Canllawiau statudol ar argraffnodau digidol
Lle y dylai'r argraffnod ymddangos?
Rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Mae p'un a yw'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd yn dibynnu ar allu technegol y llwyfan y cyhoeddir y deunydd arno.
Nid yw'n dibynnu, er enghraifft, ar b'un a fydd cynnwys argraffnod yn effeithio ar y canlynol:
- eich dewisiadau o ran cynllun neu ymddangosiad y deunydd
- pa mor effeithiol fydd y deunydd yn eich barn chi
- faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyhoeddi'r deunydd
Os caiff yr argraffnod ei gynnwys fel rhan o'r deunydd, rhaid iddo gael ei gynnwys mewn ffordd, pe byddai'r deunydd yn cael ei rannu fel y mae, y bydd yr argraffnod yn dal i fod yn rhan ohono.
Eg 1
Er enghraifft, os yw'r deunydd yn ddarlun a'i fod yn cynnwys argraffnod, yna os caiff y darlun ei rannu heb ei addasu, bydd yr argraffnod yn dal i ymddangos.
Where 2

Os nad yw'n rhesymol ymarferol cynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd, rhaid i'r argraffnod ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gellir ei gyrraedd drwy ddolen uniongyrchol, drwy un clic neu weithred gyfatebol fel arfer, lle mae'n haws i bleidleisiwr ddod o hyd i'r ddolen a'r argraffnod.
Os bydd yr argraffnod yn ymddangos rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd, rhaid iddo gael ei gynnwys mewn ffordd, pe byddai'r deunydd yn cael ei rannu fel y mae, y bydd yr argraffnod yn dal i fod yn hygyrch o'r deunydd a rennir.
Eg 2
Er enghraifft, os yw'r deunydd yn drydariad, a bod yr argraffnod wedi'i gynnwys yn eich bio ar Twitter, yna os caiff y deunydd ei aildrydar, bydd yr argraffnod yn eich bio yn dal i fod yn hygyrch o'r aildrydariad.
Where 3
Mae hyn yn golygu na ddylech ddileu'r argraffnod o'ch bio cyhyd â bod angen argraffnod a bod y deunydd wedi'i gyhoeddi o hyd. Pe byddech yn dileu'r argraffnod, yna ni fyddai'n hygyrch mwyach pe bai'ch deunydd yn cael ei rannu.
Yn yr un modd, ni allwch gynnwys eich argraffnod rywle na fyddai'n hygyrch i'r rheini a all weld y deunydd eu hunain
Eg 3
Er enghraifft, ni all yr argraffnod fod y tu ôl i wal dalu nac ardal warchodedig arall o'r rhyngrwyd, os byddai hynny'n golygu y byddai pleidleiswyr yn gweld y deunydd a rannwyd ond na fyddai ganddynt y caniatâd angenrheidiol i weld yr argraffnod ei hun.
Where 4
Y tu hwnt i'r gofynion hyn, nid yw hyrwyddwr gwreiddiol y deunydd yn atebol am unrhyw droseddau argraffnodau sydd o ganlyniad i'r ffaith bod y deunydd wedi'i rannu gan bobl eraill yn ddiweddarach. Mae'r atebolrwydd ar y bobl sy'n ailgyhoeddi'r deunydd – gweler Rhannu ac ailgyhoeddi.
Os caiff yr argraffnod ei gynnwys yn rhywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd, rhaid iddo fod yn amlwg bod yr argraffnod yn gysylltiedig â'r deunydd. Er enghraifft, ni fyddai'n dderbyniol cyhoeddi rhestr o argraffnodau gwahanol mewn un lleoliad, sy'n uniongyrchol hygyrch o lawer o ddeunyddiau gwahanol, heb ddangos yn glir pa argraffnod sy'n gysylltiedig â pha ddeunydd.
Mae'r adrannau nesaf yn rhoi canllawiau manwl ar fathau neu gategorïau penodol o ddeunydd digidol, a'r hyn sy'n rhesymol ymarferol fel arfer.