Bydd yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol yn ceisio gorfodi'r drosedd o dan adran 48(1) yn gyson, ond mae natur wahanol rolau a phwerau'n golygu y gallai camau gweithredu penodol amrywio.
Bydd yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol yn gorfodi mewn modd effeithiol, cymesur a theg. Yn benodol:
Dim ond pan fydd sail resymol dros amau bod trosedd wedi'i chyflawni o dan adran 48(1) o'r Ddeddf y dylid ystyried cymryd camau gorfodi
Dim ond pan fydd yn gymesur gwneud hynny y dylid cymryd camau gorfodi
Ystyried ffeithiau pob sefyllfa
Dim ond pan fydd er budd y cyhoedd i orfodi yng nghyd-destun blaenoriaethau ac adnoddau sefydliadol y dylid gwneud hynny.
Bydd p'un a yw mater er budd y cyhoedd ac yn cyfiawnhau defnyddio adnoddau yn y modd hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Gall y ffactorau hyn fod yn wahanol a/neu gael eu pwysoli'n wahanol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Nodir rhai o'r ffactorau sy'n debygol o gael eu hystyried isod, er nad yw'n rhestr gynhwysfawr:
P'un a oedd bwriad, yn hytrach nag esgeulustod neu ddiofalwch
P'un a yw'r argraffnod gofynnol wedi'i gynnwys yn rhannol neu'n gwbl absennol
Effaith y deunydd – gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i raddau a lledaeniad daearyddol dosbarthiad y deunydd a nifer y bobl a all fod wedi'i weld a chael eu dylanwadu ganddo
Pan fydd y Comisiwn yn dechrau ymchwiliad, fel arfer bydd yn hysbysu'r sawl sy'n destun yr ymchwiliad cyn gynted ag y bydd yr ymchwiliad yn dechrau, oni fyddai hynny'n rhwystro'r ymchwiliad. Bydd y Comisiwn yn rhoi manylion y materion yr ymchwilir iddynt ac yn sicrhau bod y sawl sy'n destun yr ymchwiliad yn cael cyfle i ymateb iddynt.
Gall yr heddlu fynd ati i gynnal ymchwiliadau troseddol mewn ffordd wahanol.
Mae'r heddlu a'r Comisiwn yn cydnabod ei bod yn bwysig cwblhau ymchwiliadau cyn gynted â phosibl. Mae hyn er budd y cyhoedd ac er cyfiawnder y rhai dan sylw. Fodd bynnag, y flaenoriaeth bennaf bob amser fydd cynnal ymchwiliad teg a thrylwyr, a bydd hyn yn bwysicach na chynnal ymchwiliad yn gyflym os bydd y ddau yn gwrthdaro.