Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn unigolion a sefydliadau sy'n ymgyrchu o gwmpas adeg etholiadau heb sefyll fel ymgeiswyr eu hunain. Mae galluogi ymgyrchwyr i gyfleu eu negeseuon i bleidleiswyr yn rhan sylfaenol o'r broses ddemocrataidd, ac mae'n bwysig bod pleidleiswyr yn clywed gan amrywiaeth eang ac amrywiol o ymgyrchwyr.
Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n gwario mwy na swm penodol ar ymgyrchu mewn etholiadau gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol.
Yn wahanol i blaid wleidyddol, lle mae'n debygol y bydd angen argraffnod ar lawer o'i deunydd, os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ymgyrchu ar fater, efallai y byddwch yn gweld mai dim ond ar rywfaint o'ch deunydd y bydd angen argraffnod. Dylech ystyried a oes angen argraffnod ar bob darn o ddeunydd drwy ystyried y ffeithiau.
Mae argraffnodau yn bwysig ar gyfer tryloywder wrth ymgyrchu. Felly, mae'n arfer dda cynnwys argraffnod ar bob deunydd digidol sy'n ymwneud ag etholiadau, refferenda a deisebau adalw, hyd yn oed oes nad oes angen i'r deunydd gynnwys un yn ôl y gyfraith.
Os bydd ymgyrchydd yn cynnwys argraffnod ar ei ddeunydd, nid yw hynny'n golygu bod angen un ar y deunydd yn ôl y gyfraith. Mae'n ddigon posibl y bydd yr ymgyrchydd yn cynnwys un fel arfer orau er mwyn sicrhau tryloywder.
Mae'r adrannau canlynol yn rhoi arweiniad ar y ddau fath o ddeunydd y gall fod angen argraffnod arnynt.