Deunydd etholiad

Deunydd etholiad yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol ar gyfer:

  • un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
  • ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
  • pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, neu ddarpar ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
  • categorïau eraill o ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr a aeth i un o ysgolion y wladwriaeth, neu ymgeiswyr annibynnol (nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol)
  • unrhyw gyfuniad o'r uchod

Mae'n cynnwys deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio o blaid neu yn erbyn un o'r endidau a restrir uchod – er enghraifft, mae'n cynnwys ymgyrch gadarnhaol am bolisïau plaid, ac ymgyrch negyddol yn beirniadu polisïau plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn.

Os bydd deunydd yn bodloni unrhyw rai o'r meini prawf hyn, bydd yn ddeunydd etholiad hyd yn oed os gellir ystyried yn rhesymol fod ganddo ddibenion eraill hefyd. Ceir rhagor o fanylion am y pwynt hwn yn yr adran am ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. 

Mae'n rhaid i ddeunydd digidol organig sy'n ddeunydd etholiad ac a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod.  Ceir enghreifftiau isod o ddeunydd organig a ystyrir yn ddeunydd etholiad:

Ased ymgyrchu enghreifftiol yn erbyn plaid sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Unrhyw un ond y Blaid Lwyd’. Mae yna argraffnod yn y gornel waelod ar yr ochr dde sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Hyrwyddwyd gan Y Grŵp Ymgyrchu, 62 Y Stryd Fawr, Trenewydd, AB12 3CD’.

Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn plaid wleidyddol.

Ased ymgyrch enghreifftiol sy’n darllen fel a ganlyn: “Pleidleisiwch. Pleidleisiwch dros Jane Doe ar gyfer y Blaid Lwyd”. Mae yna argraffnod yn y gornel waelod ar yr ochr dde sy’n darllen fel a ganlyn: “Hyrwyddwyd gan Blaid Lwyd Ponteglwys ar ran Jane Doe, y naill a’r llall o 110 Y Stryd Fawr, Ponteglwys, AB12 3CD”.

Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol ar gyfer ymgeisydd.

Ased ymgyrchu enghreifftiol sy’n cefnogi mater penodol sy’n darllen fel a ganlyn: “‘Defnyddiwch eich pleidlais i achub Llyfrgell Trenewydd. Pleidleisiwch dros ymgeisydd sydd wedi llofnodi ein haddewid’. Mae yna argraffnod yn y gornel waelod ar yr ochr dde sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Hyrwyddwyd gan Ymgyrchwyr Cyf, 98 Y Stryd Fawr, Trenewydd, AB12 3CD’.

Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol ar gyfer categori o ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi polisi.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023