Am ba hyd y mae angen argraffnod ar ddeunydd?

Ym mhob achos, rhaid i'r deunydd digidol gynnwys argraffnod am gyhyd ag y bydd:

  • yr argraffnod yn ofynnol yn ôl y gyfraith 
  • y deunydd wedi'i gyhoeddi o hyd

Bydd deunydd wedi'i gyhoeddi o hyd cyhyd ag y bydd ar gael i'r cyhoedd neu ran o'r cyhoedd. Er enghraifft, os bydd postiad ar gael ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol o hyd, yna bydd wedi'i gyhoeddi o hyd.

Deunydd organig 

Ar gyfer deunydd organig, mae'r argraffnod yn ofynnol ar ddeunydd a gyhoeddir gan endid perthnasol am gyhyd ag y bydd y deunydd a gyhoeddir yn dal i fod yn unrhyw un o'r canlynol:

  • deunydd etholiad
  • deunydd refferendwm
  • deunydd deiseb adalw

Am fod y mathau hyn o ddeunydd oll yn gysylltiedig â digwyddiad etholiadol penodol, mewn llawer o achosion ni fydd yr argraffnod yn ofynnol mwyach ar ôl i'r digwyddiad hwnnw ddod i ben.

Er enghraifft, ni fydd fideo sy'n dweud ‘Pleidleisiwch NA ar 10 Mai’ mewn perthynas â refferendwm sydd ar ddod yn ddeunydd refferendwm mwyach ar ôl 10 Mai pan fydd y refferendwm wedi digwydd.

Hysbysebion y telir amdanynt

Ar gyfer hysbyseb y telir amdani, bydd argraffnod yn ofynnol cyhyd ag y bydd y deunydd yn ddeunydd gwleidyddol.

Bydd pa mor hir y bydd y deunydd yn ddeunydd gwleidyddol o hyd yn dibynnu ar bwy neu beth y gellir ystyried yn rhesymol y bwriedir i'ch deunydd ddylanwadu ar gefnogaeth y cyhoedd o'i blaid neu yn ei erbyn. Os bydd y deunydd yn gysylltiedig â digwyddiad etholiadol neu gylch etholiadol penodol, yna daw i ben yn naturiol. Er enghraifft:

  • gallai darpar ymgeisydd benderfynu peidio â sefyll
  • bydd ymgeisydd yn rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd ar ôl y diwrnod pleidleisio
  • bydd deiliad swydd etholedig yn rhoi'r gorau i fod yn ddeiliad swydd etholedig pan ddaw ei gyfnod i ben
  • ni ellir dylanwadu ar gefnogaeth neu wrthwynebiad i ganlyniad penodol mewn refferendwm ar ôl y diwrnod pleidleisio

Ni fydd mor amlwg pryd y daw rhai mathau o ddeunydd gwleidyddol i ben. Er enghraifft, gallai deunydd sy'n hyrwyddo cefnogaeth neu wrthwynebiad i blaid wleidyddol barhau i wneud hynny cyhyd ag y bydd y blaid yn bodoli.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Tachwedd 2023