Deunydd refferendwm yw deunydd sy'n gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â refferendwm PPERA, ac a gyhoeddir yn ystod cyfnod y refferendwm.
Mae hyn yn golygu, yn y rheolau ar gyfer deunydd organig, fod deunydd refferendwm ond yn gysylltiedig â refferendwm a gynhelir – yn wahanol i'r rheolau ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt, a all hefyd fod yn gymwys i ddeunydd sy'n ymwneud â refferenda na fyddant yn digwydd o bosibl.
Refferendwm PPERA yw refferendwm a gynhelir o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, gan gynnwys:
refferendwm ledled y DU
refferendwm a gynhelir yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon neu mewn mwy nag un o'r rhain (ond heb gynnwys refferendwm Senedd Cymru)
Nid yw'r rheolau ar gyfer deunydd organig yn gymwys i ddeunydd sy'n gysylltiedig ag unrhyw fath arall o refferendwm, er enghraifft:
refferendwm Senedd Cymru
refferendwm llywodraeth leol
refferendwm llywodraethu awdurdod lleol
digwyddiad pleidleisio lleol
refferendwm ar gynyddu treth gyngor
digwyddiad pleidleisio plwyf
refferendwm Cynllunio Cymdogaeth
Mae'n rhaid i ddeunydd digidol organig sy'n ddeunydd refferendwm ac a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod.