| Argraffu'r canllawiau llawn

Deunydd gwleidyddol sy'n gysylltiedig â refferenda

Bydd hysbyseb y telir amdani yn ddeunydd gwleidyddol os gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi cynnal unrhyw fath o refferendwm yn y DU, neu ganlyniad penodol hynny, fel:

  • refferendwm ledled y DU
  • refferendwm a gynhelir yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu unrhyw gyfuniad o'r rhain
  • refferendwm Senedd Cymru 
  • refferendwm llywodraethu awdurdod lleol
  • refferendwm llywodraeth leol 
  • digwyddiad pleidleisio lleol
  • refferendwm ar gynyddu treth gyngor
  • digwyddiad pleidleisio plwyf
  • refferendwm Cynllunio Cymdogaeth

Rhaid i unrhyw hysbyseb ddigidol y telir amdani sy'n cefnogi canlyniad mewn refferendwm a gynhelir gynnwys argraffnod. 

Rhaid i unrhyw hysbyseb sy'n hyrwyddo canlyniad mewn refferendwm posibl yn y dyfodol gael argraffnod, hyd yn oed os nad yw'r refferendwm hwnnw wedi cael ei alw neu os na ddeddfwyd yn ei gylch.

Example

Er enghraifft, mae cryn drafod ynghylch cynnal refferendwm ar fater, ond nid yw wedi cael ei alw'n swyddogol na'i ddeddfu eto. Os bydd ymgyrchydd yn gosod hysbyseb y telir amdani sy'n dweud ‘PLEIDLEISIWCH IE’ mewn perthynas â'r mater penodol, gellid ystyried yn rhesymol fod hyn yn dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi canlyniad penodol (Ie) mewn refferendwm yn y dyfodol. Felly byddai angen argraffnod.

pol ref 2

Rhaid i unrhyw hysbyseb ddigidol sy'n dadlau'n bendant o blaid cynnal refferendwm newydd gael argraffnod. Nid oes gwahaniaeth os nad yw'n debygol y caiff y refferendwm ei gynnal – bydd y gofynion ynghylch argraffnodau yn gymwys o hyd.

Example

Er enghraifft, byddai angen argraffnod ar hysbyseb ddigidol y telir amdani sy'n galw am refferendwm ar gael annibyniaeth i Ogledd Lloegr.

Pol ref 3

Ni fydd hysbysebion y telir amdanynt mewn perthynas â refferenda a gynhaliwyd yn y gorffennol yn ddeunydd gwleidyddol o dan ran refferendwm y diffiniad.

example

Er enghraifft, ni fyddai angen argraffnod ar hysbyseb y telir amdani i goffáu’r refferendwm yng Ngogledd Iwerddon yn 1998 a gymeradwyodd Gytundeb Gwener y Groglith.

pol ref 4

Gall rhai hysbysebion digidol y telir amdanynt fod yn gysylltiedig â:

  • phwnc testun refferendwm blaenorol 
  • effeithiau canlyniad refferendwm
  • y broses o roi canlyniad refferendwm ar waith 

Gan fod y refferendwm wedi digwydd yn yr achosion hyn, dim ond os bydd y deunydd yn bodloni un o rannau eraill y meini prawf ar gyfer deunydd gwleidyddol y bydd angen argraffnod arno.

example

Er enghraifft, ni ellid ystyried yn rhesymol mai bwriad hysbyseb y telir amdani a gyhoeddir ar ôl refferendwm yn dweud ‘PARCHWCH Y CANLYNIAD’ yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi'r canlyniad buddugol yn y refferendwm, oherwydd bod y refferendwm eisoes wedi digwydd.

Fodd bynnag, yn dibynnu ar y cyd-destun a'r deunydd, gall fod yn ddeunydd gwleidyddol am reswm arall. Er enghraifft, gellid ystyried yn rhesymol mai'r bwriad yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi plaid benodol neu gategori o ddeiliaid swyddi etholedig sydd â barn benodol am sut i roi'r canlyniad ar waith, neu i beidio â chefnogi cynnig i gynnal ail refferendwm.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Ionawr 2026