Lle ceir tystiolaeth o drosedd, gall yr heddlu gyfeirio'r mater at yr erlynydd cyhoeddus perthnasol (Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa'r Goron/Procuradur Ffisgal yn yr Alban, a'r Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon), a fydd yn penderfynu a ddylid lansio erlyniad troseddol.
Pan fydd y Comisiwn Etholiadol yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol fod trosedd wedi'i chyflawni, gall y Comisiwn benderfynu cyflwyno cosb sifil gan ddefnyddio ei bwerau o dan Atodlen 19C i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Fel arfer, bydd y Comisiwn yn rhoi cosb lle bydd o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny a phan fo'n gymesur ac er budd y cyhoedd.
Os bydd y Comisiwn yn ceisio rhoi cosb, bydd yn dilyn y broses statudol a nodir yn Atodlen 19C i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno hysbysiad sy'n cynnig cosb, a chyfnod o amser i'r person sy'n destun yr hysbysiad wneud sylwadau.
Wrth gyflwyno sylwadau, gall y sawl sydd wedi derbyn hysbysiad gyflwyno unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol, yn eu barn hwy. Yn benodol, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, efallai y byddant am gyflwyno unrhyw amddiffyniad i'r drosedd. Efallai y byddant am wneud sylwadau ar y rhesymau dros gosb arfaethedig y Comisiwn, gan gynnwys y ffeithiau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt. Gellir cyflwyno sylwadau ar y ffordd y cafodd y ffactorau a ystyriwyd gan y Comisiwn eu cymhwyso wrth benderfynu ar y math o gosb a maint y gosb. Yn olaf, efallai y byddant am wneud sylwadau ar allu'r person dan sylw i dalu cosb ariannol a/neu'r gost i'r person dan sylw sy'n gysylltiedig ag unrhyw ofyniad anariannol y gellid ei osod.
Lle y bo modd, dylid cyflwyno tystiolaeth ategol wrth gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau.
Caiff unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau eu hystyried gan un o uwch-swyddogion y Comisiwn nad oedd yn rhan o'r broses o wneud y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn cynnig cosb. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'r Comisiwn yn dal i fod yn fodlon bod trosedd wedi digwydd ac, os felly, fod y gosb arfaethedig yn rhesymol ac yn briodol.
Os na fydd y Comisiwn yn fodlon mwyach, o ganlyniad i hynny, fod trosedd neu dramgwydd wedi digwydd, byddwn yn dod â'r mater i ben a hysbysir y derbynnydd o'r canlyniad. Fel arall, bydd yr uwch-swyddog yn penderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad yn rhoi cosb, sydd naill ai'n adlewyrchu'r penderfyniad cychwynnol neu'n ei newid.
Pan gaiff unrhyw gosb ei gosod, bydd gan destun y gosb honno hawl i apelio i lys sirol yng Nghymru a Lloegr, llys sirol yng Ngogledd Iwerddon, neu'r siryf yn yr Alban.