Os byddwch yn talu llwyfan digidol i gyhoeddi hysbyseb ddigidol, bydd angen i chi benderfynu a yw'r hysbyseb yn ‘ddeunydd gwleidyddol’. Bydd eich hysbyseb yn ddeunydd gwleidyddol os gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw un o'r dibenion ar y rhestr.
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ymgyrchu ar fater, mae'n debygol y bydd prif ddiben eich ymgyrch gyffredinol yn seiliedig ar y mater hwnnw. Fodd bynnag, nid nod cyffredinol eich sefydliad sy'n bwysig ar gyfer p'un a yw eich hysbyseb ddigidol yn ddeunydd gwleidyddol, ond p'un a yw unig ddiben neu brif ddiben hysbyseb benodol y telir amdani yn ddiben sy'n gwneud yr hysbyseb yn ddeunydd gwleidyddol (gweler yr adran hysbysebion y telir amdanynt am enghreifftiau ar y pwynt hwn a'r diffiniad o ddeunydd gwleidyddol).
Os ydych yn elusen gofrestredig, a'ch bod yn dilyn cyfraith a chanllawiau elusennau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, mae'n annhebygol y bydd unig ddiben neu brif ddiben eich deunydd ar y rhestr, gan fod llawer o'r mathau o ymgyrchoedd sydd â'r dibenion hynny wedi'u gwahardd. Er enghraifft, rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth pleidiau ac mae'n rhaid iddynt beidio â chefnogi plaid wleidyddol nac ymgeisydd na chreu canfyddiad o gefnogaeth o ganlyniad i'w gweithredoedd neu eu cyfranogiad.
Gall hyn hefyd fod yn gymwys i sefydliadau eraill sydd â chyfyngiadau ar eu gweithgareddau gwleidyddol, er enghraifft yn eu cyfansoddiad.