Defnyddio pwerau

Mae'r Ddeddf Etholiadau'n creu dau bŵer newydd mewn perthynas â gorfodi'r drefn. 

Defnyddio pwerau o dan Atodlen 12 i Ddeddf Etholiadau 2022 – cael gwybodaeth

Mae gan yr heddlu a'r Comisiwn Etholiadol bwerau o dan Atodlen 12 i'r Ddeddf i gael dau fath gwahanol o wybodaeth.

Mae pŵer i roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person ddarparu gwybodaeth a nodir yn yr hysbysiad, sy'n ofynnol yn rhesymol: 

  • at ddibenion pennu a yw deunydd digidol wedi'i gyhoeddi heb argraffnod pan oedd angen un, neu 
  • i alluogi'r heddlu neu'r Comisiwn i gysylltu â hyrwyddwr y deunydd neu unrhyw berson arall y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran

Mae gan yr heddlu a'r Comisiwn hefyd y pŵer i roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person ddarparu deunydd electronig a nodir yn yr hysbysiad, sy'n ofynnol yn rhesymol at ddibenion pennu a yw deunydd electronig wedi'i gyhoeddi heb argraffnod pan oedd angen un.

Yn y ddau achos, gall yr heddlu ddewis defnyddio'r pŵer hwn yn hytrach na phwerau presennol i gael gwybodaeth. Gall y Comisiwn arfer y pŵer hwnnw pan fydd yn gymesur ac er budd y cyhoedd i wneud hynny. Ni fydd yr heddlu na'r Comisiwn yn gwneud hynny pan ellir cael gafael ar y wybodaeth honno drwy ddulliau eraill. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a geir o dan hysbysiad o'r fath ei defnyddio mewn unrhyw gam gorfodi yn erbyn y person sy'n darparu'r wybodaeth i'r Comisiwn.

Cydymffurfio â hysbysiadau

Pan gaiff y naill neu'r llall o'r pwerau hyn eu harfer gan yr heddlu neu'r Comisiwn, caiff dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio ei nodi y bydd yn rhaid cydymffurfio ag ef. Bydd y dyddiad cau yn gymesur, gan ystyried ffeithiau'r sefyllfa benodol, gan gynnwys ar faint o fyrder y mae angen cael gafael ar y wybodaeth. 

Lle na chydymffurfir â hysbysiad o'r fath, gall yr heddlu neu'r Comisiwn geisio gorchymyn llys yn gofyn am y wybodaeth.

Defnyddio pwerau o dan adran 51 o Ddeddf Etholiadau 2022 – tynnu deunydd i lawr

Mae gan y Comisiwn bŵer o dan adran 51 o'r Ddeddf i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw ddeunydd gael ei dynnu i lawr neu i atal mynediad ato ar ôl i'r Comisiwn benderfynu bod trosedd wedi'i chyflawni o dan adran 48(1) mewn perthynas â'r deunydd hwnnw a gosod unrhyw gosb, neu gyflwyno Hysbysiad Atal, neu gytuno ar Ymgymeriad Gorfodi o dan ei bwerau yn Atodlen 19C i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. 

Wrth benderfynu a ddylai arfer ei bŵer o dan adran 51 o'r Ddeddf, bydd y Comisiwn yn ystyried a fyddai gwneud hynny: 

  • yn gymesur ac er budd y cyhoedd
  • yn unol â'i amcanion gorfodi
  • yn helpu i gynnal neu wella tryloywder. 

Ni fydd yn arfer y pŵer hwnnw fel arfer, er enghraifft, pan fydd y deunydd eisoes wedi'i dynnu i lawr; mae'r deunydd wedi'i ddiwygio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio; neu am unrhyw reswm arall nad yw'n gymesur nac er budd y cyhoedd ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei dynnu i lawr.

Mae pŵer tebyg ar gael i lys o dan adran 49(2) o'r Ddeddf, yn dilyn euogfarn ar gyfer trosedd o dan adran 48(1). Nid oes pŵer cyfatebol ar gael i'r heddlu oherwydd dim ond ar ôl canfod trosedd y gellir defnyddio'r pŵer hwn, naill ai gan lys neu'r Comisiwn.

Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cael hysbysiad i dynnu deunydd i lawr i fethu â chydymffurfio ag ef heb esgus rhesymol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023