Esemptiadau

Nid oes angen cynnwys argraffnod ar y mathau canlynol o ddeunydd oherwydd eu bod wedi'u hesemptio yn benodol:

  • Deunydd, heblaw am hysbyseb, a gyhoeddir ar wefan neu ap sydd ar gyfer newyddiaduraeth yn bennaf 
  • Unrhyw ddarllediad gwleidyddol neu ddarllediad ymgyrch refferendwm
  • Deunydd penodol a rennir sy'n dal i gynnwys yr argraffnod gwreiddiol. Ceir rhagor o fanylion yn Rhannu ac ailgyhoeddi deunydd

Deunydd a gyhoeddir ar wefan neu ap sydd ar gyfer newyddiaduraeth yn bennaf

  • Nid oes angen i ddeunydd, heblaw am hysbyseb, a gyhoeddir ar wefan neu ar ap ffôn symudol sydd â newyddiaduraeth fel ei brif ddiben (neu un o'i brif ddibenion) gynnwys argraffnod. Nid yw'r esemptiad hwn yn gymwys i hysbysebion, ni waeth a yw'r llwyfan wedi cael ei dalu i gyhoeddi'r hysbyseb ai peidio.

Gall gwefannau neu apiau sydd â newyddiaduraeth fel un o'u prif ddibenion gynnwys, er enghraifft:

  • Sianeli papurau newydd neu newyddion ar-lein
  • Apiau papurau newydd
  • Gorsafoedd radio ar-lein 

Darllediad gwleidyddol neu ddarllediad ymgyrch refferendwm

Nid oes angen cael argraffnodau digidol ar unrhyw ddarllediad gwleidyddol neu ddarllediad ymgyrch refferendwm a gaiff ei gynnwys gan ddarlledwr yn ei wasanaethau darlledu. Ystyr “darlledwr” yw:

  • deiliad trwydded o dan Ddeddf Darlledu 1990 neu 1996,
  • Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, neu
  • Sianel Pedwar Cymru.

Ystyr ‘darllediad ymgyrch refferendwm’ yw unrhyw ddarllediad sydd â'r diben (neu'r prif ddiben) neu y gellir tybio'n rhesymol mai ei ddiben (neu ei brif ddiben) yw datblygu unrhyw ymgyrch a gynhelir gyda'r bwriad o hyrwyddo neu sicrhau canlyniad penodol mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn a ofynnir mewn refferendwm y mae Rhan 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn gymwys, neu fel arall i hyrwyddo neu sicrhau unrhyw ganlyniad arall.

Os bydd plaid yn cyhoeddi'r un deunydd ar blatfform digidol, er enghraifft ar ei gwefan, yna ni fydd hyn yn ddarllediad gwleidyddol ac felly ni fydd wedi'i esemptio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023