Os caiff deunydd digidol y mae angen argraffnod arno ei gyhoeddi heb un, yna efallai y bydd
hyrwyddwr y deunydd
unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran
yn cyflawni trosedd o dan adran 48(1) o'r Ddeddf Etholiadau.
Mae'n amddiffyniad i berson sydd wedi'i gyhuddo o'r drosedd hon brofi unrhyw un o'r canlynol:
ei fod wedi methu â chydymffurfio oherwydd amgylchiadau a oedd y tu hwnt i'w reolaeth, a'i fod wedi cymryd pob cam rhesymol, ac wedi arfer diwydrwydd dyledus, i sicrhau ei fod yn cydymffurfio.
ei fod wedi cydymffurfio â'r canllawiau hyn
yn achos ailgyhoeddi deunydd (gweler yr adran Rhannu ac ailgyhoeddi):
bod y deunydd wedi'i gyhoeddi'n flaenorol
nad oedd wedi'i newid yn sylweddol pan gafodd ei ailgyhoeddi
ei fod yn credu'n rhesymol fod angen argraffnod ar y deunydd gwreiddiol o dan adran 41 a'i fod wedi cydymffurfio â gofynion yr adran honno