Hysbysebion y telir amdanynt

Os ydych wedi talu i ddeunydd digidol gael ei gyhoeddi fel hysbyseb, yna rhaid iddo gael argraffnod os yw'n ‘ddeunydd gwleidyddol’. Mae'r gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw un sy'n cyflwyno hysbyseb y telir amdani.

Mae tâl yn cynnwys taliadau o unrhyw fath – er enghraifft, hysbysebu ‘talu fesul clic’ a ‘thalu fesul argraff’. 

Nid dim ond taliadau ariannol a geir. Gall taliadau hefyd gynnwys buddion mewn nwyddau, er enghraifft nwyddau neu wasanaethau a ddarperir am ddim neu am bris gostyngol gan yr hyrwyddwr i'r llwyfan digidol am letya'r hysbyseb.

Nid yw'n cynnwys taliadau fel rhan o'r costau o greu, sefydlu, gweithredu neu gynnal y deunydd. Mae'n gyfyngedig i daliadau a wneir yn benodol i ddarparwr y gwasanaeth neu'r llwyfan sy'n lletya'r hysbysebion am gyhoeddi'r hysbysebion hynny. Os na fydd darparwr y gwasanaeth sy'n lletya'r hysbyseb (er enghraifft, llwyfan digidol neu hysbysebwr hysbysfyrddau electronig) wedi cael ei dalu am gyhoeddi'r deunydd ar y llwyfan, yna nid yw'r deunydd yn hysbyseb y telir amdani.

Example

Er enghraifft, os byddwch yn cyflogi asiantaeth ddigidol i dalu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am osod yr hysbysebion ar eu llwyfannau, mae'r rhain yn hysbysebion y telir amdanynt am fod yr asiantaeth yn talu'r llwyfannau i gyhoeddi'r hysbysebion.

I'r gwrthwyneb, os byddwch yn cyflogi asiantaeth ddigidol i gyhoeddi deunydd digidol ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun, nid yw'r rhain yn hysbysebion y telir amdanynt, am nad yw'r llwyfannau lle caiff y deunydd ei gyhoeddi yn cael eu talu. Nid yw'r ffaith bod yr asiantaeth yn cael ei thalu yn gwneud y deunydd yn hysbyseb y telir amdano. 

Yn yr un modd, os byddwch yn talu dylanwadwr neu lysgennad i bostio deunydd ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun, nid yw'r rhain yn hysbysebion y telir amdanynt, am nad yw'r llwyfannau lle caiff y deunydd ei gyhoeddi yn cael eu talu am gyhoeddi'r deunydd. Mae hyn yn wir hyd yn oed os caiff y postiadau eu dosbarthu fel hysbysebion at ddibenion deddfwriaeth arall.

Paid adverts2

Ni fydd yr holl daliadau i ddarparwr y gwasanaeth sy'n lletya'r deunydd yn golygu bod y deunydd yn hysbyseb y telir amdani – dim ond y rheini a wneir i ddarparwr y gwasanaeth yn benodol am gyhoeddi'r deunydd fel hysbyseb.

Example

Er enghraifft, os byddwch yn talu cwmni cyfryngau cymdeithasol am fath penodol o gyfrif (e.e. y cyfrif glas y telir amdano ar Twitter), nid yw hyn yn golygu bod pob postiad gennych yn hysbyseb y telir amdani.

I'r gwrthwyneb, os byddwch yn talu cwmni cyfryngau cymdeithasol i gynyddu cyrhaeddiad postiad drwy ei gyhoeddi fel hysbyseb (e.e. hybu postiad ar Facebook), yna bydd hyn yn hysbyseb y telir amdani.

Paid adverts3

Os nad yw deunydd yn hysbyseb y telir amdani, yna mae'n ‘ddeunydd organig’. Gall fod angen argraffnod ar ddeunydd organig o hyd – gweler yr adran ‘Deunydd Organig’.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023