Mae'n arfer dda i bleidiau gwleidyddol gynnwys argraffnod ar eu holl ddeunyddiau digidol.
Deunydd organig
Mae plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol yn un o'r endidau perthnasol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i blaid gofrestredig gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd organig sydd naill ai'n ddeunydd etholiad, yn ddeunydd refferendwm neu'n ddeunydd deiseb adalw.
Yn benodol, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mae'n rhaid i blaid gynnwys argraffnod ar unrhyw ddeunydd organig sy'n:
hyrwyddo'r blaid neu unrhyw un o'i hymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr mewn etholiad
beirniadu plaid arall neu unrhyw un o'i hymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr mewn etholiad
hyrwyddo canlyniad mewn refferendwm PPERA – hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd refferendwm
hyrwyddo canlyniad mewn deiseb adalw – hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Swyddog Deisebau fel ymgyrchydd deiseb adalw
Hysbysebion y telir amdanynt
Fel unrhyw un arall, mae'n rhaid i blaid wleidyddol gynnwys argraffnod ar unrhyw hysbyseb y telir amdani sy'n ddeunydd gwleidyddol.
Yn benodol, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, mae hyn yn cynnwys unrhyw hysbyseb ddigidol y telir amdani, a gyhoeddir unrhyw bryd, y gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd i wneud y canlynol:
cefnogi'r blaid neu unrhyw un o'i hymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig
peidio â chefnogi'r plaid arall neu unrhyw un o'i hymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig
cefnogi neu beidio â chefnogi cynnig i gynnal refferendwm
cefnogi neu beidio â chefnogi canlyniad mewn refferendwm sy'n digwydd, hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd refferendwm
cefnogi neu beidio â chefnogi canlyniad mewn deiseb adalw – hyd yn oed os nad yw'r blaid wedi'i chofrestru â'r Swyddog Deisebau fel ymgyrchydd deiseb adalw