Termau allweddol

Ymgeisydd

Ymgeisydd yw ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer swydd etholedig berthnasol, gan gynnwys person sydd wedi'i gynnwys mewn rhestr o ymgeiswyr a gyflwynwyd mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath.

Deunydd digidol

Yn Neddf Etholiadau 2022, cyfeirir at ddeunydd digidol fel ‘deunydd electronig’.

Deunydd digidol yw deunydd sydd ar ffurf electronig sy'n cynnwys: 

  • testun, delweddau sy'n symud neu ddelweddau llonydd, neu
  • iaith lafar neu gerddoriaeth.

Nid yw'n cynnwys deunydd a dderbynnir gan berson ar ffurf galwad ffôn (e.e. i rif ffôn llinell dir) na deunydd a dderbynnir drwy neges destun gan ddefnyddio SMS i rif ffôn.

Deiliad swydd etholedig

Rhywun sydd â swydd etholedig berthnasol yw deiliad swydd etholedig.

Dylid trin deiliad swydd etholedig fel pe bai gan yr unigolyn swydd yn ystod unrhyw gyfnod pan –

  1. fydd y person wedi'i ethol fel deiliad y swydd, neu y datganwyd y bydd yn dychwelyd fel deiliad y swydd, ond
  2. nad yw ei gyfnod yn y swydd wedi dechrau eto

Deunydd etholiad

Deunydd etholiad yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol ei fod yn hyrwyddo neu'n sicrhau llwyddiant etholiadol mewn un etholiad perthnasol neu fwy ar gyfer:

  • un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
  • ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
  • pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, neu ddarpar ymgeiswyr sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
  • categorïau eraill o bleidiau, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ymgeiswyr annibynnol (nad ydynt yn sefyll ar ran plaid wleidyddol)
  • unrhyw gyfuniad o'r uchod

Darpar ymgeisydd 

Bydd person yn ddarpar ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer swydd etholedig berthnasol os –

  1. datganwyd bod y person, boed hynny gan y person neu gan rywun ar ei ran, yn ymgeisydd yn yr etholiad (ac nad yw'r datganiad wedi cael ei dynnu'n ôl),
  2. mai'r etholiad yw'r etholiad nesaf a drefnwyd ar gyfer y swydd, ac
  3. nid yw hysbysiad yr etholiad wedi cael ei gyhoeddi eto neu, yn achos etholiad ar gyfer swydd aelod o Dŷ'r Cyffredin, nid yw'r gwrit ar gyfer yr etholiad wedi'i chyflwyno eto.

Deunydd organig

Deunydd organig yw unrhyw ddeunydd nad yw'n hysbyseb y telir amdani. Hynny yw, deunydd lle nad yw hyrwyddwr y deunydd, na'r person y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran, wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb.

Hysbyseb y telir amdani

Hysbyseb y telir amdani yw deunydd lle mae hyrwyddwr y deunydd, neu'r person y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran, wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb.

At ddibenion y diffiniadau o ‘hysbyseb y telir amdani’ a ‘deunydd organig’, nid yw taliadau'n gyfyngedig i arian yn unig. Gallant hefyd gynnwys buddion mewn nwyddau. 

Nid ydynt yn cynnwys taliadau sy'n rhan o gostau cefndir creu, sefydlu, gweithredu na chynnal y deunydd. Mae'n gyfyngedig i daliadau a wneir yn benodol i ddarparwr y gwasanaeth neu'r llwyfan sy'n lletya'r hysbysebion am gyhoeddi'r hysbysebion hynny.

Deunydd gwleidyddol

Deunydd gwleidyddol yw deunydd y gellir ystyried yn rhesymol mai ei unig ddiben neu ei brif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi: 

  • un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
  • ymgeisydd penodol neu ddarpar ymgeisydd penodol (yn ei rinwedd fel y cyfryw)
  • deiliad swydd etholedig penodol (yn ei rinwedd fel y cyfryw)
  • pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig (yn eu rhinwedd fel y cyfryw) sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
  • categorïau eraill o bleidiau, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig (yn eu rhinwedd fel y cyfryw) nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu ASau sydd wedi cael swydd y tu allan i wleidyddiaeth
  • cynnal refferendwm, neu ganlyniad penodol refferendwm
  • unrhyw gyfuniad o'r uchod

Hyrwyddwr

Yr hyrwyddwr yw'r person sy'n peri i'r deunydd gael ei gyhoeddi.

Cyhoeddi 

Ystyr cyhoeddi yw rhyddhau i'r cyhoedd yn gyffredinol, neu unrhyw ran o'r cyhoedd.

Deiseb adalw 

Trefn o dan Ddeddf Adalw ASau 2015 yw deiseb adalw lle gall AS presennol gael ei “adalw” gan ei etholwyr yn ystod cyfnod senedd, gan arwain at is-etholiad o bosibl. 

Deunydd deiseb adalw

Deunydd deiseb adalw yw deunydd sy'n hyrwyddo neu'n sicrhau llwyddiant neu fethiant deiseb adalw.

Ymgyrchydd deiseb adalw 

Ymgyrchydd deiseb adalw yw person sy'n ymgyrchydd achrededig o fewn yr ystyr a geir yn Neddf Adalw ASau 2015 mewn perthynas â deiseb adalw.

Refferenda (hysbysebion y telir amdanynt):

Ystyrir bod hysbyseb y telir amdani yn ddeunydd gwleidyddol os gellir ystyried yn rhesymol mai ei hunig ddiben neu ei phrif ddiben yw dylanwadu ar y cyhoedd, neu unrhyw ran o'r cyhoedd, i gefnogi neu beidio â chefnogi unrhyw refferendwm, sy'n cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

Key terms 3

I'r gwrthwyneb, dim ond os yw deunydd yn ymwneud â refferendwm PPERA yn gyfan gwbl neu'n bennaf yr ystyrir bod deunydd organig yn ddeunydd refferendwm. 

Deunydd refferendwm (deunydd organig)

Deunydd refferendwm yw deunydd sy'n gysylltiedig yn gyfan gwbl neu'n bennaf â refferendwm o dan Ran 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ac a gyhoeddir yn ystod cyfnod y refferendwm hwnnw.

Cyfnod y refferendwm 

Y cyfnod cyn refferendwm PPERA lle mae cyfyngiadau penodol ar waith, o dan adran 102 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000

Ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid

Ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yw ymgyrchydd a gaiff ei gydnabod gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ran 6 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau fel ‘trydydd partïon cydnabyddedig’.

Plaid gofrestredig 

Plaid gofrestredig yw plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Ymgyrchydd refferendwm cofrestredig 

Ymgyrchydd refferendwm cofrestredig yw unigolyn neu sefydliad sy'n gyfranogwr a ganiateir o fewn yr ystyr a geir yn Rhan 7 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mewn perthynas â refferenda y mae'r Rhan honno yn gymwys iddi. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at ymgyrchwyr refferendwm cofrestredig fel ‘cyfranogwyr a ganiateir’.

Etholiad perthnasol 

Ystyr “Etholiad perthnasol” yw unrhyw etholiad a resrir yn adran 45(9) o Ddeddf Etholiadau 2022, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, gan gynnwys:

  • etholiadau cyffredinol Senedd y DU
  • etholiadau Senedd yr Alban
  • etholiadau Senedd Cymru
  • etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a throseddu
  • etholiadau lleol, gan gynnwys etholiadau maerol, etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf ac etholiadau plwyf, tref a chymuned

Swydd etholedig berthnasol

Ystyr “swydd etholedig berthnasol” yw unrhyw swydd a resrir yn adran 37(1) o Ddeddf Etholiadau 2022, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, gan gynnwys y rheiny y’u diffinnir yno yn “swydd etholedig berthnasol yn yr Alban”.

Mae hyn yn cynnwys: 

  • aelod o Dŷ'r Cyffredin
  • aelod o Senedd yr Alban
  • aelod o Senedd Cymruaelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • maer etholedig
  • aelod o Gynulliad Llundain
  • cynghorydd
  • aelod o Gorfforaeth Dinas Llundain

Endid perthnasol

Endid perthnasol yw un o'r mathau o unigolyn neu sefydliad y gall fod yn ofynnol iddo gynnwys argraffnod ar ddeunydd organig. 

Yr endidau perthnasol yw:

  • plaid gofrestredig
  • ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
  • ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
  • deiliad swydd etholedig
  • ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
  • ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023