Gall argraffnod fod yn ofynnol ar unrhyw ddeunydd digidol, os bydd y deunydd yn bodloni'r meini prawf a nodir yn yr adrannau canlynol.
Deunydd digidol yw deunydd ar ffurf electronig sy'n cynnwys testun, delweddau sy'n symud, delweddau llonydd, iaith lafar neu gerddoriaeth.
Nid yw'n cynnwys galwadau ffôn na negeseuon SMS. Gall fod yn gymwys i ddeunydd a gyhoeddir mewn gwasanaethau negesu nad ydynt yn defnyddio SMS, fel WhatsApp neu Signal.
Dim ond i ddeunydd digidol a gyhoeddir y mae'r gofyniad i gynnwys argraffnod yn gymwys, sef deunydd sydd ar gael i'r cyhoedd neu unrhyw ran o'r cyhoedd. Er enghraifft, ni fyddai'n gymwys i grŵp negesu preifat rhwng ffrindiau, nac i e-bost a anfonir gan blaid at ei haelodau yn unig.
Os bydd deunydd ar gael yn y DU, yna bydd y rheolau ynglŷn ag argraffnodau digidol yn gymwys, ni waeth o ble y caiff y cynnwys ei gyhoeddi na phwy yw'r hyrwyddwr. Er enghraifft, gallech fod y tu allan i'r DU, ond yn cyhoeddi deunydd ar lwyfan digidol sy'n golygu ei fod ar gael i ran o'r cyhoedd yn y DU.
Gall fod angen cael argraffnodau ar ddeunydd cyhoeddedig gan gynnwys (er nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
Hysbysebion naid
Postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
Unrhyw hysbyseb sy'n ymddangos ar unrhyw wefan, canlyniad peiriant chwilio, ap neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol
Hysbysebion ar radio rhyngrwyd neu lwyfannau ffrydio sain eraill, fel Spotify
Hysbysebion ar wasanaethau ffrydio teledu digidol
Hysbysebion mewn podlediadau
Hysbysebion mewn papurau newydd ar-lein
Negeseuon ar WhatsApp, Signal neu Telegram
Negeseuon MMS
Gwefannau
Delweddau
Fideos
Hysbysfyrddau electronig
Gall is-ddeddfwriaeth hefyd ddiweddaru'r diffiniadau o ddeunydd yng nghwmpas y drefn er mwyn cynnwys technoleg a ddaw i'r amlwg.