Un maes lle ceir gwahaniaeth rhwng rolau a chylchoedd gwaith yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol yw o ran rhoi arweiniad.
Gall yr heddlu ddewis rhoi cyngor yn hytrach nag ymgymryd ag erlyniad troseddol mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith, o ran rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad.
Gall y Comisiwn ddefnyddio cyngor ac arweiniad mewn ffordd ragweithiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a bod y rhai y mae'r Comisiwn yn eu rheoleiddio yn deall eu gofynion rheoliadol yn glir, fel dull amgen i gamau gorfodi.
Cyn dechrau unrhyw ymchwiliad, bydd y Comisiwn yn ystyried a yw'n gymesur gwneud hynny, ac a fyddai defnyddio cyngor ac arweiniad yn fwy priodol. Bydd y Comisiwn yn ystyried holl ffeithiau pob achos unigol, ond mae rhai enghreifftiau o ffactorau perthnasol yn cynnwys:
Ymgyrchwyr newydd neu amhrofiadol nad ydynt yn gyfarwydd â'r gofynion o bosibl
Pan fydd achos neilltuol yn digwydd mewn perthynas ag ymgyrchydd sy'n cydymffurfio fel arall
Pan gaiff materion eu datrys yn gyflym gan yr ymgyrchydd