Os ydych yn ymgeisydd neu'n ddarpar ymgeisydd, mae'n rhaid i chi gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn yr adrannau blaenorol.
Er enghraifft, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mewn perthynas â hysbysebion y telir amdanynt a deunydd organig, bydd angen argraffnod ar unrhyw ddeunydd sy'n:
hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth
beirniadu ymgeisydd arall
hyrwyddo eich plaid wleidyddol (os oes gennych un) yn yr etholiad
beirniadu plaid wleidyddol arall yn yr etholiad
Dod yn ddarpar ymgeisydd
Byddwch yn dod yn ddarpar ymgeisydd pan fyddwch yn cyhoeddi eich bwriad i sefyll yn yr etholiad nesaf, neu os bydd rhywun arall yn ei gyhoeddi ar eich rhan. Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion.
Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl bod yn ddarpar ymgeisydd am gyfnod hir cyn yr etholiad. Unwaith y caiff eich bwriad i sefyll ei ddatgan, byddwch yn ddarpar ymgeisydd, ac felly byddwch yn endid perthnasol a bydd gofyn i chi gynnwys argraffnodau ar ddeunydd organig os yw'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw.
Byddwch yn rhoi'r gorau i fod yn ddarpar ymgeisydd os byddwch yn tynnu eich datganiad o fwriad i sefyll yn ôl, neu pan fyddwch yn dod yn ymgeisydd.
Os ydych yn ddarpar ymgeisydd, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad neu, ar gyfer etholiad cyffredinol seneddol, ar y dyddiad y caiff y Senedd ei diddymu.
Hyd yn oed cyn i chi fod yn ymgeisydd neu'n ddarpar ymgeisydd, bydd angen i chi gynnwys argraffnod ar hysbyseb ddigidol y telir amdani o hyd os yw'n ddeunydd etholiad.