Fideos, delweddau a chartwnau

Gall fod yn ofynnol arddangos argraffnod ar fideo neu ddelwedd o hyd, hyd yn oed os na fydd yn cynnwys unrhyw destun.

Os mai fideo neu ddelwedd yw eich deunydd, fel arfer bydd yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod yn y fideo neu'r ddelwedd, yn enwedig os ydych wedi'i greu neu ei chreu eich hun. Os nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, er enghraifft os mai delwedd fach iawn yw'r deunydd, rhaid i chi gynnwys yr argraffnod rywle sy'n uniongyrchol hygyrch ohono.

Os mai postiad cyfryngau cymdeithasol yw eich deunydd sy'n cynnwys fideo neu ddelwedd, fel arfer bydd yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r postiad. Lle mae'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r postiad, y ffordd orau o wneud hyn yw ei gynnwys yng nghynnwys y fideo neu'r ddelwedd ei hun. 

Mae hyn oherwydd, os caiff ei rannu, mae'n fwy tebygol y bydd yr argraffnod yn parhau i fod yn rhan o'r deunydd. Mae hyn yn golygu y bydd pleidleiswyr yn gweld yr argraffnod gwreiddiol wrth iddo gael ei rannu, sydd fwyaf effeithiol wrth sicrhau tryloywder. Mae hefyd yn llai tebygol y bydd yn ofynnol i bobl sy'n rhannu'r deunydd gynnwys eu hargraffnod eu hunain wrth iddynt ei rannu. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran Rhannu ac ailgyhoeddi.

Fel arall, gallwch gynnwys yr argraffnod rywle arall yn y postiad.  Er enghraifft, wrth lanlwytho fideo i YouTube, gallwch gynnwys yr argraffnod yn nisgrifiad y fideo.

Canllawiau statudol drafft ar argraffnodau digidol - Fideos

Enghraifft o argraffnod wedi'i gynnwys mewn fideo.

Fideo YouTube

Fideo YouTube enghreifftiol sydd â’r teitl “Pleidleisiwch dros Jane Doe o’r Blaid Lwyd”. Mae’r pennawd o dan y fideo’n dweud “Dysgwch bopeth am Jane Doe a’r hyn y mae’r Blaid Lwyd yn sefyll drosto.” Hyrwyddwyd gan John Smith ar ran Jane Doe, y naill a’r llall o 110 Y Stryd Fawr, Ponteglwys, AB12 3CD”.
Enghraifft o fideo YouTube lle mae'r argraffnod wedi'i gynnwys yn y disgrifiad.
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ionawr 2024