Enghreifftiau o rannu deunydd

Mae'r tablau canlynol yn dangos enghreifftiau gwahanol o ‘gadwyni’ a ddefnyddir i rannu deunydd. Mae pob tabl yn dechrau gyda'r un darn o ddeunydd digidol, ond ym mhob tabl, caiff ei ailgyhoeddi mewn nifer o ffyrdd gwahanol. 

Cadwyn o rannu deunydd organig lle mae'r argraffnod wedi'i gynnwys fel rhan o'r deunydd:

Enghraifft

A oes angen argraffnod newydd? 

Pam?

Beth wnaethant
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn

Oes.

Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei hyrwyddo gan blaid.

Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun.
Caiff y ddelwedd ei haildrydar gan un o ASau'r blaid.

Nac oes.

Mae'n ddeunydd etholiad ac mae wedi'i rhannu gan ddeiliad swydd etholedig, ond mae wedi'i esemptio o dan y rheolau ar rannu. Mae wedi'i rannu heb gael ei newid yn sylweddol ac mae argraffnod gwreiddiol y blaid yn dal i fod yn rhan o'r deunydd.

Nid yw'r AS gynnwys ei argraffnod ei hun.
Mae darpar ymgeisydd yn aildrydar aildrydariad ei gydweithiwr.

Nac oes.

Mae'r esemptiad rhannu yn dal yn gymwys – nid yw'r deunydd yn cael ei newid yn sylweddol ac mae argraffnod gwreiddiol y blaid yn dal yn rhan o'r deunydd, felly nid oes angen argraffnod arall.

Nid yw'r darpar ymgeisydd yn cynnwys ei argraffnod ei hun.

Cadwyn o rannu deunydd organig lle mae'r argraffnod yn y deunydd yn wreiddiol ond caiff ei dynnu wrth iddo gael ei ailgyhoeddi.

Enghraifft

A oes angen argraffnod newydd? 

Pam?

Beth wnaethant
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn

Oes.

Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei hyrwyddo gan blaid.

Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun.

Mae ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn cymryd sgrinlun o'r ddelwedd ac yn creu postiad Facebook allan ohono. 

Mae'n tocio'r ddelwedd fel nad yw'r argraffnod yn ymddangos mwyach.

Oes.

Drwy ddileu'r argraffnod, mae wedi addasu'r deunydd yn sylweddol. Mae hyn yn golygu nad yw'r esemptiad rhannu yn gymwys.
 
Am ei fod yn ddeunydd etholiad, a'i fod yn ymgyrchydd cofrestredig, mae angen argraffnod yr ymgyrchydd o dan y rheolau ar gyfer deunydd organig.

Nid yw'r ymgyrchydd cofrestredig yn cynnwys argraffnod, ac felly mae'n cyflawni trosedd.
Mae ymgeisydd yn rhannu'r ddelwedd wedi'i newid gan ddefnyddio'r botwm ‘Rhannu’ ar Facebook.

Oes.

Nid yw'r esemptiad rhannu yn gymwys, am na wnaeth yr ymgyrchydd yn yr enghraifft flaenorol gynnwys argraffnod.

Rhaid i'r ymgeisydd gynnwys ei argraffnod ei hun.

Mae'n rhesymol ymarferol iddo ei gynnwys yn y postiad, felly mae'r ymgeisydd yn ei gynnwys uwchlaw'r ddelwedd.

Mae aelod o'r cyhoedd yn rhannu'r un ddelwedd wedi'i newid gan ddefnyddio'r botwm ‘Rhannu’ ar Facebook.

Nac oes.

Gan nad yw'n hysbyseb y telir amdani, dim ond i endidau perthnasol y mae'r rheolau ar argraffnodau mewn perthynas â deunydd organig yn gymwys.

Nid oes angen i aelodau o'r cyhoedd nad ydynt yn endid perthnasol, ac nad ydynt yn cyhoeddi ar ran un, gynnwys argraffnod ar ddeunydd organig, p'un a ydynt yn ei gyhoeddi'n wreiddiol neu'n ei rannu.

Nid oes angen argraffnod, felly nid yw'r aelod o'r cyhoedd yn cynnwys un.

Cadwyn o rannu deunydd organig lle mae'r argraffnod wedi'i gynnwys rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd:

Enghraifft

A oes angen argraffnod newydd? 

Pam?

Beth wnaethant
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn.

Oes.

Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei hyrwyddo gan blaid.

Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun.

Mae AS o blaid sy'n cystadlu yn ei herbyn yn ailgyhoeddi'r ddelwedd wreiddiol gan ddefnyddio'r swyddogaeth ‘Dyfynnu Trydariad’ ar Twitter. 

Mae'n ychwanegu sylw hir sy'n beirniadu'r deunydd a'r blaid a drydarodd y ddelwedd yn wreiddiol.

Oes.

Mae'r AS wedi rhannu'r deunydd ond wedi'i droi yn ddeunydd etholiad gyda'r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn y blaid wreiddiol. 

Oherwydd bod yr ystyr wedi'i newid, mae'r deunydd wedi cael ei newid yn sylweddol. Mae hyn yn golygu nad yw'r esemptiad rhannu yn gymwys.

Mae trydariad yr AS yn ddarn o ddeunydd newydd ac mae angen argraffnod arno yn ei rinwedd ei hun.

Yn yr achos hwn, am fod yr AS wedi defnyddio llawer o'r cyfyngiad nodau gyda'i sylw, nid yw'n rhesymol ymarferol i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r trydariad. 

Felly, mae'r AS yn ychwanegu ei argraffnod ei hun o dan ei enw yn ei fio ar Twitter. 

Mae hwn yn uniongyrchol hygyrch o'r trydariad oherwydd bod y trydariad yn cynnwys hyperddolen i'r bio mewnol i gyfleuster y llwyfan.

Mae darpar ymgeisydd yn aildrydar trydariad yr AS.

No.

The future candidate’s tweet still contains a hyperlink with a direct link to the MP’s Twitter bio. The imprint is therefore still accessible from the shared material.

Nid yw'r darpar ymgeisydd yn cynnwys ei argraffnod ei hun.
Mae maer etholedig yn cymryd sgrinlun o aildrydariad y darpar ymgeisydd ac yn ei gynnwys fel rhan o fideo ar TikTok.

Oes.

Oherwydd y ffordd y mae'r ddelwedd wedi'i chyhoeddi, nid oes hyperddolen i broffil yr AS mwyach, lle mae'r argraffnod gwreiddiol yn ymddangos. 

Nid yw'r argraffnod yn hygyrch o'r deunydd y mae'r maer wedi'i ailgyhoeddi mwyach, felly nid yw'r esemptiad yn gymwys.

Felly, mae'r darpar ymgeisydd yn cynnwys ei argraffnod ei hun ar ddechrau'r fideo.
Mae ymgeisydd yn rhannu fideo'r maer drwy ddefnyddio'r nodwedd ‘stitch’ ar TikTok. Mae adran o ddiwedd fideo'r maer yn ymddangos ar ddechrau fideo'r ymgeisydd.

Oes.

Am nad yw'r adran o'r fideo cynharach sydd wedi'i chynnwys yn cynnwys argraffnod y maer, mae'r deunydd wedi cael ei newid yn sylweddol. Nid yw'r esemptiad rhannu yn gymwys.

Mae'r ymgeisydd felly'n cynnwys argraffnod yn ei fideo.

Enghreifftiau lle y caiff deunydd organig ei ailgyhoeddi a'i droi yn hysbyseb y telir amdani:

Enghraifft

A oes angen argraffnod newydd?

Pam?

Beth wnaethant
Mae plaid wleidyddol yn trydar delwedd yn beirniadu maniffesto etholiadol plaid sy'n cystadlu yn ei herbyn.

Oes.

Mae'n ddeunydd etholiad a chaiff ei lunio gan blaid.

Mae'r blaid yn cynnwys ei hargraffnod yn y ddelwedd ei hun.
Mae ymgyrchydd yn talu Facebook i roi ‘hwb’ i bostiad y blaid, gan ei droi yn hysbyseb y telir amdani.

Nac oes.

Mae'r postiad hwn bellach yn hysbyseb y telir amdani, ac mae'n ddeunydd gwleidyddol. 

Fodd bynnag, mae'r argraffnod yn rhan o'r postiad gwreiddiol ac mae wedi'i gadw. Nid yw'r deunydd wedi'i newid yn sylweddol. Mae'r esemptiad rhannu yn gymwys ac nid oes angen i'r ymgyrchydd gynnwys ei argraffnod ei hun.

Nid yw'r ymgyrchydd yn cynnwys argraffnod.
Mae aelod o'r cyhoedd yn llunio ac yn cyhoeddi memyn yn beirniadu plaid wleidyddol a rhai o'i deiliaid swyddi etholedig. Nid yw'n talu iddo gael ei gyhoeddi fel hysbyseb.

Nac oes.

Os na chaiff deunydd ei gyhoeddi fel hysbyseb y telir amdani, yna dim ond os caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran endid perthnasol y mae angen argraffnod.
 
Nid yw aelod o'r cyhoedd yn un o'r endidau perthnasol, nac yn cyhoeddi ar ran un, ac felly nid oes angen iddo ddangos argraffnod ar ddeunydd organig.

Nid yw'r aelod o'r cyhoedd yn cynnwys argraffnod.
Mae'r ymgyrchydd yn talu Facebook i roi ‘hwb’ i'r memyn, gan ei droi yn hysbyseb y telir amdani. 

Oes.

Nid oedd angen argraffnod ar y memyn gwreiddiol am nad oedd yn hysbyseb y telir amdani ac ni chafodd ei rannu gan endid gwleidyddol. 

Fodd bynnag, drwy roi ‘hwb’ i'r postiad, mae'r ymgyrchydd wedi'i droi yn hysbyseb y telir amdani, ac mae bellach yn ddeunydd gwleidyddol. 

Gan nad oedd y postiad gwreiddiol yn cynnwys argraffnod, rhaid i'r ymgyrchydd gynnwys ei fanylion ei hun yn yr hysbyseb.

Mae'r ymgyrchydd yn cynnwys ei argraffnod yn adran ‘ymwadiad’ yr hysbyseb.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023