Gwefannau

Os mai gwefan neu dudalen we yw'r deunydd digidol, bydd fel arfer yn rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod ar y dudalen we berthnasol. Er enghraifft, gellid ei arddangos yn y troedyn.

Tudalen we enghreifftiol ar gyfer “www.plaidlwyd.org.uk” gyda throedyn sy’n darllen fel a ganlyn: “Hyrwyddwyd gan y Blaid Lwyd, 110 Y Stryd Fawr, Ponteglwys, AB12 3CD”.

Os mai dim ond rhan o'r dudalen we yw'r deunydd, er enghraifft, postiad cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'i fewnblannu yn y dudalen, yna rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd os bydd hynny'n rhesymol ymarferol. 

Os nad yw'n rhesymol ymarferol, yna gall ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd – er enghraifft, rhywle arall ar yr un dudalen we, megis y troedyn, neu rywle sydd wedi'i gysylltu â'r deunydd drwy hyperddolen.

eg

Er enghraifft, os mai hysbyseb mewn chwiliad Google yw eich deunydd, efallai na fydd cyfyngiad nodau'r disgrifiad yn ddigon i gynnwys y wybodaeth sydd ei hangen yn yr argraffnod ar y deunydd ei hun. Yn yr achos hwn, gallwch gynnwys yr argraffnod rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r hysbyseb chwiliad Google, megis y dudalen y mae'r hysbyseb yn arwain ati.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023