Cyfryngau cymdeithasol

Fel arfer, y deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol fydd y postiad cyfryngau cymdeithasol cyfan. Rhaid i chi gynnwys yr argraffnod yn y postiad ei hun, os bydd hynny'n rhesymol ymarferol.

Eg 1

Er enghraifft, ar gyfer hysbysebion y telir amdanynt ar Facebook, fel arfer bydd yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd – gallwch gynnwys yr argraffnod yng nghynnwys yr hysbyseb, neu yn y testun ymwadiad sy'n ymddangos ar frig yr hysbyseb. 

Social media 2

Hysbyseb Facebook yn hyrwyddo ymgeisydd sy’n darllen fel a ganlyn: “Pleidleisiwch. Pleidleisiwch dros Jane Doe ar gyfer y Blaid Lwyd”. Mae yna argraffnod yn nhestun yr ymwadiad sy’n darllen fel a ganlyn: “Hyrwyddwyd gan John Smith ar ran Jane Doe, y naill a’r llall o 110 Y Stryd Fawr, Ponteglwys, AB12 3CD”.

Ar rai llwyfannau digidol, gall dyluniad y llwyfan, er enghraifft cyfyngiad nodau ar bostiadau, olygu nad yw'n rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r postiad. Yn yr achos hwn, rhaid i chi arddangos argraffnod darllenadwy yn rhywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r postiad. Rhaid i'r argraffnod fod yn uniongyrchol hygyrch o'r postiad ni waeth pa ddyfais a ddefnyddir. Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch wneud hyn.

Eg 2

Er enghraifft, ar Twitter, efallai na fydd yn rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod yn y postiad ei hun yn aml oherwydd bod cyfyngiad nodau. Os felly, gellir cynnwys eich argraffnod ar eich proffil, er enghraifft o dan eich enw, neu fel postiad neu drydariad wedi'i binio. Fel arall, gellir cynnwys yr argraffnod rywle arall y gallwch roi dolen uniongyrchol iddo o'ch postiad, er enghraifft, ar eich gwefan eich hun.

Social media 3

Trydariad wedi’i binio enghreifftiol ar gyfer “Jane Doe dros Bonteglwys” sy’n darllen fel a ganlyn: “Ydych chi am ddysgu rhagor am ein hymgyrch? Ewch i: www.janedrosbonteglwys.org.uk am ragor o wybodaeth. Hyrwyddwyd gan John Smith ar ran Jane Doe, y naill a’r llall o 110 Y Stryd Fawr, Ponteglwys, AB12 3CD”.
Argraffnod ymgeisydd fel trydariad wedi'i binio, lle mae'r ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant ei hun
Argraffnod ymgeisydd mewn proffil cyfryngau cymdeithasol

Fel arfer, nid yw adran ‘Ynglŷn â’ proffil ar lwyfan digidol yn uniongyrchol hygyrch o bostiad, am nad yw'r hyperddolen i'r proffil yn mynd â chi i'r adran honno yn uniongyrchol. Yn yr achos hwn, dim ond os byddwch yn ychwanegu eich dolen uniongyrchol eich hun i'r adran ‘Ynglŷn â’ yn y postiad y bydd yr adran ‘Ynglŷn â’ yn uniongyrchol hygyrch ohono. 

Os bydd angen argraffnod ar ddeunydd, rhaid i chi sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan sy'n eich galluogi i naill ai gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd neu, os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd. Os bydd cyfleusterau llwyfan yn rhy gyfyngedig i chi allu gwneud y naill na'r llall, rhaid peidio â chyhoeddi'r argraffnod sydd angen argraffnod ar y llwyfan hwnnw.

Os byddwch yn cyhoeddi deunydd sydd angen argraffnod ar lwyfan sydd â chyfleusterau cyfyngedig, rhaid i chi gynnwys yr argraffnod ni waeth beth fo cyfyngiadau'r llwyfan. Er enghraifft, ni chaiff bio ar TikTok fod yn hwy nag 80 o nodau, ni chewch gynnwys dolenni mewn pennawd ac nid yw postiadau wedi'u pinio ar gael i bob defnyddiwr. Y ffordd orau o osgoi'r cyfyngiadau hyn yw cynnwys yr argraffnod o fewn cynnwys eich fideo TikTok ei hun.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023