Deunydd organig – ymgyrchoedd cofrestredig

Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol, yna rhaid i chi gynnwys argraffnod ar ddeunydd organig yn ogystal â hysbysebion y telir amdanynt – gan gynnwys unrhyw beth y byddwch yn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol – os yw'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw.

Mae deunydd etholiad yn debyg iawn i'r deunydd sy'n bodloni'r ‘prawf diben’ ar gyfer ymgyrchydd a reoleiddir nad yw'n blaid (ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau’r Comisiwn ar wariant). Os ydych wedi penderfynu bod eich deunydd digidol yn bodloni'r prawf diben, bydd hefyd angen iddo gynnwys argraffnod. 

Mae'n bosibl nad dylanwadu ar bleidleiswyr yw prif fwriad eich deunydd. Er enghraifft, gallech gyhoeddi deunydd ag un neu fwy o'r bwriadau canlynol: 

  • codi ymwybyddiaeth o fater
  • dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi yn eu maniffestos
  • ymgyrchu o blaid neu yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth
  • rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr
  • annog pleidleiswyr i gofrestru i bleidleisio
  • annog pobl i bleidleisio, ond nid dros unrhyw un yn benodol

Ni fydd deunydd y gellir ystyried yn rhesymol fod ganddo un o'r bwriadau hyn yn ddeunydd etholiad, oni bai y gellir ystyried yn rhesymol hefyd y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr penodol.

Hyd yn oed os yw eich prif fwriad yn ymwneud â rhywbeth arall, bydd eich deunydd yn ddeunydd etholiad o hyd os gellir ystyried yn rhesymol y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn pleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr penodol.

Er enghraifft, tybiwch mai eich bwriad yw dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi. Os byddwch yn mynd ati i wneud hyn drwy gyhoeddi deunydd sy'n hyrwyddo pleidiau ac ymgeiswyr sydd eisoes wedi mabwysiadu'r polisi, yna bydd hyn yn ddeunydd etholiad oherwydd gellir ystyried yn rhesymol mai diben eich deunydd yw dylanwadu ar bleidleiswyr i gefnogi'r pleidiau a'r ymgeiswyr hynny.

Ased ymgyrchu enghreifftiol sy’n cefnogi mater penodol sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Achub Llyfrgell Trenewydd. Mae’r Blaid Lwyd o blaid’. Mae yna argraffnod yn y gornel waelod ar yr ochr dde sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Hyrwyddwyd gan Ymgyrchwyr Cyf, 98 Y Stryd Fawr, Trenewydd, AB12 3CD’.
Deunydd etholiad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw hyrwyddo plaid am ei bod yn cefnogi mater.

Os na ellir ystyried yn rhesymol mai bwriad deunydd sy'n seiliedig ar faterion yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr penodol, yna nid yw'n ddeunydd etholiad.

Ased ymgyrchu enghreifftiol sy’n cefnogi mater penodol sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Stopio newid yn yr hinsawdd’. Mae yna argraffnod yn y gornel waelod ar yr ochr dde sy’n darllen fel a ganlyn: ‘Hyrwyddwyd gan y Grŵp Ymgyrchu, 62 Y Stryd Fawr, Trenewydd, AB12 3CD’.
Deunydd ymgyrchu nad yw'n ddeunydd etholiad (ond sydd ag argraffnod fel arfer orau).

Ceir rhagor o enghreifftiau isod.

Eg 1

Cyn i unrhyw etholiad gael ei gyhoeddi, mae sefydliad lles anifeiliaid yn cyhoeddi edefyn trydar yn esbonio'r hyn sy'n achos o gam-drin anifeiliaid caeth yn ei farn ef. Yn ogystal â nodi problemau, mae'n dadlau mai un o'r achosion yw polisi'r llywodraeth a diffyg cyllid. Nid yw'n crybwyll etholiadau, ymgeiswyr na phleidiau gwleidyddol.

Nid yw hyn yn ddeunydd etholiad ac nid oes angen argraffnod arno. Er bod y deunydd yn beirniadu'r llywodraeth, ni ellir ystyried yn rhesymol mai ei fwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad.

Eg 2

Ddau fis cyn  etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'r sefydliad lles anifeiliaid sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol yn ail-drydar, heb wneud sylw arni, erthygl newyddion sy’n nodi bod y blaid sydd mewn llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn cyfreithloni hela llwynogod os caiff ei ailethol.

Nid yw hyn yn ddeunydd etholiad. Dim ond rhannu gwybodaeth a wneir yma, a byddai disgwyl i'r sefydliad rannu unrhyw newyddion sy'n berthnasol i'w waith. Nid oes angen unrhyw argraffnod.

Eg 3

Ar ôl i'r holl brif bleidiau lansio eu maniffestos cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae'r ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cymharu'r addewidion yn eu maniffestos ynghylch hela llwynogod. Mae'n llunio graffigyn sy'n cymharu safbwyntiau'r pleidiau o ran y mater, gan roi marciau allan o ddeg a dweud pa blaid sydd â'r polisïau gorau. Yna mae'n cyhoeddi'r graffigyn ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun.

Gan fod yr ymgyrchydd wedi cymharu'r pleidiau ac wedi dweud pa un yw'r gorau yn y cyd-destun hwn, i bob pwrpas, mae wedi hyrwyddo rhai uwchlaw eraill. Gellir ystyried yn rhesymol felly fod y graffigyn yn hyrwyddo'r pleidiau hynny sydd â pholisïau gwell ym marn yr ymgyrchydd, ac felly mae'n ddeunydd etholiad. Mae angen argraffnod ar y deunydd.

Eg 4

Yn ystod cyfnod refferendwm ar gyfer refferendwm PPERA, mae ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cyhoeddi blog ar ei wefan yn nodi effeithiau pob canlyniad ar ddefnyddwyr ei wasanaeth yn ei dyb ef.

Mae angen argraffnod ar hyn. Ar gyfer deunydd organig a gyhoeddir yn ystod cyfnod y refferendwm, nid oes gwahaniaeth a yw'r deunydd yn hyrwyddo canlyniad yn y refferendwm – dim ond sicrhau ei fod yn gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â'r refferendwm sy'n rhaid ei wneud.

Deunydd organig – ymgyrchwyr anghofrestredig

Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid ac nad ydych wedi cofrestru â'r Comisiwn Etholiadol, yna ni fydd angen i chi gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd digidol organig rydych yn ei gyhoeddi ar eich rhan eich hun. Mae hyn am nad yw ymgyrchydd anghofrestredig nad yw'n blaid yn endid perthnasol.

Dim ond ar hysbysebion y telir amdanynt y bydd angen i ymgyrchwyr anghofrestredig nad ydynt yn bleidiau sydd ond yn cyhoeddi deunydd ar eu rhan eu hunain gynnwys argraffnod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023