Mae'r Ddeddf Etholiadau yn darparu ar gyfer gorfodi'r drefn ynghylch argraffnodau digidol drwy drosedd o dan adran 48(1) lle na chaiff argraffnod ei gynnwys pan fo angen.
Mae p'un ai'r heddlu neu'r Comisiwn Etholiadol sy'n gyfrifol yn y lle cyntaf yn dibynnu ar ddiben y deunydd dan sylw, fel y nodir yn adran 50. Pan fo ansicrwydd mewn achos penodol o ran pa gorff sy'n gyfrifol am orfodi, caiff y mater ei ddatrys rhwng y cyrff gorfodi fesul achos.
Deunydd gwleidyddol (hysbysebion y telir amdanynt) a deunydd etholiad (deunydd organig)
Yr heddlu fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran deunydd sy'n ymwneud â'r canlynol:
ymgeisydd penodol
darpar ymgeisydd penodol
deiliad swydd etholedig penodol
Y Comisiwn Etholiadol fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran deunydd sy'n ymwneud â'r canlynol:
pleidiau gwleidyddol
categorïau o bleidiau, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr a/neu ddeiliaid swyddi etholedig, gan gynnwys categorïau yn seiliedig ar y canlynol:
eu cefnogaeth o blaid neu yn erbyn polisïau penodol
y safbwyntiau penodol sydd ganddynt
unrhyw reswm arall
Deunydd deiseb adalw
Caiff hyn ei orfodi gan yr heddlu, ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt a deunydd organig.
Deunydd sy'n gysylltiedig â refferenda
Y Comisiwn Etholiadol fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran unrhyw ddeunydd digidol, ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt a deunydd organig, os bydd:
yn gysylltiedig â refferendwm a gynhelir o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (mae'n refferendwm PPERA)
yn cael ei gyhoeddi yn ystod cyfnod y refferendwm
Yr heddlu fydd yn sicrhau cydymffurfiaeth o ran unrhyw ddeunydd arall sy'n gysylltiedig â refferendwm.
Hysbysebion y telir amdanynt fydd y deunydd hwn i gyd, gan gynnwys unrhyw hysbyseb y telir amdani sydd naill ai:
yn gysylltiedig â refferendwm nad yw'n refferendwm PPERA
yn gysylltiedig â refferendwm sy'n refferendwm PPERA, ond sydd wedi'i gyhoeddi cyn cyfnod y refferendwm