydd angen argraffnod. Dylech ystyried a oes angen argraffnod ar bob darn o ddeunydd drwy ystyried y ffeithiau.
Mae argraffnodau yn bwysig ar gyfer tryloywder wrth ymgyrchu. Felly, mae'n arfer dda cynnwys argraffnod ar bob deunydd digidol sy'n ymwneud ag etholiadau, refferenda a deisebau adalw, hyd yn oed oes nad oes angen i'r deunydd gynnwys un yn ôl y gyfraith.
Os bydd ymgyrchydd yn cynnwys argraffnod ar ei ddeunydd, nid yw hynny'n golygu bod angen un ar y deunydd yn ôl y gyfraith. Mae'n ddigon posibl y bydd yr ymgyrchydd yn cynnwys un fel arfer orau er mwyn sicrhau tryloywder.
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar y ddau fath o ddeunydd y gall fod angen argraffnod arnynt.
Hysbysebion y telir amdanynt – pob ymgyrchydd
Os byddwch yn talu llwyfan digidol i gyhoeddi hysbyseb ddigidol, bydd angen i chi benderfynu a yw'r hysbyseb yn ‘ddeunydd gwleidyddol’. Bydd eich hysbyseb yn ddeunydd gwleidyddol os gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw un o'r dibenion ar y rhestr.
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ymgyrchu ar fater, mae'n debygol y bydd prif ddiben eich ymgyrch gyffredinol yn seiliedig ar y mater hwnnw. Fodd bynnag, nid nod cyffredinol eich sefydliad sy'n bwysig ar gyfer p'un a yw eich hysbyseb ddigidol yn ddeunydd gwleidyddol, ond p'un a yw unig ddiben neu brif ddiben hysbyseb benodol y telir amdani yn ddiben sy'n gwneud yr hysbyseb yn ddeunydd gwleidyddol (gweler yr adran hysbysebion y telir amdanynt am enghreifftiau ar y pwynt hwn a'r diffiniad o ddeunydd gwleidyddol).
Os ydych yn elusen gofrestredig, a'ch bod yn dilyn cyfraith a chanllawiau elusennau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, mae'n annhebygol y bydd unig ddiben neu brif ddiben eich deunydd ar y rhestr, gan fod llawer o'r mathau o ymgyrchoedd sydd â'r dibenion hynny wedi'u gwahardd. Er enghraifft, rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth pleidiau ac mae'n rhaid iddynt beidio â chefnogi plaid wleidyddol nac ymgeisydd na chreu canfyddiad o gefnogaeth o ganlyniad i'w gweithredoedd neu eu cyfranogiad.
Gall hyn hefyd fod yn gymwys i sefydliadau eraill sydd â chyfyngiadau ar eu gweithgareddau gwleidyddol, er enghraifft yn eu cyfansoddiad.
Deunydd organig – ymgyrchoedd cofrestredig
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol, yna rhaid i chi gynnwys argraffnod ar ddeunydd organig yn ogystal â hysbysebion y telir amdanynt – gan gynnwys unrhyw beth y byddwch yn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol – os yw'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw.
Mae deunydd etholiad yn debyg iawn i'r deunydd sy'n bodloni'r ‘prawf diben’ ar gyfer ymgyrchydd a reoleiddir nad yw'n blaid (ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau’r Comisiwn ar wariant). Os ydych wedi penderfynu bod eich deunydd digidol yn bodloni'r prawf diben, bydd hefyd angen iddo gynnwys argraffnod.
Mae'n bosibl nad dylanwadu ar bleidleiswyr yw prif fwriad eich deunydd. Er enghraifft, gallech gyhoeddi deunydd ag un neu fwy o'r bwriadau canlynol:
- codi ymwybyddiaeth o fater
- dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi yn eu maniffestos
- ymgyrchu o blaid neu yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth
- rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr
- annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio
- annog pobl i bleidleisio, ond nid dros unrhyw un yn benodol
Ni fydd deunydd y gellir ystyried yn rhesymol fod ganddo un o'r bwriadau hyn yn ddeunydd etholiad, oni bai y gellir ystyried yn rhesymol hefyd y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr penodol.
Hyd yn oed os yw eich prif fwriad yn ymwneud â rhywbeth arall, bydd eich deunydd yn ddeunydd etholiad o hyd os gellir ystyried yn rhesymol y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr penodol.
Er enghraifft, tybiwch mai eich bwriad yw dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi. Os byddwch yn mynd ati i wneud hyn drwy gyhoeddi deunydd sy'n hyrwyddo pleidiau ac ymgeiswyr sydd eisoes wedi mabwysiadu'r polisi, yna bydd hyn yn ddeunydd etholiad oherwydd gellir ystyried yn rhesymol mai diben eich deunydd yw dylanwadu ar bleidleiswyr i gefnogi'r pleidiau a'r ymgeiswyr hynny.
Os na ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad deunydd sy'n seiliedig ar faterion yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr penodol, yna nid yw'n ddeunydd etholiad.
Ceir rhagor o enghreifftiau isod.
Eg 1
Cyn i unrhyw etholiad gael ei gyhoeddi, mae sefydliad lles anifeiliaid yn cyhoeddi edefyn trydar yn esbonio'r hyn sy'n achos o gam-drin anifeiliaid caeth yn ei farn ef. Yn ogystal â nodi problemau, mae'n dadlau mai un o'r achosion yw polisi'r llywodraeth a diffyg cyllid. Nid yw'n crybwyll etholiadau, ymgeiswyr na phleidiau gwleidyddol.
Nid yw hyn yn ddeunydd etholiad ac nid oes angen argraffnod arno. Er bod y deunydd yn beirniadu'r llywodraeth, ni ellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad.
Eg 2
Ddau fis cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'r sefydliad lles anifeiliaid sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol yn ail-drydar, heb wneud sylw arni, erthygl newyddion sy’n nodi bod y blaid sydd mewn llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn cyfreithloni hela llwynogod os caiff ei ailethol.
Nid yw hyn yn ddeunydd etholiad. Dim ond rhannu gwybodaeth a wneir yma, a byddai disgwyl i'r sefydliad rannu unrhyw newyddion sy'n berthnasol i'w waith. Nid oes angen unrhyw argraffnod.
Eg 3
Ar ôl i'r holl brif bleidiau lansio eu maniffestos cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'r ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cymharu'r addewidion yn eu maniffestos ynghylch hela llwynogod. Mae'n llunio graffigyn sy'n cymharu safbwyntiau'r pleidiau o ran y mater, gan roi marciau allan o ddeg a dweud pa blaid sydd â'r polisïau gorau. Yna mae'n cyhoeddi'r graffigyn ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun.
Gan fod yr ymgyrchydd wedi cymharu'r pleidiau ac wedi dweud pa un yw'r gorau yn y cyd-destun hwn, i bob pwrpas, mae wedi hyrwyddo rhai uwchlaw eraill. Gellir ystyried yn rhesymol felly fod y graffigyn yn hyrwyddo'r pleidiau hynny sydd â pholisïau gwell ym marn yr ymgyrchydd, ac felly mae'n ddeunydd etholiad. Mae angen argraffnod ar y deunydd.
Eg 4
Yn ystod cyfnod refferendwm ar gyfer refferendwm PPERA, mae ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cyhoeddi blog ar ei wefan yn nodi effeithiau pob canlyniad ar ddefnyddwyr ei wasanaeth yn ei dyb ef.
Mae angen argraffnod ar hyn. Ar gyfer deunydd organig a gyhoeddir yn ystod cyfnod y refferendwm, nid oes gwahaniaeth a yw'r deunydd yn hyrwyddo canlyniad yn y refferendwm – dim ond sicrhau ei fod yn gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â'r refferendwm sy'n rhaid ei wneud.
Deunydd organig – ymgyrchwyr anghofrestredig
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid ac nad ydych wedi cofrestru â'r Comisiwn Etholiadol, yna ni fydd angen i chi gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd digidol organig rydych yn ei gyhoeddi ar eich rhan eich hun. Mae hyn am nad yw ymgyrchydd anghofrestredig nad yw'n blaid yn endid perthnasol.
Dim ond ar hysbysebion y telir amdanynt y bydd angen i ymgyrchwyr anghofrestredig nad ydynt yn bleidiau sydd ond yn cyhoeddi deunydd ar eu rhan eu hunain gynnwys argraffnod.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chynnwys yn yr argraffnod?
Rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad:
- yr hyrwyddwr
- unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (ond nid yr hyrwyddwr)
Rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad post lle gellir cysylltu â chi. Gall fod yn gyfeiriad swyddfa neu fusnes, neu'n gyfeiriad cartref. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfeiriad Blwch SP neu wasanaeth blwch post arall.
Rhaid i'r argraffnod fod ar ffurf testun, oni chaiff ei gynnwys fel rhan o ddeunydd sain yn unig. Yn yr achos hwn, rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel deunydd sain.
Rhaid i'r argraffnod fod yn ddarllenadwy, neu yn achos deunydd sain, yn glywadwy, ni waeth pa ddyfais a ddefnyddir i gael gafael ar y wybodaeth.
Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, rhaid i chi sicrhau bod argraffnod ysgrifenedig ar sgrin am ddigon o gyfnod iddo gael ei ddarllen. Yn yr un modd, rhaid i argraffnod sain gael ei ddarllen ar gyflymder lle gellir ei glywed a'i ddeall.
Os caiff deunydd digidol lle mae angen argraffnod ei gyhoeddi heb un, gall yr hyrwyddwr ac unrhyw un y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran fod yn agored i drosedd o dan adran 48 o Ddeddf Etholiadau 2022.
Yr hyrwyddwr ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran
Yr hyrwyddwr yw pwy bynnag sy'n awdurdodi i'r deunydd gael ei gyhoeddi.
Gall yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran fod yn unigolyn neu'n sefydliad.
Os caiff y deunydd ei gyhoeddi gan sefydliad, yna'r sefydliad ei hun yw'r hyrwyddwr. Nid oes angen manylion unigolyn.
Eg1
Er enghraifft, os bydd cyflogai ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cyhoeddi deunydd ar ran yr ymgyrchydd yn ystod ei rôl fel cyflogai, yna'r ymgyrchydd nad yw'n blaid ei hun yw'r hyrwyddwr a'i fanylion ef y mae'n rhaid eu darparu.
What info 2
Rhaid i'r argraffnod gynnwys manylion yr hyrwyddwr ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. Mae hyn yn golygu na fydd eich manylion eich hun yn ddigon i fodloni'r gofynion ar argraffnodau, yn dibynnu ar eich sefyllfa benodol.
Eg 2
Er enghraifft, os bydd asiant yn cyhoeddi deunydd ar ran ei ymgeisydd, yna rhaid i'r argraffnod gynnwys manylion yr asiant, fel hyrwyddwr, a manylion yr ymgeisydd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran.
Fel enghraifft arall, tybiwch fod rhywun yn asiant ar gyfer ymgeisydd, a hefyd yn cyhoeddi deunydd fel rhan o'i rôl yn gwirfoddoli i blaid wleidyddol. Bydd rhywfaint o'r deunydd y bydd yn ei hyrwyddo ar ran yr ymgeisydd, ac felly bydd angen iddo gynnwys manylion yr asiant fel hyrwyddwr a manylion yr ymgeisydd fel y person arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. Bydd rhywfaint ohono ar ran y blaid, ac felly bydd angen manylion y blaid yn lle hynny.
What info 3
Gellid cyhoeddi deunydd ar ran rhywun am nifer o resymau, gan gynnwys:
- y rôl sydd gan rywun mewn ymgyrch – er enghraifft, efallai y bydd asiant yn cyhoeddi deunydd ar ran ei ymgeisydd, sy'n golygu mai'r asiant yw'r hyrwyddwr.
- mae'n talu am wasanaeth – er enghraifft, gall dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol gyhoeddi ei ddeunydd organig ei hun ar ran y blaid wleidyddol sydd wedi ymgysylltu â'r unigolyn i wneud hynny, sy'n golygu mai'r dylanwadwr yw'r hyrwyddwr.
- mae'n rhan o grŵp ehangach sy'n rhan o'r gwaith o gyhoeddi'r deunydd – er enghraifft, efallai y bydd ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cyhoeddi deunydd ar ran clymblaid o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, sy'n golygu mai'r ymgyrchydd nad yw'n blaid hwnnw yw'r hyrwyddwr.
Os ydych yn cael eich talu i gyhoeddi'r deunydd, mae'n rhaid i'r deunydd gynnwys argraffnod sy'n cynnwys manylion pwy bynnag sy'n eich talu. Mae hyn, yn dibynnu ar y ffeithiau, naill ai am mai hwn yw'r hyrwyddwr, neu am eich bod yn cyhoeddi'r deunydd ar ei ran.
Os ydych yn sefydliad sy'n cael rhoddion am eich gweithrediadau cyffredinol, nid yw hyn yn golygu y caiff deunydd a gyhoeddir gennych ei gyhoeddi ar ran eich rhoddwyr.
Os bydd aelod o staff neu wirfoddolwr yn cyhoeddi ei ddeunydd ei hun ohono'i hun, yn ei rinwedd personol ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ei hun, nid ystyrir bod hyn yn cael ei wneud ar ran ei sefydliad.
Ar gyfer deunydd a gyhoeddir gan neu ar ran plaid sy'n hyrwyddo mwy nag un o ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr y blaid, nid oes angen i'r argraffnod gynnwys manylion pob ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd unigol. Yn lle hynny, gallwch gynnwys manylion y blaid ar yr argraffnod.
Lle y dylai'r argraffnod ymddangos?
Rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Mae p'un a yw'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd yn dibynnu ar allu technegol y llwyfan y cyhoeddir y deunydd arno.
Nid yw'n dibynnu, er enghraifft, ar b'un a fydd cynnwys argraffnod yn effeithio ar y canlynol:
- eich dewisiadau o ran cynllun neu ymddangosiad y deunydd
- pa mor effeithiol fydd y deunydd yn eich barn chi
- faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyhoeddi'r deunydd
Os caiff yr argraffnod ei gynnwys fel rhan o'r deunydd, rhaid iddo gael ei gynnwys mewn ffordd, pe byddai'r deunydd yn cael ei rannu fel y mae, y bydd yr argraffnod yn dal i fod yn rhan ohono.
Eg 1
Er enghraifft, os yw'r deunydd yn ddarlun a'i fod yn cynnwys argraffnod, yna os caiff y darlun ei rannu heb ei addasu, bydd yr argraffnod yn dal i ymddangos.
Where 2
Os nad yw'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd, rhaid i'r argraffnod ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gellir ei gyrraedd drwy ddolen uniongyrchol, drwy un clic neu weithred gyfatebol fel arfer, lle mae'n haws i bleidleisiwr ddod o hyd i'r ddolen a'r argraffnod.
Os bydd yr argraffnod yn ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd, rhaid iddo gael ei gynnwys mewn ffordd, pe byddai'r deunydd yn cael ei rannu fel y mae, y bydd yr argraffnod yn dal i fod yn hygyrch o'r deunydd a rennir.
Eg 2
Er enghraifft, os yw'r deunydd yn drydariad, a bod yr argraffnod wedi'i gynnwys yn eich bio ar Twitter, yna os caiff y deunydd ei aildrydar, bydd yr argraffnod yn eich bio yn dal i fod yn hygyrch o'r aildrydariad.
Where 3
Mae hyn yn golygu na ddylech ddileu'r argraffnod o'ch bio cyhyd â bod angen argraffnod a bod y deunydd wedi'i gyhoeddi o hyd. Pe byddech yn dileu'r argraffnod, yna ni fyddai'n hygyrch mwyach pe bai'ch deunydd yn cael ei rannu.
Yn yr un modd, ni allwch gynnwys eich argraffnod rywle na fyddai'n hygyrch i'r rheini a all weld y deunydd eu hunain
Eg 3
Er enghraifft, ni all yr argraffnod fod y tu ôl i wal dalu nac ardal warchodedig arall o'r rhyngrwyd, os byddai hynny'n golygu y byddai pleidleiswyr yn gweld y deunydd a rannwyd ond na fyddai ganddynt y caniatâd angenrheidiol i weld yr argraffnod ei hun.
Where 4
Y tu hwnt i'r gofynion hyn, nid yw hyrwyddwr gwreiddiol y deunydd yn atebol am unrhyw droseddau argraffnodau sydd o ganlyniad i'r ffaith bod y deunydd wedi'i rannu gan bobl eraill yn ddiweddarach. Mae'r atebolrwydd ar y bobl sy'n ailgyhoeddi'r deunydd – gweler Rhannu ac ailgyhoeddi.
Os caiff yr argraffnod ei gynnwys yn rhywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd, rhaid iddo fod yn amlwg bod yr argraffnod yn gysylltiedig â'r deunydd. Er enghraifft, ni fyddai'n dderbyniol cyhoeddi rhestr o argraffnodau gwahanol mewn un lleoliad, sy'n uniongyrchol hygyrch o lawer o ddeunyddiau gwahanol, heb ddangos yn glir pa argraffnod sy'n gysylltiedig â pha ddeunydd.
Mae'r adrannau nesaf yn rhoi canllawiau manwl ar fathau neu gategorïau penodol o ddeunydd digidol, a'r hyn sy'n rhesymol ymarferol fel arfer.
Cyfryngau cymdeithasol
Fel arfer, y deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol fydd y postiad cyfryngau cymdeithasol cyfan. Rhaid i chi gynnwys yr argraffnod yn y postiad ei hun, os bydd hynny'n rhesymol ymarferol.
Eg 1
Er enghraifft, ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt ar Facebook, fel arfer bydd yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd – gallwch gynnwys yr argraffnod yng nghynnwys yr hysbyseb, neu yn y testun ymwadiad sy'n ymddangos ar frig yr hysbyseb.
Social media 2
Ar rai llwyfannau digidol, gall dyluniad y llwyfan, er enghraifft cyfyngiad nodau ar bostiadau, olygu nad yw'n rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r postiad. Yn yr achos hwn, rhaid i chi arddangos argraffnod darllenadwy yn rhywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r postiad. Rhaid i'r argraffnod fod yn uniongyrchol hygyrch o'r postiad ni waeth pa ddyfais a ddefnyddir. Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch wneud hyn.
Eg 2
Er enghraifft, ar Twitter, efallai na fydd yn rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod yn y postiad ei hun yn aml oherwydd bod cyfyngiad nodau. Os felly, gellir cynnwys eich argraffnod ar eich proffil, er enghraifft o dan eich enw, neu fel postiad neu drydariad wedi'i binio. Fel arall, gellir cynnwys yr argraffnod rywle arall y gallwch roi dolen uniongyrchol iddo o'ch postiad, er enghraifft, ar eich gwefan eich hun.
Social media 3
Fel arfer, nid yw adran ‘Ynglŷn â’ proffil ar lwyfan digidol yn uniongyrchol hygyrch o bostiad, am nad yw'r hyperddolen i'r proffil yn mynd â chi i'r adran honno yn uniongyrchol. Yn yr achos hwn, dim ond os byddwch yn ychwanegu eich dolen uniongyrchol eich hun i'r adran ‘Ynglŷn â’ yn y postiad y bydd yr adran ‘Ynglŷn â’ yn uniongyrchol hygyrch ohono.
Os bydd angen argraffnod ar ddeunydd, rhaid i chi sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan sy'n eich galluogi i naill ai gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd neu, os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd. Os bydd cyfleusterau llwyfan yn rhy gyfyngedig i chi allu gwneud y naill na'r llall, rhaid peidio â chyhoeddi'r argraffnod sydd angen argraffnod ar y llwyfan hwnnw.
Os byddwch yn cyhoeddi deunydd sydd angen argraffnod ar lwyfan sydd â chyfleusterau cyfyngedig, rhaid i chi gynnwys yr argraffnod ni waeth beth fo cyfyngiadau'r llwyfan. Er enghraifft, ni chaiff bio ar TikTok fod yn hwy nag 80 o nodau, ni chewch gynnwys dolenni mewn pennawd ac nid yw postiadau wedi'u pinio ar gael i bob defnyddiwr. Y ffordd orau o osgoi'r cyfyngiadau hyn yw cynnwys yr argraffnod o fewn cynnwys eich fideo TikTok ei hun.
Fideos, delweddau a chartwnau
Gall fod yn ofynnol arddangos argraffnod ar fideo neu ddelwedd o hyd, hyd yn oed os na fydd yn cynnwys unrhyw destun.
Os mai fideo neu ddelwedd yw eich deunydd, fel arfer bydd yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod yn y fideo neu'r ddelwedd, yn enwedig os ydych wedi'i greu neu ei chreu eich hun. Os nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, er enghraifft os mai delwedd fach iawn yw'r deunydd, rhaid i chi gynnwys yr argraffnod rywle sy'n uniongyrchol hygyrch ohono.
Os mai postiad cyfryngau cymdeithasol yw eich deunydd sy'n cynnwys fideo neu ddelwedd, fel arfer bydd yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r postiad. Lle mae'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r postiad, y ffordd orau o wneud hyn yw ei gynnwys yng nghynnwys y fideo neu'r ddelwedd ei hun.
Mae hyn oherwydd, os caiff ei rannu, mae'n fwy tebygol y bydd yr argraffnod yn parhau i fod yn rhan o'r deunydd. Mae hyn yn golygu y bydd pleidleiswyr yn gweld yr argraffnod gwreiddiol wrth iddo gael ei rannu, sydd fwyaf effeithiol wrth sicrhau tryloywder. Mae hefyd yn llai tebygol y bydd yn ofynnol i bobl sy'n rhannu'r deunydd gynnwys eu hargraffnod eu hunain wrth iddynt ei rannu. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran Rhannu ac ailgyhoeddi.
Fel arall, gallwch gynnwys yr argraffnod rywle arall yn y postiad. Er enghraifft, wrth lanlwytho fideo i YouTube, gallwch gynnwys yr argraffnod yn nisgrifiad y fideo.
Canllawiau statudol drafft ar argraffnodau digidol - Fideos
Fideo YouTube
Gwefannau
Os mai gwefan neu dudalen we yw'r deunydd digidol, bydd fel arfer yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod ar y dudalen we berthnasol. Er enghraifft, gellid ei arddangos yn y troedyn.
Os mai dim ond rhan o'r dudalen we yw'r deunydd, er enghraifft, postiad cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'i fewnblannu yn y dudalen, yna rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd os bydd hynny'n rhesymol ymarferol.
Os nad yw'n rhesymol ymarferol, yna gall ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd – er enghraifft, rhywle arall ar yr un dudalen we, megis y troedyn, neu rywle sydd wedi'i gysylltu â'r deunydd drwy hyperddolen.
eg
Er enghraifft, os mai hysbyseb mewn chwiliad Google yw eich deunydd, efallai na fydd cyfyngiad nodau'r disgrifiad yn ddigon i gynnwys y wybodaeth sydd ei hangen yn yr argraffnod ar y deunydd ei hun. Yn yr achos hwn, gallwch gynnwys yr argraffnod rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r hysbyseb chwiliad Google, megis y dudalen y mae'r hysbyseb yn arwain ati.
Deunydd sain
Ar ddeunydd sy'n ddeunydd sain yn unig, rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd. Er enghraifft, gallech gynnwys rhywun yn darllen yr argraffnod yn uchel ar y diwedd.
Rhaid i'r argraffnod fod yn glywadwy.
Rhaid i'r argraffnod gael ei ddarllen ar gyflymder lle gellir ei glywed a'i ddeall.
Am ba hyd y mae angen argraffnod ar ddeunydd?
Ym mhob achos, rhaid i'r deunydd digidol gynnwys argraffnod am gyhyd ag y bydd:
- yr argraffnod yn ofynnol yn ôl y gyfraith
- y deunydd wedi'i gyhoeddi o hyd
Bydd deunydd wedi'i gyhoeddi o hyd cyhyd ag y bydd ar gael i'r cyhoedd neu ran o'r cyhoedd. Er enghraifft, os bydd postiad ar gael ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol o hyd, yna bydd wedi'i gyhoeddi o hyd.
Deunydd organig
Ar gyfer deunydd organig, mae'r argraffnod yn ofynnol ar ddeunydd a gyhoeddir gan endid perthnasol am gyhyd ag y bydd y deunydd a gyhoeddir yn dal i fod yn unrhyw un o'r canlynol:
- deunydd etholiad
- deunydd refferendwm
- deunydd deiseb adalw
Am fod y mathau hyn o ddeunydd oll yn gysylltiedig â digwyddiad etholiadol penodol, mewn llawer o achosion ni fydd yr argraffnod yn ofynnol mwyach ar ôl i'r digwyddiad hwnnw ddod i ben.
Er enghraifft, ni fydd fideo sy'n dweud ‘Pleidleisiwch NA ar 10 Mai’ mewn perthynas â refferendwm sydd ar ddod yn ddeunydd refferendwm mwyach ar ôl 10 Mai pan fydd y refferendwm wedi digwydd.
Hysbysebion y telir amdanynt
Ar gyfer hysbyseb y telir amdani, bydd argraffnod yn ofynnol cyhyd ag y bydd y deunydd yn ddeunydd gwleidyddol.
Bydd pa mor hir y bydd y deunydd yn ddeunydd gwleidyddol o hyd yn dibynnu ar bwy neu beth y gellir ystyried yn rhesymol y bwriedir i'ch deunydd ddylanwadu ar gefnogaeth y cyhoedd o'i blaid neu yn ei erbyn. Os bydd y deunydd yn gysylltiedig â digwyddiad etholiadol neu gylch etholiadol penodol, yna daw i ben yn naturiol. Er enghraifft:
- gallai darpar ymgeisydd benderfynu peidio â sefyll
- bydd ymgeisydd yn rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd ar ôl y diwrnod pleidleisio
- bydd deiliad swydd etholedig yn rhoi'r gorau i fod yn ddeiliad swydd etholedig pan ddaw ei gyfnod i ben
- ni ellir dylanwadu ar gefnogaeth neu wrthwynebiad i ganlyniad penodol mewn refferendwm ar ôl y diwrnod pleidleisio
Ni fydd mor amlwg pryd y daw rhai mathau o ddeunydd gwleidyddol i ben. Er enghraifft, gallai deunydd sy'n hyrwyddo cefnogaeth neu wrthwynebiad i blaid wleidyddol barhau i wneud hynny cyhyd ag y bydd y blaid yn bodoli.
Rhannu ac ailgyhoeddi deunydd
Pan fyddwch yn rhannu deunydd â'r cyhoedd neu ran o'r cyhoedd, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd yn fath o gyhoeddiad. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at hyn fel ‘ailgyhoeddi’. Felly mae'r gyfraith ar argraffnodau hefyd yn gymwys i ddeunydd rydych yn ei rannu – er enghraifft, defnyddio'r swyddogaeth ‘aildrydar’ ar Twitter, y botwm ‘Rhannu’ ar Facebook, y swyddogaeth ‘deuawd’ ar TikTok, neu anfon neges e-bost ymlaen.
Mae hyn hefyd yn gymwys pan fyddwch yn rhannu deunydd a gyhoeddwyd gyntaf cyn i'r gyfraith ar argraffnodau digidol ddod i rym.
Fodd bynnag, os byddwch yn rhannu deunydd sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi ag argraffnod cywir ac nad ydych yn newid y deunydd yn sylweddol, ni fydd angen i chi gynnwys argraffnod newydd gyda'ch manylion eich hun. Bydd yr argraffnod gwreiddiol yn ddigonol. Yn y canllawiau hyn, rydym yn cyfeirio at hyn fel yr ‘esemptiad rhannu’.
Mae newid y deunydd yn sylweddol yn cynnwys:
- ei newid mewn modd sy'n newid ystyr y deunydd
- tynnu'r argraffnod (os oedd yn ymddangos yn wreiddiol fel rhan o'r deunydd)
- ei rannu mewn modd sy'n golygu nad yw'r argraffnod yn hygyrch o'r deunydd mwyach (os oedd yn ymddangos yn wreiddiol rywle a oedd yn uniongyrchol hygyrch o'r deunydd)
Os byddwch yn rhannu deunydd digidol sydd wedi'i gyhoeddi eisoes, ond
- rydych yn newid y deunydd hwnnw yn sylweddol, a
- bod angen argraffnod arno ar ei ffurf newydd o hyd
rhaid i chi gynnwys eich argraffnod eich hun, hyd yn oed os oedd gan y deunydd gwreiddiol argraffnod. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech fod yn cyflawni trosedd.
Pan gaiff deunydd ei ailgyhoeddi, y sawl sy'n ailgyhoeddi'r deunydd (ac unrhyw un arall y mae'n ei ailgyhoeddi ar ei ran) fydd yn gyfrifol am gynnwys argraffnod
Ni fydd y ddyletswydd hon ar hyrwyddwr y deunydd gwreiddiol sydd nawr yn cael ei ailgyhoeddi. Dim ond dyletswydd am sicrhau bod modd rhannu'r deunydd gwreiddiol heb golli'r un o'r canlynol sydd gan hyrwyddwr y deunydd gwreiddiol:
- yr argraffnod (os yw wedi'i gynnwys fel rhan o'r deunydd)
- mynediad at yr argraffnod (os yw wedi'i gynnwys rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd)
Ym mhob achos, ond yn enwedig os bydd hyrwyddwr yn annog pobl i rannu ei ddeunydd, mae'n arfer dda cynnwys yr argraffnod rywle lle caiff ei gadw hawsaf os caiff y deunydd ei rannu. Os yw'r postiad yn cynnwys delwedd neu fideo, bydd hyn fel arfer yng nghynnwys y ddelwedd neu'r fideo ei hun.
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sy'n rhannu deunydd, ni fydd angen i chi gynnwys argraffnod fel arfer. Mae hyn am nad oes angen i chi gynnwys argraffnod gydag unrhyw ddeunydd organig os nad ydych yn endid perthnasol ac nid ydych yn cyhoeddi ar ran un.
Enghreifftiau o rannu deunydd
Mae'r tablau canlynol yn dangos enghreifftiau gwahanol o ‘gadwyni’ a ddefnyddir i rannu deunydd. Mae pob tabl yn dechrau gyda'r un darn o ddeunydd digidol, ond ym mhob tabl, caiff ei ailgyhoeddi mewn nifer o ffyrdd gwahanol.
Cadwyn o rannu deunydd organig lle mae'r argraffnod wedi'i gynnwys fel rhan o'r deunydd:
Enghraifft | A oes angen argraffnod newydd? Pam? | Beth wnaethant |
---|---|---|
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn | Oes. Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei hyrwyddo gan blaid. | Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun. |
Caiff y ddelwedd ei haildrydar gan un o ASau'r blaid. | Nac oes. Mae'n ddeunydd etholiad ac mae wedi'i rhannu gan ddeiliad swydd etholedig, ond mae wedi'i esemptio o dan y rheolau ar rannu. Mae wedi'i rannu heb gael ei newid yn sylweddol ac mae argraffnod gwreiddiol y blaid yn dal i fod yn rhan o'r deunydd. | Nid yw'r AS gynnwys ei argraffnod ei hun. |
Mae darpar ymgeisydd yn aildrydar aildrydariad ei gydweithiwr. | Nac oes. Mae'r esemptiad rhannu yn dal yn gymwys – nid yw'r deunydd yn cael ei newid yn sylweddol ac mae argraffnod gwreiddiol y blaid yn dal yn rhan o'r deunydd, felly nid oes angen argraffnod arall. | Nid yw'r darpar ymgeisydd yn cynnwys ei argraffnod ei hun. |
Cadwyn o rannu deunydd organig lle mae'r argraffnod yn y deunydd yn wreiddiol ond caiff ei dynnu wrth iddo gael ei ailgyhoeddi.
Enghraifft | A oes angen argraffnod newydd? Pam? | Beth wnaethant |
---|---|---|
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn | Oes. Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei hyrwyddo gan blaid. | Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun. |
Mae ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cymryd sgrinlun o'r ddelwedd ac yn creu postiad Facebook allan ohono. Mae'n tocio'r ddelwedd fel nad yw'r argraffnod yn ymddangos mwyach. | Oes. Drwy ddileu'r argraffnod, mae wedi addasu'r deunydd yn sylweddol. Mae hyn yn golygu nad yw'r esemptiad rhannu yn gymwys. | Nid yw'r ymgyrchydd cofrestredig yn cynnwys argraffnod, ac felly mae'n cyflawni trosedd. |
Mae ymgeisydd yn rhannu'r ddelwedd wedi'i newid gan ddefnyddio'r botwm ‘Rhannu’ ar Facebook. | Oes. Nid yw'r esemptiad rhannu yn gymwys, am na wnaeth yr ymgyrchydd yn yr enghraifft flaenorol gynnwys argraffnod. | Rhaid i'r ymgeisydd gynnwys ei argraffnod ei hun. Mae'n rhesymol ymarferol iddo ei gynnwys yn y postiad, felly mae'r ymgeisydd yn ei gynnwys uwchlaw'r ddelwedd. |
Mae aelod o'r cyhoedd yn rhannu'r un ddelwedd wedi'i newid gan ddefnyddio'r botwm ‘Rhannu’ ar Facebook. | Nac oes. Gan nad yw'n hysbyseb y telir amdani, dim ond i endidau perthnasol y mae'r rheolau ar argraffnodau mewn perthynas â deunydd organig yn gymwys. Nid oes angen i aelodau o'r cyhoedd nad ydynt yn endid perthnasol, ac nad ydynt yn cyhoeddi ar ran un, gynnwys argraffnod ar ddeunydd organig, p'un a ydynt yn ei gyhoeddi'n wreiddiol neu'n ei rannu. | Nid oes angen argraffnod, felly nid yw'r aelod o'r cyhoedd yn cynnwys un. |
Cadwyn o rannu deunydd organig lle mae'r argraffnod wedi'i gynnwys rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd:
Enghraifft | A oes angen argraffnod newydd? Pam? | Beth wnaethant |
---|---|---|
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn. | Oes. Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei hyrwyddo gan blaid. | Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun. |
Mae AS o blaid sy'n cystadlu yn ei herbyn yn ailgyhoeddi'r ddelwedd wreiddiol gan ddefnyddio'r swyddogaeth ‘Dyfynnu Trydariad’ ar Twitter. Mae'n ychwanegu sylw hir sy'n beirniadu'r deunydd a'r blaid a drydarodd y ddelwedd yn wreiddiol. | Oes. Mae'r AS wedi rhannu'r deunydd ond wedi'i droi yn ddeunydd etholiad gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn y blaid wreiddiol. Oherwydd bod yr ystyr wedi'i newid, mae'r deunydd wedi cael ei newid yn sylweddol. Mae hyn yn golygu nad yw'r esemptiad rhannu yn gymwys. Mae trydariad yr AS yn ddarn o ddeunydd newydd ac mae angen argraffnod arno yn ei rinwedd ei hun. | Yn yr achos hwn, am fod yr AS wedi defnyddio llawer o'r cyfyngiad nodau gyda'i sylw, nid yw'n rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r trydariad. Felly, mae'r AS yn ychwanegu ei argraffnod ei hun o dan ei enw yn ei fio ar Twitter. Mae hwn yn uniongyrchol hygyrch o'r trydariad oherwydd bod y trydariad yn cynnwys hyperddolen i'r bio mewnol i gyfleuster y llwyfan. |
Mae darpar ymgeisydd yn aildrydar trydariad yr AS. | No. The future candidate’s tweet still contains a hyperlink with a direct link to the MP’s Twitter bio. The imprint is therefore still accessible from the shared material. | Nid yw'r darpar ymgeisydd yn cynnwys ei argraffnod ei hun. |
Mae maer etholedig yn cymryd sgrinlun o aildrydariad y darpar ymgeisydd ac yn ei gynnwys fel rhan o fideo ar TikTok. | Oes. Oherwydd y ffordd y mae'r ddelwedd wedi'i chyhoeddi, nid oes hyperddolen i broffil yr AS mwyach, lle mae'r argraffnod gwreiddiol yn ymddangos. Nid yw'r argraffnod yn hygyrch o'r deunydd y mae'r maer wedi'i ailgyhoeddi mwyach, felly nid yw'r esemptiad yn gymwys. | Felly, mae'r darpar ymgeisydd yn cynnwys ei argraffnod ei hun ar ddechrau'r fideo. |
Mae ymgeisydd yn rhannu fideo'r maer drwy ddefnyddio'r nodwedd ‘stitch’ ar TikTok. Mae adran o ddiwedd fideo'r maer yn ymddangos ar ddechrau fideo'r ymgeisydd. | Oes. Am nad yw'r adran o'r fideo cynharach sydd wedi'i chynnwys yn cynnwys argraffnod y maer, mae'r deunydd wedi cael ei newid yn sylweddol. Nid yw'r esemptiad rhannu yn gymwys. | Mae'r ymgeisydd felly'n cynnwys argraffnod yn ei fideo. |
Enghreifftiau lle y caiff deunydd organig ei ailgyhoeddi a'i droi yn hysbyseb y telir amdani:
Enghraifft | A oes angen argraffnod newydd? Pam? | Beth wnaethant |
---|---|---|
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn. | Oes. Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei lunio gan blaid. | Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun. |
Mae ymgyrchydd yn talu Facebook i roi ‘hwb’ i bostiad y blaid, gan ei droi yn hysbyseb y telir amdani. | Nac oes. Mae'r postiad hwn bellach yn hysbyseb y telir amdani, ac mae'n ddeunydd gwleidyddol. Fodd bynnag, mae'r argraffnod yn rhan o'r postiad gwreiddiol ac mae wedi'i gadw. Nid yw'r deunydd wedi'i newid yn sylweddol. Mae'r esemptiad rhannu yn gymwys ac nid oes angen i'r ymgyrchydd gynnwys ei argraffnod ei hun. | Nid yw'r ymgyrchydd yn cynnwys argraffnod. |
Mae aelod o'r cyhoedd yn llunio ac yn cyhoeddi memyn yn beirniadu plaid wleidyddol a rhai o'i deiliaid swyddi etholedig. Nid yw'n talu iddo gael ei gyhoeddi fel hysbyseb. | Nac oes. Os na chaiff deunydd ei gyhoeddi fel hysbyseb y telir amdani, yna dim ond os caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol y mae angen argraffnod. | Nid yw'r aelod o'r cyhoedd yn cynnwys argraffnod. |
Mae'r ymgyrchydd yn talu Facebook i roi ‘hwb’ i'r memyn, gan ei droi yn hysbyseb y telir amdani. | Oes. Nid oedd angen argraffnod ar y memyn gwreiddiol am nad oedd yn hysbyseb y telir amdani ac ni chafodd ei rannu gan endid gwleidyddol. Fodd bynnag, drwy roi ‘hwb’ i'r postiad, mae'r ymgyrchydd wedi'i droi yn hysbyseb y telir amdani, ac mae bellach yn ddeunydd gwleidyddol. Gan nad oedd y postiad gwreiddiol yn cynnwys argraffnod, rhaid i'r ymgyrchydd gynnwys ei fanylion ei hun yn yr hysbyseb. | Mae'r ymgyrchydd yn cynnwys ei argraffnod yn adran ‘ymwadiad’ yr hysbyseb. |
Gorfodi'r drefn
Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys sut bydd y drefn argraffnodau digidol yn Neddf Etholiadau 2022 yn cael ei gorfodi.
Troseddau ac amddiffyniadau
Os caiff deunydd digidol y mae angen argraffnod arno ei gyhoeddi heb un, yna efallai y bydd
- hyrwyddwr y deunydd
- unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran
yn cyflawni trosedd o dan adran 48(1) o'r Ddeddf Etholiadau.
Mae'n amddiffyniad i berson sydd wedi'i gyhuddo o'r drosedd hon brofi unrhyw un o'r canlynol:
- ei fod wedi methu â chydymffurfio oherwydd amgylchiadau a oedd y tu hwnt i'w reolaeth, a'i fod wedi cymryd pob cam rhesymol, ac wedi arfer diwydrwydd dyledus, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio.
- ei fod wedi cydymffurfio â'r canllawiau hyn
- yn achos ailgyhoeddi deunydd (gweler yr adran Rhannu ac ailgyhoeddi):
- bod y deunydd wedi'i gyhoeddi'n flaenorol
- nad oedd wedi'i newid yn sylweddol pan gafodd ei ailgyhoeddi
- ei fod yn credu'n rhesymol fod angen argraffnod ar y deunydd gwreiddiol o dan adran 41 a'i fod wedi cydymffurfio â gofynion yr adran honno
Cyfrifoldebau ar gyfer gorfodi'r drefn
Mae'r Ddeddf Etholiadau yn darparu ar gyfer gorfodi'r drefn ynghylch argraffnodau digidol drwy drosedd o dan adran 48(1) lle na chaiff argraffnod ei gynnwys pan fo angen.
Mae p'un ai'r heddlu neu'r Comisiwn Etholiadol sy'n gyfrifol yn y lle cyntaf yn dibynnu ar ddiben y deunydd dan sylw, fel y nodir yn adran 50. Pan fo ansicrwydd mewn achos penodol o ran pa gorff sy'n gyfrifol am orfodi, caiff y mater ei ddatrys rhwng y cyrff gorfodi fesul achos.
Deunydd gwleidyddol (hysbysebion y telir amdanynt) a deunydd etholiad (deunydd organig)
Yr heddlu fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran deunydd sy'n ymwneud â'r canlynol:
- ymgeisydd penodol
- darpar ymgeisydd penodol
- deiliad swydd etholedig penodol
Y Comisiwn Etholiadol fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran deunydd sy'n ymwneud â'r canlynol:
- pleidiau gwleidyddol
- categorïau o bleidiau, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr a/neu ddeiliaid swyddi etholedig, gan gynnwys categorïau yn seiliedig ar y canlynol:
- eu cefnogaeth o blaid neu yn erbyn polisïau penodol
- y safbwyntiau penodol sydd ganddynt
- unrhyw reswm arall
Deunydd deiseb adalw
Caiff hyn ei orfodi gan yr heddlu, ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt a deunydd organig.
Deunydd sy'n gysylltiedig â refferenda
Y Comisiwn Etholiadol fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran unrhyw ddeunydd digidol, ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt a deunydd organig, os bydd:
- yn gysylltiedig â refferendwm a gynhelir o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (mae'n refferendwm PPERA)
- yn cael ei gyhoeddi yn ystod cyfnod y refferendwm
Yr heddlu fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran unrhyw ddeunydd arall sy'n gysylltiedig â refferendwm.
Hysbysebion y telir amdanynt fydd y deunydd hwn i gyd, gan gynnwys unrhyw hysbyseb y telir amdani sydd naill ai:
- yn gysylltiedig â refferendwm nad yw'n refferendwm PPERA
- yn gysylltiedig â refferendwm sy'n refferendwm PPERA, ond sydd wedi'i gyhoeddi cyn cyfnod y refferendwm
Dull gorfodi
Bydd yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol yn ceisio gorfodi'r drosedd o dan adran 48(1) yn gyson, ond mae natur wahanol rolau a phwerau'n golygu y gallai camau gweithredu penodol amrywio.
Bydd yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol yn gorfodi mewn modd effeithiol, cymesur a theg. Yn benodol:
- Dim ond pan fydd sail resymol dros amau bod trosedd wedi'i chyflawni o dan adran 48(1) o'r Ddeddf y dylid ystyried cymryd camau gorfodi
- Dim ond pan fydd yn gymesur gwneud hynny y dylid cymryd camau gorfodi
- Ystyried ffeithiau pob sefyllfa
- Dim ond pan fydd er budd y cyhoedd i orfodi yng nghyd-destun blaenoriaethau ac adnoddau sefydliadol y dylid gwneud hynny.
Bydd p'un a yw mater er budd y cyhoedd ac yn cyfiawnhau defnyddio adnoddau yn y modd hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Gall y ffactorau hyn fod yn wahanol a/neu gael eu pwysoli'n wahanol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Nodir rhai o'r ffactorau sy'n debygol o gael eu hystyried isod, er nad yw'n rhestr gynhwysfawr:
- P'un a oedd bwriad, yn hytrach nag esgeulustod neu ddiofalwch
- P'un a yw'r argraffnod gofynnol wedi'i gynnwys yn rhannol neu'n gwbl absennol
- Effaith y deunydd – gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i raddau a lledaeniad daearyddol dosbarthiad y deunydd a nifer y bobl a all fod wedi'i weld a chael eu dylanwadu ganddo
Pan fydd y Comisiwn yn dechrau ymchwiliad, fel arfer bydd yn hysbysu'r sawl sy'n destun yr ymchwiliad cyn gynted ag y bydd yr ymchwiliad yn dechrau, oni fyddai hynny'n rhwystro'r ymchwiliad. Bydd y Comisiwn yn rhoi manylion y materion yr ymchwilir iddynt ac yn sicrhau bod y sawl sy'n destun yr ymchwiliad yn cael cyfle i ymateb iddynt.
Gall yr heddlu fynd ati i gynnal ymchwiliadau troseddol mewn ffordd wahanol.
Mae'r heddlu a'r Comisiwn yn cydnabod ei bod yn bwysig cwblhau ymchwiliadau cyn gynted â phosibl. Mae hyn er budd y cyhoedd ac er cyfiawnder y rhai dan sylw. Fodd bynnag, y flaenoriaeth bennaf bob amser fydd cynnal ymchwiliad teg a thrylwyr, a bydd hyn yn bwysicach na chynnal ymchwiliad yn gyflym os bydd y ddau yn gwrthdaro.
Defnyddio pwerau
Mae'r Ddeddf Etholiadau'n creu dau bŵer newydd mewn perthynas â gorfodi'r drefn.
Defnyddio pwerau o dan Atodlen 12 i Ddeddf Etholiadau 2022 – cael gwybodaeth
Mae gan yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol bwerau o dan Atodlen 12 i'r Ddeddf i gael dau fath gwahanol o wybodaeth.
Mae pŵer i roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person ddarparu gwybodaeth a nodir yn yr hysbysiad, sy'n ofynnol yn rhesymol:
- at ddibenion pennu a yw deunydd digidol wedi'i gyhoeddi heb argraffnod pan oedd angen un, neu
- i alluogi'r heddlu neu'r Comisiwn i gysylltu â hyrwyddwr y deunydd neu unrhyw berson arall y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran
Mae gan yr heddlu a'r Comisiwn hefyd y pŵer i roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person ddarparu deunydd electronig a nodir yn yr hysbysiad, sy'n ofynnol yn rhesymol at ddibenion pennu a yw deunydd electronig wedi'i gyhoeddi heb argraffnod pan oedd angen un.
Yn y ddau achos, gall yr heddlu ddewis defnyddio'r pŵer hwn yn hytrach na phwerau presennol i gael gwybodaeth. Gall y Comisiwn arfer y pŵer hwnnw pan fydd yn gymesur ac er budd y cyhoedd i wneud hynny. Ni fydd yr heddlu na'r Comisiwn yn gwneud hynny pan ellir cael gafael ar y wybodaeth honno drwy ddulliau eraill. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a geir o dan hysbysiad o'r fath ei defnyddio mewn unrhyw gam gorfodi yn erbyn y person sy'n darparu'r wybodaeth i'r Comisiwn.
Cydymffurfio â hysbysiadau
Pan gaiff y naill neu'r llall o'r pwerau hyn eu harfer gan yr heddlu neu'r Comisiwn, caiff dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio ei nodi y bydd yn rhaid cydymffurfio ag ef. Bydd y dyddiad cau yn gymesur, gan ystyried ffeithiau'r sefyllfa benodol, gan gynnwys ar faint o fyrder y mae angen cael gafael ar y wybodaeth.
Lle na chydymffurfir â hysbysiad o'r fath, gall yr heddlu neu'r Comisiwn geisio gorchymyn llys yn gofyn am y wybodaeth.
Defnyddio pwerau o dan adran 51 o Ddeddf Etholiadau 2022 – tynnu deunydd i lawr
Mae gan y Comisiwn bŵer o dan adran 51 o'r Ddeddf i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw ddeunydd gael ei dynnu i lawr neu i atal mynediad ato ar ôl i'r Comisiwn benderfynu bod trosedd wedi'i chyflawni o dan adran 48(1) mewn perthynas â'r deunydd hwnnw a gosod unrhyw gosb, neu gyflwyno Hysbysiad Atal, neu gytuno ar Ymgymeriad Gorfodi o dan ei bwerau yn Atodlen 19C i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Wrth benderfynu a ddylai arfer ei bŵer o dan adran 51 o'r Ddeddf, bydd y Comisiwn yn ystyried a fyddai gwneud hynny:
- yn gymesur ac er budd y cyhoedd
- yn unol â'i amcanion gorfodi
- yn helpu i gynnal neu wella tryloywder.
Ni fydd yn arfer y pŵer hwnnw fel arfer, er enghraifft, pan fydd y deunydd eisoes wedi'i dynnu i lawr; mae'r deunydd wedi'i ddiwygio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio; neu am unrhyw reswm arall nad yw'n gymesur nac er budd y cyhoedd ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei dynnu i lawr.
Mae pŵer tebyg ar gael i lys o dan adran 49(2) o'r Ddeddf, yn dilyn euogfarn ar gyfer trosedd o dan adran 48(1). Nid oes pŵer cyfatebol ar gael i'r heddlu oherwydd dim ond ar ôl canfod trosedd y gellir defnyddio'r pŵer hwn, naill ai gan lys neu'r Comisiwn.
Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cael hysbysiad i dynnu deunydd i lawr i fethu â chydymffurfio ag ef heb esgus rhesymol.
Cyngor ac arweiniad
Un maes lle ceir gwahaniaeth rhwng rolau a chylchoedd gwaith yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol yw o ran rhoi arweiniad.
Gall yr heddlu ddewis rhoi cyngor yn hytrach nag ymgymryd ag erlyniad troseddol mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith, o ran rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad.
Gall y Comisiwn ddefnyddio cyngor ac arweiniad mewn ffordd ragweithiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a bod y rhai y mae'r Comisiwn yn eu rheoleiddio yn deall eu gofynion rheoliadol yn glir, fel dull amgen i gamau gorfodi.
Cyn dechrau unrhyw ymchwiliad, bydd y Comisiwn yn ystyried a yw'n gymesur gwneud hynny, ac a fyddai defnyddio cyngor ac arweiniad yn fwy priodol. Bydd y Comisiwn yn ystyried holl ffeithiau pob achos unigol, ond mae rhai enghreifftiau o ffactorau perthnasol yn cynnwys:
- Ymgyrchwyr newydd neu amhrofiadol nad ydynt yn gyfarwydd â'r gofynion o bosibl
- Pan fydd achos neilltuol yn digwydd mewn perthynas ag ymgyrchydd sy'n cydymffurfio fel arall
- Pan gaiff materion eu datrys yn gyflym gan yr ymgyrchydd
Beth fydd yn digwydd ar ôl ymchwiliad
Lle ceir tystiolaeth o drosedd, gall yr heddlu gyfeirio'r mater at yr erlynydd cyhoeddus perthnasol (Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa'r Goron/Procuradur Ffisgal yn yr Alban, a'r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon), a fydd yn penderfynu a ddylid lansio erlyniad troseddol.
Pan fydd y Comisiwn Etholiadol yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol fod trosedd wedi'i chyflawni, gall y Comisiwn benderfynu cyflwyno cosb sifil gan ddefnyddio ei bwerau o dan Atodlen 19C i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Fel arfer, bydd y Comisiwn yn rhoi cosb lle bydd o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny a phan fo'n gymesur ac er budd y cyhoedd.
Os bydd y Comisiwn yn ceisio rhoi cosb, bydd yn dilyn y broses statudol a nodir yn Atodlen 19C i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno hysbysiad sy'n cynnig cosb, a chyfnod o amser i'r person sy'n destun yr hysbysiad wneud sylwadau.
Wrth gyflwyno sylwadau, gall y sawl sydd wedi derbyn hysbysiad gyflwyno unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol, yn eu barn hwy. Yn benodol, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, efallai y byddant am gyflwyno unrhyw amddiffyniad i'r drosedd. Efallai y byddant am wneud sylwadau ar y rhesymau dros gosb arfaethedig y Comisiwn, gan gynnwys y ffeithiau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt. Gellir cyflwyno sylwadau ar y ffordd y cafodd y ffactorau a ystyriwyd gan y Comisiwn eu cymhwyso wrth benderfynu ar y math o gosb a maint y gosb. Yn olaf, efallai y byddant am wneud sylwadau ar allu'r person dan sylw i dalu cosb ariannol a/neu'r gost i'r person dan sylw sy'n gysylltiedig ag unrhyw ofyniad anariannol y gellid ei osod.
Lle y bo modd, dylid cyflwyno tystiolaeth ategol wrth gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau.
Caiff unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau eu hystyried gan un o uwch-swyddogion y Comisiwn nad oedd yn rhan o'r broses o wneud y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn cynnig cosb. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'r Comisiwn yn dal i fod yn fodlon bod trosedd wedi digwydd ac, os felly, fod y gosb arfaethedig yn rhesymol ac yn briodol.
Os na fydd y Comisiwn yn fodlon mwyach, o ganlyniad i hynny, fod trosedd neu dramgwydd wedi digwydd, byddwn yn dod â'r mater i ben a hysbysir y derbynnydd o'r canlyniad. Fel arall, bydd yr uwch-swyddog yn penderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad yn rhoi cosb, sydd naill ai'n adlewyrchu'r penderfyniad cychwynnol neu'n ei newid.
Pan gaiff unrhyw gosb ei gosod, bydd gan destun y gosb honno hawl i apelio i lys sirol yng Nghymru a Lloegr, llys sirol yng Ngogledd Iwerddon, neu'r siryf yn yr Alban.
Termau allweddol
Ymgeisydd
Ymgeisydd yw ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer swydd etholedig berthnasol, gan gynnwys person sydd wedi'i gynnwys mewn rhestr o ymgeiswyr a gyflwynwyd mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath.
Deunydd digidol
Yn Neddf Etholiadau 2022, cyfeirir at ddeunydd digidol fel ‘deunydd electronig’.
Deunydd digidol yw deunydd sydd ar ffurf electronig sy'n cynnwys:
- testun, delweddau sy'n symud neu ddelweddau llonydd, neu
- iaith lafar neu gerddoriaeth.
Nid yw'n cynnwys deunydd a dderbynnir gan berson ar ffurf galwad ffôn (e.e. i rif ffôn llinell dir) na deunydd a dderbynnir drwy neges destun gan ddefnyddio SMS i rif ffôn.
Deiliad swydd etholedig
Rhywun sydd â swydd etholedig berthnasol yw deiliad swydd etholedig.
Dylid trin deiliad swydd etholedig fel pe bai gan yr unigolyn swydd yn ystod unrhyw gyfnod pan –
- fydd y person wedi'i ethol fel deiliad y swydd, neu y datganwyd y bydd yn dychwelyd fel deiliad y swydd, ond
- nad yw ei gyfnod yn y swydd wedi dechrau eto
Deunydd etholiad
Deunydd etholiad yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol ei fod yn hyrwyddo neu'n sicrhau llwyddiant etholiadol mewn un etholiad perthnasol neu fwy ar gyfer:
- un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, neu ddarpar ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
- categorïau eraill o bleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ymgeiswyr annibynnol (nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol)
- unrhyw gyfuniad o'r uchod
Darpar ymgeisydd
Bydd person yn ddarpar ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer swydd etholedig berthnasol os –
- datganwyd bod y person, boed hynny gan y person neu gan rywun ar ei ran, yn ymgeisydd yn yr etholiad (ac nad yw'r datganiad wedi cael ei dynnu'n ôl),
- mai'r etholiad yw'r etholiad nesaf a drefnwyd ar gyfer y swydd, ac
- nid yw hysbysiad yr etholiad wedi cael ei gyhoeddi eto neu, yn achos etholiad ar gyfer swydd aelod o Dŷ'r Cyffredin, nid yw'r gwrit ar gyfer yr etholiad wedi'i chyflwyno eto.
Deunydd organig
Deunydd organig yw unrhyw ddeunydd nad yw'n hysbyseb y telir amdani. Hynny yw, deunydd lle nad yw hyrwyddwr y deunydd, na'r person y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran, wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb.
Hysbyseb y telir amdani
Hysbyseb y telir amdani yw deunydd lle mae hyrwyddwr y deunydd, neu'r person y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran, wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb.
At ddibenion y diffiniadau o ‘hysbyseb y telir amdani’ a ‘deunydd organig’, nid yw taliadau'n gyfyngedig i arian yn unig. Gallant hefyd gynnwys buddion mewn nwyddau.
Nid ydynt yn cynnwys taliadau sy'n rhan o gostau cefndir creu, sefydlu, gweithredu na chynnal y deunydd. Mae'n gyfyngedig i daliadau a wneir yn benodol i ddarparwr y gwasanaeth neu'r llwyfan sy'n lletya'r hysbysebion am gyhoeddi'r hysbysebion hynny.
Deunydd gwleidyddol
Deunydd gwleidyddol yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi:
- un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
- ymgeisydd penodol neu ddarpar ymgeisydd penodol (yn ei rinwedd fel y cyfryw)
- deiliad swydd etholedig penodol (yn ei rinwedd fel y cyfryw)
- pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig (yn eu rhinwedd fel y cyfryw) sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
- categorïau eraill o bleidiau, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig (yn eu rhinwedd fel y cyfryw) nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ASau sydd wedi cael swydd y tu allan i wleidyddiaeth
- cynnal refferendwm, neu ganlyniad penodol refferendwm
- unrhyw gyfuniad o'r uchod
Hyrwyddwr
Yr hyrwyddwr yw'r person sy'n peri i'r deunydd gael ei gyhoeddi.
Cyhoeddi
Ystyr cyhoeddi yw rhyddhau i'r cyhoedd yn gyffredinol, neu unrhyw ran o'r cyhoedd.
Deiseb adalw
Trefn o dan Ddeddf Adalw ASau 2015 yw deiseb adalw lle gall AS presennol gael ei “adalw” gan ei etholwyr yn ystod cyfnod senedd, gan arwain at is-etholiad o bosibl.
Deunydd deiseb adalw
Deunydd deiseb adalw yw deunydd sy'n hyrwyddo neu'n sicrhau llwyddiant neu fethiant deiseb adalw.
Ymgyrchydd deiseb adalw
Ymgyrchydd deiseb adalw yw person sy'n ymgyrchydd achrededig o fewn yr ystyr a geir yn Neddf Adalw ASau 2015 mewn perthynas â deiseb adalw.
Refferenda (hysbysebion y telir amdanynt):
Ystyrir bod hysbyseb y telir amdani yn ddeunydd gwleidyddol os gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi unrhyw refferendwm, sy'n cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
Key terms2
Refferendwm a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cynyddu'r Dreth Gyngor) (Lloegr) 2012.
Refferendwm a gynhelir o dan adran 9MB a 9MC o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Refferendwm a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau) (Lloegr) 2011 neu Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001.
Digwyddiad pleidleisio lleol (math o refferendwm) a gynhelir o dan adran 116 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Refferendwm a gynhelir o dan Reoliadau Cynllunio Cymdogaeth (Refferenda) 2012 (fel y'i diwygiwyd).
Digwyddiad pleidleisio plwyf (math o refferendwm) a gynhelir o dan adran 150 ac Atodlen 12 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Refferendwm a gynhelir o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, gan gynnwys
- refferendwm ledled y DU
- refferendwm a gynhelir yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon neu mewn mwy nag un o'r rhain
Ond heb gynnwys refferendwm Senedd Cymru.
Refferendwm a gynhelir o dan Adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2006.
Key terms 3
I'r gwrthwyneb, dim ond os yw deunydd yn ymwneud â refferendwm PPERA yn gyfan gwbl neu'n bennaf yr ystyrir bod deunydd organig yn ddeunydd refferendwm.
Deunydd refferendwm (deunydd organig)
Deunydd refferendwm yw deunydd sy'n gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â refferendwm o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ac a gyhoeddir yn ystod cyfnod y refferendwm hwnnw.
Cyfnod y refferendwm
Y cyfnod cyn refferendwm PPERA lle mae cyfyngiadau penodol ar waith, o dan adran 102 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
Ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yw ymgyrchydd a gaiff ei gydnabod gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ran 6 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau fel ‘trydydd partïon cydnabyddedig’.
Plaid gofrestredig
Plaid gofrestredig yw plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
Ymgyrchydd refferendwm cofrestredig yw unigolyn neu sefydliad sy'n gyfranogwr a ganiateir o fewn yr ystyr a geir yn Rhan 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mewn perthynas â refferenda y mae'r Rhan honno yn gymwys iddi. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at ymgyrchwyr refferendwm cofrestredig fel ‘cyfranogwyr a ganiateir’.
Etholiad perthnasol
Ystyr “Etholiad perthnasol” yw unrhyw etholiad a resrir yn adran 45(9) o Ddeddf Etholiadau 2022, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, gan gynnwys:
- etholiadau cyffredinol Senedd y DU
- etholiadau Senedd yr Alban
- etholiadau Senedd Cymru
- etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon
- etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a throseddu
- etholiadau lleol, gan gynnwys etholiadau maerol, etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf ac etholiadau plwyf, tref a chymuned
Swydd etholedig berthnasol
Ystyr “swydd etholedig berthnasol” yw unrhyw swydd a resrir yn adran 37(1) o Ddeddf Etholiadau 2022, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, gan gynnwys y rheiny y’u diffinnir yno yn “swydd etholedig berthnasol yn yr Alban”.
Mae hyn yn cynnwys:
- aelod o Dŷ'r Cyffredin
- aelod o Senedd yr Alban
- aelod o Senedd Cymruaelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- maer etholedig
- aelod o Gynulliad Llundain
- cynghorydd
- aelod o Gorfforaeth Dinas Llundain
Endid perthnasol
Endid perthnasol yw un o'r mathau o unigolyn neu sefydliad y gall fod yn ofynnol iddo gynnwys argraffnod ar ddeunydd organig.
Yr endidau perthnasol yw:
- plaid gofrestredig
- ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig
- ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
- ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig