Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chynnwys yn yr argraffnod?

Rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad: 

  • yr hyrwyddwr 
  • unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran (ond nid yr hyrwyddwr)

Rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad post lle gellir cysylltu â chi. Gall fod yn gyfeiriad swyddfa neu fusnes, neu'n gyfeiriad cartref. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfeiriad Blwch SP neu wasanaeth blwch post arall.  

Rhaid i'r argraffnod fod ar ffurf testun, oni chaiff ei gynnwys fel rhan o ddeunydd sain yn unig. Yn yr achos hwn, rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel deunydd sain.

Rhaid i'r argraffnod fod yn ddarllenadwy, neu yn achos deunydd sain, yn glywadwy, ni waeth pa ddyfais a ddefnyddir i gael gafael ar y wybodaeth.

Er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith, rhaid i chi sicrhau bod argraffnod ysgrifenedig ar sgrin am ddigon o gyfnod iddo gael ei ddarllen. Yn yr un modd, rhaid i argraffnod sain gael ei ddarllen ar gyflymder lle gellir ei glywed a'i ddeall.

Os caiff deunydd digidol lle mae angen argraffnod ei gyhoeddi heb un, gall yr hyrwyddwr ac unrhyw un y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran fod yn agored i drosedd o dan adran 48 o Ddeddf Etholiadau 2022.

Yr hyrwyddwr ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran

Yr hyrwyddwr yw pwy bynnag sy'n awdurdodi i'r deunydd gael ei gyhoeddi. 

Gall yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran fod yn unigolyn neu'n sefydliad. 

Os caiff y deunydd ei gyhoeddi gan sefydliad, yna'r sefydliad ei hun yw'r hyrwyddwr. Nid oes angen manylion unigolyn.

Eg1

Er enghraifft, os bydd cyflogai ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cyhoeddi deunydd ar ran yr ymgyrchydd yn ystod ei rôl fel cyflogai, yna'r ymgyrchydd nad yw'n blaid ei hun yw'r hyrwyddwr a'i fanylion ef y mae'n rhaid eu darparu.

What info 2

Rhaid i'r argraffnod gynnwys manylion yr hyrwyddwr ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. Mae hyn yn golygu na fydd eich manylion eich hun yn ddigon i fodloni'r gofynion ar argraffnodau, yn dibynnu ar eich sefyllfa benodol.

Eg 2

Er enghraifft, os bydd asiant yn cyhoeddi deunydd ar ran ei ymgeisydd, yna rhaid i'r argraffnod gynnwys manylion yr asiant, fel hyrwyddwr, a manylion yr ymgeisydd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. 

Fel enghraifft arall, tybiwch fod rhywun yn asiant ar gyfer ymgeisydd, a hefyd yn cyhoeddi deunydd fel rhan o'i rôl yn gwirfoddoli i blaid wleidyddol. Bydd rhywfaint o'r deunydd y bydd yn ei hyrwyddo ar ran yr ymgeisydd, ac felly bydd angen iddo gynnwys manylion yr asiant fel hyrwyddwr a manylion yr ymgeisydd fel y person arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran. Bydd rhywfaint ohono ar ran y blaid, ac felly bydd angen manylion y blaid yn lle hynny.

What info 3

Gellid cyhoeddi deunydd ar ran rhywun am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • y rôl sydd gan rywun mewn ymgyrch – er enghraifft, efallai y bydd asiant yn cyhoeddi deunydd ar ran ei ymgeisydd, sy'n golygu mai'r asiant yw'r hyrwyddwr.
  • mae'n talu am wasanaeth – er enghraifft, gall dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol gyhoeddi ei ddeunydd organig ei hun ar ran y blaid wleidyddol sydd wedi ymgysylltu â'r unigolyn i wneud hynny, sy'n golygu mai'r dylanwadwr yw'r hyrwyddwr.
  • mae'n rhan o grŵp ehangach sy'n rhan o'r gwaith o gyhoeddi'r deunydd – er enghraifft, efallai y bydd ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cyhoeddi deunydd ar ran clymblaid o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, sy'n golygu mai'r ymgyrchydd nad yw'n blaid hwnnw yw'r hyrwyddwr.

Os ydych yn cael eich talu i gyhoeddi'r deunydd, mae'n rhaid i'r deunydd gynnwys argraffnod sy'n cynnwys manylion pwy bynnag sy'n eich talu. Mae hyn, yn dibynnu ar y ffeithiau, naill ai am mai hwn yw'r hyrwyddwr, neu am eich bod yn cyhoeddi'r deunydd ar ei ran.  

Os ydych yn sefydliad sy'n cael rhoddion am eich gweithrediadau cyffredinol, nid yw hyn yn golygu y caiff deunydd a gyhoeddir gennych ei gyhoeddi ar ran eich rhoddwyr. 

Os bydd aelod o staff neu wirfoddolwr yn cyhoeddi ei ddeunydd ei hun ohono'i hun, yn ei rinwedd personol ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ei hun, nid ystyrir bod hyn yn cael ei wneud ar ran ei sefydliad. 

Ar gyfer deunydd a gyhoeddir gan neu ar ran plaid sy'n hyrwyddo mwy nag un o ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr y blaid, nid oes angen i'r argraffnod gynnwys manylion pob ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd unigol. Yn lle hynny, gallwch gynnwys manylion y blaid ar yr argraffnod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023