Os nad ydych wedi talu i'r deunydd digidol gael ei gyhoeddi fel hysbyseb – er enghraifft, rydych newydd ei rannu ar eich cyfryngau cymdeithasol eich hun – nid yw'n ddeunydd organig.
Mae'n rhaid i ddeunydd organig gynnwys argraffnod os yw'n bodloni'r amodau isod:
caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol
mae'n un o'r canlynol:
deunydd etholiad
deunydd refferendwm
deunydd deiseb adalw
Caiff y cysyniadau hyn eu hesbonio isod.
Endidau perthnasol
Yr endidau perthnasol yw:
plaid gofrestredig
ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
deiliad swydd etholedig
ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
Os nad yw rhywun yn endid perthnasol, a'i fod yn cyhoeddi deunydd organig ar ei ran ei hun, ni fydd angen argraffnod ar y deunydd.
Rhaid i ddeunydd organig a gaiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol gynnwys argraffnod, hyd yn oed os nad yw wedi talu iddo gael ei gyhoeddi, os yw'n un o'r canlynol:
deunydd etholiad
deunydd refferendwm
deunydd deiseb adalw
Yn wahanol i hysbysebion y telir amdanynt, mae'r tri math o ddeunydd organig y mae angen argraffnod arnynt oll yn ymwneud â digwyddiadau etholiadol penodol. Felly, mae mwy o angen argraffnod ar ddeunydd organig yn ystod yr ymgyrchoedd yn y cyfnod cyn y digwyddiadau hyn.