Rhannu ac ailgyhoeddi deunydd

Pan fyddwch yn rhannu deunydd â'r cyhoedd neu ran o'r cyhoedd, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, bydd yn fath o gyhoeddiad. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at hyn fel ‘ailgyhoeddi’. Felly mae'r gyfraith ar argraffnodau hefyd yn gymwys i ddeunydd rydych yn ei rannu – er enghraifft, defnyddio'r swyddogaeth ‘aildrydar’ ar Twitter, y botwm ‘Rhannu’ ar Facebook, y swyddogaeth ‘deuawd’ ar TikTok, neu anfon neges e-bost ymlaen.

Mae hyn hefyd yn gymwys pan fyddwch yn rhannu deunydd a gyhoeddwyd gyntaf cyn i'r gyfraith ar argraffnodau digidol ddod i rym.

Fodd bynnag, os byddwch yn rhannu deunydd sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi ag argraffnod cywir ac nad ydych yn newid y deunydd yn sylweddol, ni fydd angen i chi gynnwys argraffnod newydd gyda'ch manylion eich hun. Bydd yr argraffnod gwreiddiol yn ddigonol. Yn y canllawiau hyn, rydym yn cyfeirio at hyn fel yr ‘esemptiad rhannu’.

Mae newid y deunydd yn sylweddol yn cynnwys:

  • ei newid mewn modd sy'n newid ystyr y deunydd
  • tynnu'r argraffnod (os oedd yn ymddangos yn wreiddiol fel rhan o'r deunydd)
  • ei rannu mewn modd sy'n golygu nad yw'r argraffnod yn hygyrch o'r deunydd mwyach (os oedd yn ymddangos yn wreiddiol rywle a oedd yn uniongyrchol hygyrch o'r deunydd)

Os byddwch yn rhannu deunydd digidol sydd wedi'i gyhoeddi eisoes, ond 

  • rydych yn newid y deunydd hwnnw yn sylweddol, a 
  • bod angen argraffnod arno ar ei ffurf newydd o hyd

rhaid i chi gynnwys eich argraffnod eich hun, hyd yn oed os oedd gan y deunydd gwreiddiol argraffnod. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech fod yn cyflawni trosedd.

Siart llif sy’n disgrifio’r math o ddeunydd sydd wedi’i ailgyhoeddi sydd angen argraffnod

Pan gaiff deunydd ei ailgyhoeddi, y sawl sy'n ailgyhoeddi'r deunydd (ac unrhyw un arall y mae'n ei ailgyhoeddi ar ei ran) fydd yn gyfrifol am gynnwys argraffnod 

Ni fydd y ddyletswydd hon ar hyrwyddwr y deunydd gwreiddiol sydd nawr yn cael ei ailgyhoeddi. Dim ond dyletswydd am sicrhau bod modd rhannu'r deunydd gwreiddiol heb golli'r un o'r canlynol sydd gan hyrwyddwr y deunydd gwreiddiol:

  • yr argraffnod (os yw wedi'i gynnwys fel rhan o'r deunydd)
  • mynediad at yr argraffnod (os yw wedi'i gynnwys rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd)

Ym mhob achos, ond yn enwedig os bydd hyrwyddwr yn annog pobl i rannu ei ddeunydd, mae'n arfer dda cynnwys yr argraffnod rywle lle caiff ei gadw hawsaf os caiff y deunydd ei rannu. Os yw'r postiad yn cynnwys delwedd neu fideo, bydd hyn fel arfer yng nghynnwys y ddelwedd neu'r fideo ei hun.

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sy'n rhannu deunydd, ni fydd angen i chi gynnwys argraffnod fel arfer. Mae hyn am nad oes angen i chi gynnwys argraffnod gydag unrhyw ddeunydd organig os nad ydych yn endid perthnasol ac nid ydych yn cyhoeddi ar ran un. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023