Return to The Electoral Commission Homepage

Sut i gofrestru eich plaid wleidyddol

Mae'r canllawiau hyn yn dweud wrthych beth y bydd angen i chi ei wybod a'i wneud i gofrestru plaid wleidyddol neu blaid lai am y tro cyntaf. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno eich cais drwy ein system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein. Mae gennym ffurflenni papur hefyd y gallwch eu lawrlwytho o'n gwefan.

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cynnal cofrestri pleidiau gwleidyddol ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae'r rhain yn gofrestri ar wahân.

Rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a'u swyddogion gydymffurfio â'r gyfraith, yn benodol fel y'i nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Mae'r rheolau hyn yn cynnwys rheolaethau parhaus ar roddion, benthyciadau, gwariant ar ymgyrchu, cyfrifon blynyddol, diweddaru eich manylion cofrestru yn rheolaidd ac adnewyddu eich cofrestriad yn flynyddol. Cyn penderfynu gwneud cais, mae'n bwysig eich bod yn darllen yr holl ganllawiau a gyhoeddwyd gennym ar gofrestru plaid wleidyddol a'n canllawiau ar gyfer trysoryddion pleidiau er mwyn deall y broses gofrestru a'r rhwymedigaethau o ran adroddiadau ariannol.

Os byddwch yn methu â chydymffurfio â'r gyfraith, gallwch wynebu cosbau sifil neu droseddol. Felly, un rhan bwysig o'r broses gofrestru yw bod eich plaid yn dangos bod ganddi drefniadau a phrosesau addas ar waith i alluogi'r blaid i gydymffurfio â'r fframwaith cyfreithiol.

Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio ‘rhaid’ pan fyddwn yn cyfeirio at ofyniad cyfreithiol neu reoliadol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylai’ ar gyfer eitemau sydd yn arfer dda ofynnol yn ein barn ni, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol. 

Pleidiau llai

Gallwch ddewis cofrestru naill ai plaid wleidyddol neu blaid lai.

Gall plaid wleidyddol gyflwyno ymgeiswyr ym mhob etholiad yn yr ardal lle maent wedi'u cofrestru - rhai rhannau o Brydain Fawr neu bob rhan ohoni, neu bob rhan o Ogledd Iwerddon.

Dim ond mewn etholiadau cynghorau cymuned yng Nghymru a/neu etholiadau cynghorau plwyf yn Lloegr y gall pleidiau llai sefyll. Ni all pleidiau llai ymladd etholiadau yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon. 

Mewn etholiadau ar gyfer cynghorau plwyf a chymuned, gall ymgeiswyr annibynnol, yn ôl disgresiwn y Swyddog Canlyniadau, ddefnyddio disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru â ni ar yr amod nad yw'r disgrifiad yn hirach na chwe gair ac na ellir ei gymysgu â phlaid wleidyddol gofrestredig.

Nid yw pleidiau llai yn gorfod dilyn yr un rhwymedigaethau o ran adroddiadau ariannol â phleidiau gwleidyddol.

Cyn i chi gofrestru

Cyn i chi gofrestru, mae angen i chi sefydlu eich plaid wleidyddol. 

Dylech sicrhau bod gennych gyfansoddiad, a bod eich prosesau ariannol ar waith.

Bydd hefyd angen i chi ystyried ble y mae eich plaid yn bwriadu cyflwyno ymgeiswyr. Bydd hyn yn effeithio ar ba gofrestr y bydd angen i chi wneud cais i gael eich cynnwys arno.

Eich bwriad i gyflwyno ymgeiswyr

Rhaid bod eich plaid yn bwriadu cyflwyno o leiaf un ymgeisydd mewn o leiaf un etholiad yn y DU. 

Os ydych yn bwriadu ymladd etholiadau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, bydd angen i chi gofrestru dwy blaid wleidyddol ar wahân, un ar bob cofrestr. Maent yn ddwy blaid ar wahân at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (PPERA) 2000.

Gallwch gofrestru pleidiau ar y ddwy gofrestr mewn un cais.

Rhaid i chi sicrhau bod materion ariannol y ddwy blaid yn cael eu cynnal ar wahân a rhaid i hyn hefyd gael ei adlewyrchu yng nghynllun ariannol pob plaid. Y rheswm pam y mae'n rhaid i'r pleidiau cofrestredig fod ar wahân yn gyfreithiol yw y bydd gan eich pleidiau yng Ngogledd Iwerddon ac ym Mhrydain Fawr ofynion ar wahân o ran adroddiadau ariannol.

Os bydwch yn cofrestru ar gofrestr Prydain Fawr, rhaid i chi nodi a ydych am ymladd etholiadau yng Nghymru, Lloegr a/neu yr Alban. Cofiwch mai dim ond yn y rhannau hynny o'r DU y mae eich cofnod cofrestru yn eu nodi y byddwch yn gallu cyflwyno ymgeiswyr. 

Fel rhan o'r broses gwneud cais, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi beth mae'r blaid wedi'i wneud, neu beth y bydd yn ei wneud, i wireddu ei bwriad i ymladd etholiadau. Un ffordd o wneud hyn yw amlinellu pa etholiadau penodol y mae eich plaid yn bwriadu eu hymladd yng nghyfansoddiad eich plaid.

Pleidiau llai

Dim ond ym Mhrydain Fawr y gall pleidiau llai gofrestru a rhaid iddynt hefyd nodi a ydynt yn bwriadu cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau cynghorau cymuned yng Nghymru, etholiadau cynghorau plwyf yn Lloegr, neu'r ddau.

Gwneud newidiadau

Os bydd eich plaid wedi'i chofrestru a'i bod yn ddiweddarach am newid ble y mae'n bwriadu cyflwyno ymgeiswyr, gallwch wneud cais i ddiwygio'r manylion hyn. Mae angen ffi o £150 i wneud cais i newid eich cofrestriad o blaid lai i blaid wleidyddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud i gofrestru

Ni chaiff plaid wleidyddol ei chofrestru'n awtomatig ar ôl cyflwyno cais i ni. Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn profion a meini prawf penodol a nodir yn y gyfraith. Caiff cais y blaid ei wrthod os nad yw'n bodloni'r profion statudol.

Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn gywir. Gall fod yn drosedd os byddwch yn cynnwys gwybodaeth rydych yn gwybod (neu y dylech yn rhesymol wybod) ei bod yn anghywir. 

Rhaid i'ch cais gynnwys y canlynol:

  • eich ffurflen gais wedi'i chwblhau 
  • cyfansoddiad eich plaid
  • cynllun ariannol eich plaid
  • ffi o £150 na chaiff ei had-dalu

Mae'n gyflym ac yn hawdd gwneud cais ar-lein. I ddechrau arni, bydd angen i chi sefydlu cyfrif Cyllid Gwleidyddol Ar-lein. Gallwch dalu eich ffi yn electronig pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein.

Mae ffurflenni papur hefyd ar gael.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Manylion y blaid

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), rhaid i chi gynnwys manylion penodol fel rhan o'ch cais i gofrestru plaid wleidyddol. Mae hyn yn cynnwys:  

  • Cyfeiriad pencadlys y blaid (neu gyfeiriad cyfatebol) 
  • P'un a ydych am gyflwyno ymgeiswyr yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ai peidio – bydd hyn yn effeithio ar ba ffurflenni ariannol y gall fod angen i chi eu cyflwyno i'r Comisiwn cyn yr etholiadau hynny.

Rhaid i chi ddarparu cyfeiriad pencadlys eich plaid. Os nad oes gan eich plaid bencadlys, rhaid i chi ddarparu cyfeiriad lle y gall y blaid dderbyn gohebiaeth. Rhaid i hwn fod yn gyfeiriad ffisegol, ac nid yn gyfeiriad e-bost.

Mae'n bwysig nodi y bydd y cyfeiriad hwn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus. Dylech osgoi defnyddio unrhyw gyfeiriadau cartref os nad ydych am iddynt gael eu cyhoeddi. Felly, efallai y byddwch am ystyried defnyddio cyfeiriad Blwch Post yn lle cyfeiriad cartref.

Dylech hefyd roi eich cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt i'r Comisiwn i'n galluogi i gysylltu â chi ynghylch gwybodaeth bwysig am eich cais ac yn y dyfodol ynghylch terfynau amser statudol pwysig.

Gwneud newidiadau

Os bydd eich plaid wedi'i chofrestru a'i bod yn ddiweddarach am newid unrhyw fanylion cofrestru, gallwch wneud cais i ddiwygio eich cofnod cofrestru unrhyw bryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

A ydych yn bwriadu ymladd etholiadau cyffredinol Senedd y DU?

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig adrodd am roddion (gan gynnwys adroddiadau dim trafodion) a gânt neu fenthyciadau yr eir iddynt yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol, oni fyddant wedi'u heithrio. Galwn y rhain yn adroddiadau cyn y bleidlais. Mae'r gofynion adrodd hyn yn ogystal â'r gofynion adrodd chwarterol ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

Os nad ydych yn bwriadu ymladd etholiadau cyffredinol Senedd y DU, ni allwch eithrio eich hun rhag cyflwyno adroddiadau cyn y bleidlais. Gallwch wneud hyn drwy ddatgan eich bwriad i beidio â chyflwyno ymgeiswyr yn un o etholiadau cyffredinol Senedd y DU ar eich cais i gofrestru plaid wleidyddol.

Rhaid i chi ail-gadarnhau’r datganiad bob tro y bydd y blaid yn cyflwyno ei hysbysiad adnewyddu blynyddol er mwyn cynnal yr eithriad.

Drwy wneud y datganiad hwn, ni fydd yn ofynnol i chi gyflwyno adroddiadau wythnosol ar roddion a benthyciadau cyn y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol. Os bydd eich plaid yn cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiad cyffredinol yn dilyn hynny, ni fydd yr eithriad hwn yn gymwys ar gyfer yr etholiad hwnnw. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i'r blaid gyflwyno adroddiadau ar roddion a benthyciadau cyn y bleidlais yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol hwnnw.

Nid yw hyn yn gymwys i bleidiau llai, na allant ymladd etholiadau cyffredinol Senedd y DU.

Os bydd eich plaid wedi'i chofrestru a'i bod yn ddiweddarach am ddiwygio datganiad a wnaed gennych yn flaenorol, gallwch wneud cais i ddiwygio hyn unrhyw bryd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Swyddogion eich plaid

Rhaid i bleidiau gwleidyddol gynnwys pobl sydd wedi'u cofrestru ar gyfer rolau swyddogol penodol. Mae'r rolau hyn yn cynnwys:

  •     arweinydd plaid
  •     trysorydd y blaid (nid yw'n gymwys ar gyfer pleidiau llai)
  •     swyddog enwebu

Rhaid i chi ddarparu enwau a chyfeiriadau cartref eich swyddogion.

Nid oes angen i chi gael tri unigolyn ar wahân ym mhob rôl, ond mae'n rhaid i chi gael o leiaf ddau berson fel swyddogion ar gyfer y blaid. Os mai un person fydd yn cyflawni pob un o'r rolau swyddogol, rhaid i chi gofrestru rhywun fel swyddog ychwanegol. Rhaid i'r swyddog ychwanegol gyflawni rôl benodedig yn y blaid. Os bydd gan eich plaid swyddog ymgyrchu, yna gellir ei gofrestru fel y swyddog ychwanegol.

Ni all yr un person gyflawni rolau'r trysorydd a'r swyddog enwebu oni bai mai ef yw'r arweinydd hefyd. 

Byddwch yn ymwybodol mai rolau statudol yw'r rhain, sy'n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol. 

Rolau swyddogion dewisol

Swyddog ymgyrchu – a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod eich plaid yn cydymffurfio â'r cyfreithiau ariannol ar gyfer gwariant yr ymgyrch yn lle'r trysorydd. Ni all ymgymryd â rôl y trysorydd hefyd. 

Swyddog ychwanegol – rhaid i chi wneud cais i gael swyddog ychwanegol os mai arweinydd y blaid yw'r trysorydd a'r swyddog enwebu hefyd ac nad oes gan eich plaid swyddog ymgyrchu.

Pleidiau llai

Os ydych yn blaid lai, rhaid i chi gofrestru arweinydd y blaid a swyddog enwebu. Rhaid i o leiaf ddau unigolyn gyflawni'r rolau swyddogion. Os mai un person fydd yn cyflawni'r ddwy rôl, rhaid i chi gofrestru rhywun fel swyddog ychwanegol. Ni ellir cofrestru pleidiau llai gyda thrysorydd neu swyddog ymgyrchu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cyfrifoldebau swyddogion

Bydd gan swyddogion cofrestredig pleidiau gwleidyddol rôl benodol mewn plaid. Bydd ganddynt gyfrifoldebau statudol penodol fel rhan o'u rolau hefyd. 

Arweinydd plaid

Mae'n rhaid mai arweinydd y blaid yw arweinydd cyffredinol y blaid. Os nad oes gan eich plaid arweinydd cyffredinol (er enghraifft, os oes gennych arweinwyr ar y cyd), rhaid i chi gofrestru person fel arweinydd â diben penodol yn y blaid. Er enghraifft, y sawl sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar faterion mewnol pleidiau. 
  
Os na fydd trysorydd y blaid yn ei swydd mwyach, bydd arweinydd y blaid yn gweithredu fel trysorydd dros dro nes i'r blaid ein hysbysu am drysorydd newydd.

Trysorydd plaid

Mae gan drysorydd cofrestredig plaid wleidyddol gyfrifoldebau cyfreithiol sylweddol. Rhaid iddo sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolau cyllid gwleidyddol a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Felly, mae'n bwysig bod person priodol yn cael ei gofrestru i fod yn drysorydd y blaid. 

Ni all y trysorydd fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau yn y pum mlynedd cyn iddo gael ei benodi.

Swyddog enwebu

Swyddog enwebu'r blaid sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am drefnu'r broses o enwebu ymgeiswyr a chymeradwyo nodau adnabod y blaid a ddefnyddir ar ffurflenni enwebu a phapurau pleidleisio mewn etholiadau. 

Nid oes unrhyw ddarpariaeth o dan PPERA i gofrestru dirprwy swyddog enwebu. Fodd bynnag, gall y swyddog enwebu cofrestredig awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran yn ysgrifenedig.

Swyddog ychwanegol

Os byddwch yn cofrestru swyddog ychwanegol, bydd ganddo rôl swyddogol o ryw fath yn y blaid. Mae'n rhaid i chi gofrestru swyddog ychwanegol â ni os mai'r un person yw arweinydd, trysorydd a swyddog enwebu'r blaid, ac nad oes gennych swyddog enwebu. Os nad yw hyn yn wir, ni allwch gofrestru swyddog ychwanegol â ni. 

Swyddog ymgyrchu

Bydd y swyddog ymgyrchu yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau o ran adroddiadau ariannol ar gyfer gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau penodol. Bydd yn cymryd y cyfrifoldebau hyn oddi wrth drysorydd y blaid.   

Ni ddylai'r swyddog ymgyrchu fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau o fewn pum mlynedd i gael ei benodi ac ni all fod yn drysorydd hefyd.

Dirprwy drysorydd a dirprwy swyddog ymgyrchu

Gall trysorydd neu swyddog ymgyrchu cofrestredig y blaid benodi hyd at 12 o ddirprwy swyddogion i gynorthwyo â'r gwaith o awdurdodi gwariant ar ymgyrchu. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol os yw eich plaid yn ymladd llawer o seddi. Defnyddiwch Ffurflen RP5 i gofrestru dirprwy swyddogion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Nodau adnabod ar bapurau pleidleisio

“Nodau Adnabod" yw'r modd y byddwn yn cyfeirio ar y cyd at enw eich plaid, disgrifiad ohoni a'i harwyddlun. Cânt eu defnyddio i adnabod plaid ar bapur pleidleisio mewn etholiadau. Nid yw pob nod adnabod yn orfodol. 

Rhaid i chi gofrestru enw'r blaid. Mae'r nod adnabod hwn yn orfodol. 

Gallwch gofrestru hyd at dri arwyddlun a 12 o ddisgrifiadau. Mae'r nodau adnabod hyn yn ddewisol.

Nid oes rhaid i chi gofrestru unrhyw nodau adnabod rydych yn bwriadu eu defnyddio ar ddeunyddiau ymgyrchu, oni bai eich bod hefyd yn bwriadu eu defnyddio ar bapur pleidleisio.

Rhaid i nodau adnabod fodloni gofynion a phrofion statudol penodol er mwyn cael eu cofrestru. Byddwn yn asesu eich cais i gofrestru nodau adnabod yn erbyn y profion hyn. 

O bryd i'w gilydd, bydd y Comisiwn hefyd yn cynnal adolygiadau o nodau adnabod ar ein cofrestri. Mae hyn yn rhan o'n dyletswydd i sicrhau ein bod yn cynnal y gofrestr o bleidiau gwleidyddol. 

Gallwch wneud cais i newid enw eich plaid, y disgrifiadau ohoni a'i harwyddluniau ac ychwanegu disgrifiadau ar y cyd yn ddiweddarach os byddwch yn dymuno gwneud hynny, am ffi ychwanegol o £25 fesul cais na chaiff ei had-dalu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Enw'r blaid

Rhaid i blaid gofrestru enw'r blaid â ni. Gall ddefnyddio'r enw hwn ar bapurau pleidleisio.

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru ym Mhrydain Fawr ac sy'n bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru wneud cais i enw Cymraeg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru yng Ngogledd Iwerddon wneud cais i enw Gwyddeleg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.

Nid ydym yn rheoleiddio'r modd y mae plaid am frandio ei hun na pha ymadroddion ymgyrchu y bydd yn eu defnyddio gyda'i henw pan na fydd y neges honno'n ymddangos ar bapurau pleidleisio. 

Os na fydd enw plaid wedi'i chofrestru â ni, ni all ymgeiswyr ymladd etholiad gan ddefnyddio'r enw hwnnw ar bapurau pleidleisio.

Os nad yw eich plaid wedi'i chofrestru â ni, dim ond i sefyll fel aelod annibynnol y gall ymgeisydd wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau. Yn yr achos hwn, gall yr ymgeisydd ddewis defnyddio: 

  • y gair ‘Annibynnol’ (neu ‘Independent’ os nad yw'n sefyll yng Nghymru) i ymddangos wrth ymyl ei enw ar y papur pleidleisio
  • dim nod adnabod ar y papur pleidleisio. 

Mae hyn ynghyd ag unrhyw fanylion eraill sy'n ofynnol o dan y rheolau etholiadol perthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Arwyddluniau'r blaid ar bapurau pleidleisio

Cynrychiolaeth weledol, ddewisol (neu logo) plaid yw ei harwyddlun. Ochr yn ochr â nodau adnabod eraill, gall arwyddlun helpu pleidleiswyr i adnabod y blaid ar bapurau pleidleisio. Gall pleidiau gofrestru hyd at dri arwyddlun. 

Er mwyn i'r blaid neu eich ymgeisydd ddefnyddio arwyddlun ar bapur pleidleisio, rhaid i'r blaid ei gofrestru â'r Comisiwn Etholiadol. 

Nid oes angen i chi gofrestru arwyddlun os ydych ond am ei ddefnyddio ar ddeunydd ymgyrchu ac nid ar bapurau pleidleisio.

Y bwriad yw bod arwyddlun yn cynnwys cynrychiolaeth ddarluniadol neu symbolaidd, felly rhaid iddo gynnwys yr elfen hon. Gall gynnwys rhywfaint o destun. Os mai testun y bydd yn ei gynnwys gan fwyaf yna mae'n annhebygol y byddwn yn ei gofrestru fel arwyddlun.

Mae hefyd yn debygol iawn y caiff arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr) ei wrthod. Rydym yn awgrymu bod unrhyw destun mewn arwyddlun yn 1.2mm o uchder o leiaf.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Disgrifiadau o'r blaid ar bapurau pleidleisio

Mae disgrifiad o'r blaid yn nod adnabod dewisol y gallwch ei gofrestru gydag enw'r blaid a all ymddangos ar bapur pleidleisio. Caniateir i blaid gofrestru hyd at 12 o ddisgrifiadau ar unrhyw adeg. 

Ar y rhan fwyaf o bapurau pleidleisio, gellir defnyddio disgrifiad o'r blaid yn hytrach nag enw'r blaid. Felly, rhaid i'r disgrifiad alluogi pleidleisiwr i adnabod eich plaid, rhag ofn iddo gael ei ddefnyddio ar bapur pleidleisio yn lle enw'r blaid. Fel enghraifft, un ffordd o wneud hyn yw drwy gynnwys enw'r blaid yn y disgrifiad.

Os na fydd y Comisiwn o'r farn y gall pleidleisiwr adnabod y blaid o'r disgrifiad, nid yw'n ddisgrifiad o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ac ni ellir ei gofrestru. 

Ni all disgrifiad fod yn union yr un fath ag enw'r blaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Disgrifiadau ar y cyd pleidiau

Gall dwy blaid wleidyddol gofrestredig neu fwy ddewis rhannu disgrifiad o blaid y gellir ei ddefnyddio ar bapur pleidleisio. Gelwir hyn yn ‘ddisgrifiad ar y cyd’ a gall pob un o'r pleidiau sydd wedi'u cofrestru un â phleidiau eraill ei ddefnyddio.
 
Mae yna reolau penodol sy'n ymwneud â chofrestru disgrifiadau ar y cyd – sef:  

  • dim ond un disgrifiad ar y cyd y gall grŵp o bleidiau ei rannu a'i gofrestru ar y cyd – fodd bynnag, gallwch gofrestru disgrifiad ar y cyd â mwy nag un grŵp o bleidiau 
  • rhaid i eiriad y disgrifiad ar y cyd nodi pob un o'r pleidiau sy'n gwneud cais er mwyn bod yn ddisgrifiad ar y cyd
  • nid yw disgrifiadau ar y cyd yn cyfrif tuag at yr uchafswm o 12 o ddisgrifiadau y gallwch eu cofrestru â ni – mae hyn yn golygu y gallwch gofrestru hyd at 12 o ddisgrifiadau, yn ogystal â disgrifiadau ar y cyd

Wrth ddefnyddio disgrifiad ar y cyd, bydd angen i'r ymgeisydd ddewis pa un o arwyddluniau'r blaid rydych am ei ddefnyddio ar bapurau pleidleisio. 

Ni allwch gofrestru arwyddlun ar y cyd, ac felly gallwch ond defnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru i un o'r pleidiau sydd wedi cofrestru'r disgrifiad ar y cyd. 

Os ydych yn ystyried cofrestru disgrifiad ar y cyd, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i gael gyngor.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Sut y byddwn yn asesu eich nodau adnabod

Mae'r gyfraith yn nodi y byddwn yn cofrestru eich nod adnabod oni fyddwn o'r farn nad yw'n bodloni profion penodol. Felly, bydd angen i ni asesu eich nodau adnabod yn erbyn y profion hynny. 

Byddwn yn edrych ar y modd y gellir defnyddio'r nodau adnabod arfaethedig ar bapurau pleidleisio, gan gynnwys y ffyrdd gwahanol y gellir eu defnyddio ar y papur pleidleisio mewn etholiadau gwahanol, a'r angen i bob pleidleisiwr allu bwrw ei bleidlais yn hyderus. 

Byddwn yn cofrestru ein nod adnabod oni fydd y Comisiwn o'r farn:

  • ei fod yr un peth â nod adnabod cofrestredig neu warchodedig arall sydd ar yr un gofrestr
  • ei fod yn debygol o arwain at bleidleiswyr yn ei gymysgu â nod adnabod plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru neu ei warchod 
  • ei fod yn debygol o gamarwain pleidleiswyr o ran effaith eu pleidlais
  • ei fod yn debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddwyd ar gyfer pleidleisio neu eu llesteirio 
  • ei fod yn aflan neu'n sarhaus 
  • ei fod yn cynnwys geiriau gwaharddedig penodol 
  • ei fod yn cynnwys mwy na chwe gair 
  • nad yw mewn sgript Rufeinig 
  • ei fod yn debygol o gyfateb i drosedd os caiff ei gyhoeddi

Fel canllaw, mae'n annhebygol y byddwn yn cofrestru eich nod adnabod: 

  • os nad yw neu os nad yw'n cynnwys acronym, neu'n cynnwys acronym neu dalfyriad nad yw'n adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang, ac nad yw wedi'i sillafu fesul llythyren
  • os yw'n ddisgrifiad nad yw'n galluogi pobl i adnabod eich plaid
  • os yw wedi'i gysylltu mewn unrhyw ffordd â deunydd ar-lein neu'n cynnwys cyfeiriad at gynnwys ar-lein, fel hashnod Twitter neu god QR
  • yn y rhan fwyaf o achosion os yw'n cynnwys cyfeiriad at enw person
  • os yw'n arwyddlun sy'n cynnwys testun na ellir ei ddarllen ar y maint y mae arwyddluniau yn ymddangos ar bapurau pleidleisio (2cm sgwâr) – ar y maint hwn rydym yn awgrymu bod unrhyw destun ar arwyddlun yn 1.2mm o uchder o leiaf

Ni allwn gadarnhau a fydd eich cais yn llwyddiannus cyn i chi ei gyflwyno. Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau manylion eich cais a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Os caiff eich cais ei wrthod, byddwn yn eich hysbysu o'n rhesymau dros hynny yn ysgrifenedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud “yn debygol o ddrysu”

Mae'n ofynnol i ni sicrhau y gall pleidleisiwr fod yn hyderus nad yw'n drysu rhwng pleidiau ar y papur pleidleisio, ac felly'n bwrw pleidlais yn anghywir. 

Mae'r prawf hwn yn ystyried p'un a fyddai pleidleisiwr, yn ein barn ni, yn drysu nod adnabod un blaid â nod adnabod plaid arall sydd eisoes wedi'i gofrestru.

Fel arfer, bydd ein hasesiad o b'un a yw nod adnabod yn ddryslyd yn ystyried a yw'r nod adnabod yr un fath yn weledol (e.e. y geiriau ‘stationary’ neu ‘stationery’, delweddau tebyg o gychod) neu yr un fath o ran cyd-destun (e.e. ‘Party of the Oak’ a ‘The Oak Party’). 

Ar gyfer arwyddluniau, byddwn yn ystyried p'un a yw'r elfennau a ddyluniwyd a'r testun yn wahanol i arwyddluniau eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud “yn debygol o gamarwain pleidleisiwr”

Mae'r prawf hwn yn edrych ar b'un a fyddai nod adnabod plaid yn debygol o arwain pleidleisiwr i naill ai pleidleisio mewn ffordd nas bwriadwyd ganddo (e.e. dros blaid heblaw am eu dewis blaid) neu fel arall farcio'r papur pleidleisio mewn ffordd nas bwriadwyd ganddo.

Ni allwn gofrestru nod adnabod os bydd, ym marn y Comisiwn, yn debygol o arwain pleidleisiwr i gredu ei fod yn pleidleisio dros sefydliad heblaw'r blaid yr oedd yn bwriadu pleidleisio drosti.

Felly, rydym yn argymell, cyn i chi wneud eich cais, eich bod yn chwilio ar y rhyngrwyd i weld a oes unrhyw grwpiau neu sefydliadau presennol sydd ag enw neu logo sydd yr un peth â'r nodau adnabod rydych am wneud cais i'w cofrestru, neu'n debyg iddynt. Gall y grwpiau hyn fod yn grwpiau ymgyrchu, yn elusennau cofrestredig neu'n sefydliadau adnabyddus eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud ‘yn debygol o fynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddwyd ar gyfer pleidleisio neu eu llesteirio’

Mae'n ofynnol i ni ystyried a fyddai nod adnabod yn mynd yn groes i gyfarwyddiadau neu ganllawiau ar gyfer pleidleisio (e.e. ‘ticiwch yma’, neu arwyddlun gyda chroes ynddo).

Byddwn hefyd yn gwrthod nod adnabod os byddwn o'r farn y byddai pleidleisiwr yn debygol o wneud camgymeriad ar y papur pleidleisio a fyddai'n annilysu ei bleidlais, er enghraifft drwy bleidleisio dros ormod o ymgeiswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth a olygwn drwy ddweud “sarhaus”

Rydym yn debygol o wrthod enw, disgrifiad neu arwyddlun am ei fod yn sarhaus os ydyw, yn ein barn ni: 

  • yn cynnwys iaith, ymadrodd neu derminoleg sarhaus 
  • yn cysylltu rhywbeth y derbynnir yn gyffredinol ei fod yn sarhaus â grŵp penodol o bobl.

Wrth asesu eich nodau adnabod arfaethedig, byddwn yn ystyried y ffaith bod yn rhaid i bleidiau allu mynegi eu barn wleidyddol a bod yn rhaid i bleidleisiwr ddefnyddio papur pleidleisio er mwyn arfer ei hawl i bleidleisio. 

Byddwn hefyd yn ystyried y cyd-destun a'r amgylchiadau allanol ehangach lle y gellir defnyddio enw, disgrifiad neu arwyddlun neu y bydd yn debygol y cânt eu defnyddio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth yw nod adnabod “gwarchodedig”?

Pan fydd plaid yn datgofrestru, bydd ei nodau adnabod yn dal i fod yn warchodedig am gyfnod penodol. Fel arfer, bydd hyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y caiff y blaid ei datgofrestru.

Hyd at hynny, efallai na fydd pleidiau eraill yn cofrestru nodau adnabod sydd yr un fath â'r nodau adnabod gwarchodedig hynny neu sydd, yn ein barn ni, yn debygol o gael eu drysu â nhw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Hawlfreintiau a nodau masnach

Gan nad yw wedi'i gwmpasu gan gyfraith etholiadol, nid ydym yn archwilio i weld a oes achos o dorri hawliau eiddo deallusol wrth gofrestru nodau adnabod plaid. Felly, cyn i chi wneud cais, dylech sicrhau nad yw eich nodau adnabod yn torri unrhyw gyfreithiau hawlfraint a nodau masnach. 

Os byddwch yn cofrestru nodau adnabod eich plaid ac yna'n darganfod eu bod yn torri cyfreithiau hawlfraint neu nodau masnach, gallai'r perchennog cofrestredig wneud her gyfreithiol yn eich erbyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa Eiddo Deallusol y Llywodraeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio acronymau neu dalfyriadau?

Os nad yw acronym neu dalfyriad yn adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang mewn iaith pob dydd, ni chaniateir i chi ei ddefnyddio fel nod adnabod eich plaid fel arfer. Mae hyn oherwydd, yn ein barn ni, ni fydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn gwybod yr ystyr, ac felly mae'n debygol y cânt eu camarwain.

Ymhlith yr enghreifftiau o acronymau adnabyddus a ddefnyddir mewn iaith gyffredin mae 'DU' a 'GIG’. Byddwn yn ystyried rhai acronymau adnabyddus a ddefnyddir yn eang fel y rhain fel un gair.

Os nad ydym o'r farn bod acronym yn adnabyddus ac yn cael ei ddefnyddio'n eang, rhaid i'r geiriau y bwriedir iddo eu cynrychioli gael eu sillafu fesul llythyren a'u hysgrifennu mewn llythrennau bach neu fel pe baent yn rhan o frawddeg. Gellir wedyn ychwanegu'r acronym yn ei ymyl, a bydd pob gair, gan gynnwys yr acronym, yn cyfrif tuag at y cyfyngiad cyffredinol o chwe gair.

Gall y geiriau a ddefnyddir mewn nod adnabod plaid ddechrau gyda phriflythyren. Ni ddylai geiriau nad ydynt yn acronymau fod mewn llythrennau bras. Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru nod adnabod sy'n cynnwys geiriau mewn llythrennau bras nad ydynt yn acronymau, byddwn yn ystyried y nod adnabod hwnnw fel pe bai llythrennau cyntaf y geiriau hynny mewn llythrennau bras yn lle hynny (e.e. byddai ‘PARTY OF THE OAK’ yn cael ei ystyried yn ‘Party Of The Oak’).

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Pa ieithoedd y gallaf eu defnyddio ar gyfer nodau adnabod pleidiau?

Gallwch wneud cais i ddefnyddio iaith ar wahân i Saesneg yn y nodau adnabod i'w defnyddio ar bapurau pleidleisio. 

Fodd bynnag, rhaid i enw'r blaid ac unrhyw ddisgrifiadau gael eu nodi mewn sgript Rufeinig, hyd yn oed os cânt eu cofrestru mewn iaith ar wahân i Saesneg. Mae'n debygol o gael ei dderbyn os gallwch ddefnyddio bysellfwrdd o'r DU i gynhyrchu'r nod adnabod heb ddefnyddio nodau arbennig.

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru ym Mhrydain Fawr ac sy'n bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru wneud cais i enw Cymraeg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid. Gall y pleidiau hyn hefyd wneud cais i gofrestru disgrifiadau sydd wedi'u mynegi yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu'r ddwy iaith). Gallwch ddewis arddangos y ddau ddisgrifiad ar bapurau pleidleisio. 

Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru yng Ngogledd Iwerddon wneud cais i enw Gwyddeleg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.

Ni all y nod adnabod arfaethedig fod yn hirach na chwe gair mewn unrhyw iaith.
 
Ar gyfer etholiadau mewn rhannau eraill o'r DU, dim ond mewn un iaith y gall enw'r blaid neu'r disgrifiad ymddangos ar y papur pleidleisio. 

Os bydd plaid yn gwneud cais i gofrestru enw mewn iaith heblaw am Gymraeg (os yw yng Nghymru), Saesneg neu Wyddeleg (os yw yng Ngogledd Iwerddon), rhaid i'r cais gynnwys cyfieithiad Saesneg cywir fel rhan o'ch cais. Caiff pob cyfieithiad ei wirio i gadarnhau ei fod yn gywir.

Bydd hyn yn golygu y gallwch ddewis yr iaith fwyaf priodol ar gyfer nod adnabod eich plaid i ymddangos ar bapurau pleidleisio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Pethau eraill i'w hystyried os ydych yn bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru

Fel corff cyhoeddus sy'n gweithredu yng Nghymru, mae'n ofynnol i ni gyflawni ein swyddogaethau yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg. Rydym yn trin y Gymraeg yr un mor ffafriol â'r Saesneg wrth gyflawni ein swyddogaethau yng Nghymru, gan gynnwys wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau pleidiau. 

Mae hyn yn golygu, os ydych yn bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru, a'ch bod wedi gwneud cais â nodau adnabod Cymraeg yn unig neu Saesneg yn unig, yna byddwn yn cyfieithu eich nodau adnabod (naill ai o'r Gymraeg i'r Saesneg, neu o'r Saesneg i'r Gymraeg) ac yn ystyried perthnasedd y cyfieithiadau hyn mewn perthynas â'r profion statudol. 

Felly, mae'n bosibl y gellir gwrthod nod adnabod arfaethedig yn Gymraeg neu yn Saesneg yn seiliedig ar y ffordd y caiff ei fynegi yn yr iaith arall, hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud cais i gofrestru cyfieithiad ar gyfer y nod adnabod hwnnw.

Mae'n bwysig i ni gymryd y camau hyn er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr yng Nghymru farcio eu papur pleidleisio yn hyderus. 

Dylech ystyried hyn os byddwch yn gwneud cais i gofrestru yng Nghymru a, lle y bo'n bosibl, yn ystyried sut y byddai nodau adnabod eich plaid yn cael eu dehongli gan bleidleisiwr yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio rhifau?

Os yw nod adnabod eich plaid yn dechrau neu'n gorffen â rhif, nid ydym yn debygol o gymeradwyo'r broses o'i gofrestru ar y ffurf honno. Yn hytrach, byddwn yn gofyn i chi ei sillafu fel gair yn hytrach na defnyddio rhif.  

Y rheswm am hyn yw bod gofyn i bleidleiswyr ddefnyddio rhifau i raddio ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis mewn rhai etholiadau. Mae'n debygol y bydd nodau adnabod pleidiau sy'n dechrau neu'n gorffen gyda rhif yn gamarweiniol gyda'r rhifau ar y papur pleidleisio a'r cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio. 

Gallwn gofrestru nod adnabod plaid sy'n defnyddio rhifau yng nghanol yr enw, yn dibynnu ar sut y cânt eu defnyddio a ph'un a yw'n debygol o gamarwain pleidleiswyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio dolenni i ddeunydd ar-lein?

Gall eich plaid ddefnyddio gwefan neu gyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phleidleiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai dolenni i wefannau na chyfryngau cymdeithasol (e.e. hashnodau Twitter neu dudalennau Facebook) gael eu defnyddio fel rhan o'ch nodau adnabod.

Wrth asesu eich nod adnabod, rhaid i ni benderfynu a yw'n bodloni'r profion statudol. Os oes cysylltiad rhwng eich nod adnabod a deunydd ar-lein, rydym yn debygol o'i wrthod gan na allwn asesu deunydd sydd â'r potensial o newid dros amser yn erbyn y profion statudol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

A ellir defnyddio enw unigolyn?

Fel arfer, ni fyddwn yn derbyn y defnydd o enw unigolyn fel nod adnabod.

Y rheswm dros hyn yw bod cyfarwyddiadau ar bapurau pleidleisio yn aml yn datgan bod y papur pleidleisio ar gyfer ethol ymgeisydd i etholaeth, ward benodol neu ardal arall. Os bydd enw person, heblaw enw un o'r ymgeiswyr, yn ymddangos ar bapurau pleidleisio ar gyfer unrhyw ardal benodol, mae'n debygol y bydd yn gwrth-ddweud y cyfarwyddiadau ar gyfer pleidleisio.

Bydd angen i ni lunio barn ynghylch a yw cynnwys yr enw yn y nod adnabod penodol rydym yn ei asesu yn debygol o wrth-ddweud neu atal dealltwriaeth etholwr o gyfarwyddiadau a roddir ar gyfer rhoi arweiniad iddo ar bleidleisio, ar y papur pleidleisio neu rywle arall.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Beth yw'r geiriau gwaharddedig?

Ni ellir defnyddio rhai geiriau ar bapurau pleidleisio heb iddynt gael eu goleddfu gan eiriau eraill. Mae hyn yn gymwys i ffurf unigol neu luosog y geiriau gwaharddedig, ynghyd â'r geiriau gwaharddedig sydd wedi'u hysgrifennu mewn iaith arall. 

Rhennir y geiriau hyn yn bedwar categori (gweler isod).

Yn ogystal â'r rheolau isod, ni chewch gofrestru ‘Dim o'r uchod’ naill ai ar eu pen eu hunain nac ar y cyd â geiriau neu ymadroddion eraill.

Categori 1

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 1 yw: Dug, Duges, Ei Mawrhydi, Ei Fawrhydi, Brenin, Tywysog, Tywysoges, Brenhines, Brenhinol, Brenhiniaeth 

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pen eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond mewn perthynas ag enw lle, sefydliad neu ardal llywodraeth leol y gellir defnyddio'r geiriau yng nghategori 1. 

Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio 'Y Blaid Fythol Frenhinol' gan nad yw 'Brenhinol' yn cael ei ddefnyddio gydag enw lle, sefydliad nac ardal llywodraeth leol. 

Gallech ddefnyddio 'Royal Tunbridge Wells Party' gan fod 'Royal' yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â lle. 

Categori 2

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 2 yw: Prydain, Prydeinig, Lloegr, Seisnig, Cenedlaethol, Yr Alban, Sgotaidd, Albanaidd, Y Deyrnas Unedig, Cymru, Cymreig

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond os byddwch yn eu defnyddio gyda gair neu ymadrodd arall ac eithrio enw neu ddisgrifiad plaid sydd eisoes wedi'i chofrestru yn y rhan berthnasol o'r DU y gallwch ddefnyddio geiriau categori 2. 

Er enghraifft, ni allwch gofrestru 'Un Blaid Fawr Gymreig' os yw 'Un Blaid Fawr' wedi'i chofrestru eisoes gan fod 'Cymreig' yn cael ei ddefnyddio gydag enw plaid sydd wedi'i chofrestru eisoes. 

Categori 3

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 3 yw: Annibynnol, Swyddogol, Answyddogol 

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond os yw'r gair yn cael ei ddefnyddio gyda gair neu ymadrodd arall y gallwch ddefnyddio geiriau categori 3 ond nid: 

  • gydag enw neu ddisgrifiad cofrestredig sy'n bodoli eisoes
  • gyda'r gair ‘plaid’ yn unig
  • gyda gair categori 3 arall

Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio 'Plaid Annibynnol Atal y Ffordd Osgoi' os oedd 'Plaid Atal y Ffordd Osgoi' wedi'i chofrestru eisoes gan fod 'Annibynnol' yn cael ei ddefnyddio gydag enw plaid sydd wedi'i chofrestru eisoes. Ni allwch gofrestru'r ‘Blaid Annibynnol’. 

Categori 4

Y geiriau gwaharddedig yng nghategori 4 yw: Trethdalwyr, Trigolion, Tenantiaid 

Ni ellir defnyddio'r geiriau hyn ar eu pennau eu hunain mewn nodau adnabod. Dim ond mewn perthynas ag enw ardal llywodraeth leol neu ardal ddaearyddol y gallwch ddefnyddio'r geiriau yng nghategori 4. Er enghraifft, gallwch gofrestru ‘Plaid Trigolion Efrog’ gan fod ‘Trigolion’ wedi cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag ‘Efrog’, sy'n ardal ddaearyddol. 

Ni allwch gofrestru ‘Grŵp Gweithredu Trigolion’ na ‘Trigolion Unedig’ gan nad yw ‘Trigolion’ yn cael ei ddefnyddio gydag enw ardal llywodraeth leol neu ardal ddaearyddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mehefin 2023

Eich cynllun ariannol

Rhaid i'ch plaid gyflwyno cynllun ariannol fel rhan o'ch cais i gofrestru sy'n nodi sut y bydd y blaid yn cydymffurfio â rheolaethau cyfreithiol y rheolau cyllid gwleidyddol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Rhaid i'r cynllun ariannol a ddarperir gennych fod wedi cael ei fabwysiadu gan y blaid. 

Rydym yn cynhyrchu templed ar gyfer y cynllun y gallwch ei ddefnyddio i greu cynllun ariannol ar gyfer eich plaid eich hun. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r templed ar gyfer y cynllun. Rhaid i'r cynllun a gyflwynir gan y blaid gyda'i chais adlewyrchu'n gywir y modd y mae'r blaid yn gweithredu'n ymarferol.

Os byddwch yn defnyddio ein templed ar gyfer y cynllun, dylech gadarnhau'n ofalus ei fod yn adlewyrchu gweithdrefnau'r blaid ei hun yn gywir. Er enghraifft, os oes gan y blaid swyddog ymgyrchu, dylech gynnwys ei enw yn y lleoedd priodol yn y cynllun yn ogystal â thrysorydd y blaid. Os na fydd eich blwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr, yna dylech ddiwygio hyn yn y templed ar gyfer y cynllun hefyd.

Er mwyn i'ch cais gael ei gymeradwyo, rhaid i ni fod yn fodlon bod eich cynllun ariannol yn nodi'r trefniadau ar gyfer rheoleiddio materion ariannol y blaid at ddibenion PPERA, a'u bod wedi'u mabwysiadu gan y blaid. 

Un ffordd y gallwch ddangos bod y cynllun wedi cael ei fabwysiadu yw sicrhau bod holl swyddogion cofrestredig arfaethedig y blaid yn llofnodi'r cynllun.

Nid yw'n ofynnol i bleidiau llai fabwysiadu cynllun ariannol na chyflwyno un fel rhan o'u cais.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Beth y bydd yn rhaid i'ch cynllun ariannol ei gynnwys?

Rhaid i'ch cynllun gynnwys gweithdrefnau ar gyfer y canlynol: 

  • cofnodi eich cyfrifon a rhoi gwybod amdanynt   
  • ymdrin â rhoddion a benthyciadau 
  • cynnal eich manylion cofrestru â ni 
  • awdurdodi gwariant ar ymgyrchu a chyflwyno adroddiadau arno

Fel rhan o'r broses asesu, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth am y ffordd y mae'r blaid wedi mabwysiadu ei chynllun ariannol. Er enghraifft, mae'n bosibl y gofynnir i chi pa weithdrefnau sydd gan y blaid er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau a nodir yn y cynllun ariannol hwn. 

Mae plaid sydd wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ddwy blaid gofrestredig ar wahân at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). 

Os byddwch yn cofrestru ar gofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhaid i'ch cynllun ariannol ddangos y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn gwbl ar wahân i rai'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn bwysig gan fod y rheolau ynghylch ble y gall plaid gael ei chyllid yn amrywio yn dibynnu ar ba gofrestr y mae'r blaid wedi'i chofrestru.

Os ydych chi wedi cofrestru fel plaid sydd ag unedau cyfrifyddu, neu'n bwriadu gwneud hynny, rhaid i bob uned gael ei henwi yng nghynllun ariannol y blaid. Nid yw ein templed ar gyfer y cynllun yn addas os mai dyma yw eich bwriad. Gallwn roi rhagor o gyngor ar yr hyn sy'n ofynnol, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os ydych yn bwriadu cael unedau cyfrifyddu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cyfansoddiad eich plaid

Rhaid i chi gyflwyno cyfansoddiad eich plaid fel rhan o'ch cais i gofrestru plaid wleidyddol. 

Rhaid bod gan bleidiau gwleidyddol gyfansoddiad ysgrifenedig sy'n nodi strwythur a threfniadaeth eich plaid. Dylai hyn nodi trefniadau llywodraethu eich plaid a'r rheolau ar gyfer cyflawni ei busnes. Rhaid i'r cyfansoddiad ddangos y gall y blaid gydymffurfio â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) – h.y. ni all dim ynddo fynd yn groes i'r gofynion cyfreithiol. 

Mae'n bosibl y bydd cyfansoddiad eich plaid yn cynnwys mwy nag un ddogfen. Er enghraifft, efallai y bydd gan eich plaid gyfres o Reolau a Rheolau Sefydlog ar gyfer cyfarfodydd. Bydd unrhyw ddogfen sy'n pennu strwythur a threfniadaeth y blaid yn rhan o gyfansoddiad y blaid o dan PPERA ac felly, rhaid iddi hefyd gael ei rhoi i ni fel rhan o'r cais.

Mae'n bwysig bod eich cynllun ariannol a'ch cyfansoddiad yn cyd-fynd â'i gilydd ac nad ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd. Er enghraifft, dylai'r ddwy ddogfen gytuno ar y modd y caiff eich cyfrifon eu cadarnhau, pwy sy'n gyfrifol am y cyfrifon a phwy all awdurdodi gwariant ar ymgyrch mewn etholiadau. 

Er mwyn i'ch cais gael ei gymeradwyo, rhaid i'ch cyfansoddiad gynnwys digon o wybodaeth am strwythur a threfniadaeth eich plaid.

Nid oes angen i blaid gael ei chofrestru fel cwmni er mwyn cael ei chofrestru â ni. Os yw eich plaid wedi'i strwythuro fel hyn, yna dylai'r cyfansoddiad gynnwys manylion sut y mae cofrestriad y cwmni yn effeithio ar strwythur a threfniadaeth y blaid neu'n rhyngweithio â nhw. Dylid adlewyrchu unrhyw wybodaeth berthnasol hefyd yn y prosesau a amlinellir yng nghynllun ariannol y blaid.

Nid yw'n ofynnol i bleidiau llai gael cyfansoddiad na chyflwyno un fel rhan o'u cais. 

Cyfraith cydraddoldeb

Rhaid i chi sicrhau bod eich cyfansoddiad a'r ffordd y mae eich plaid yn gweithredu yn cydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb. Yn benodol, dylech sicrhau nad yw eich cyfansoddiad yn gwahaniaethu'n ormodol yn erbyn unigolion â nodweddion gwarchodedig rhag bod yn aelodau o'r blaid. Fel arall, ni fydd eich cyfansoddiad yn gyfreithlon a chaiff eich cais ei wrthod. Dylech ddarllen y canllawiau i bleidiau gwleidyddol a luniwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd ar gael ar ei wefan.

Fel gyda'r gofynion cofrestru eraill, nid yw'r ffaith bod yn rhaid i'ch cais gydymffurfio â chyfraith cydraddoldeb yn golygu na all eich plaid ymgyrchu ar bolisïau i newid y gyfraith.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mehefin 2024

Beth ddylai cyfansoddiad eich plaid ei gynnwys?

Rhaid i'ch cyfansoddiad adlewyrchu sut y caiff eich plaid ei rhedeg a'i rheoli. Fel canllaw, dylai eich cyfansoddiad gynnwys y canlynol: 

  • manylion y gofrestr neu'r cofrestri y mae'r blaid wedi cofrestru ynddi neu ynddynt. Mae plaid sydd wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ddwy blaid ar wahân at ddibenion PPERA. Pan fydd plaid wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhaid i gynllun ariannol y blaid ddangos y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn gwbl ar wahân i rai'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Dylai'r cyfansoddiad adlewyrchu hynny hefyd. 
  • nodau ac amcanion y blaid. 
  • cyfeiriad at fwriad i ymladd etholiadau ac mewn pa fath o etholiadau, er enghraifft etholiadau cyffredinol Senedd y DU. 
  • y broses dethol ymgeiswyr (neu o leiaf ddatganiad y bydd gan y blaid broses o'r fath). 
  • strwythur y blaid a phwy sy'n gyfrifol am ei rheoli, gan gynnwys cyfrifoldebau swyddogion y blaid, y cyfnodau yn y swyddi a'r weithdrefn ar gyfer newid y swyddogion hynny.
  • sut y bydd y blaid yn gwneud ac yn cofnodi penderfyniadau, ynghyd ag unrhyw drefniadau llywodraethu eraill. Er enghraifft pa fath o gyfarfodydd a gynhelir, pa mor aml y'u cynhelir, pryd y'u cynhelir a beth yw'r cworwm angenrheidiol.
  • sut y bydd y blaid yn datrys anghydfodau mewnol a ph'un a oes gan y blaid unrhyw weithdrefnau disgyblu. Dylech fod yn ymwybodol na allwn ddatrys anghydfodau mewnol ar gyfer eich plaid.
  • y prosesau a’r rheolau sy’n llywodraethu aelodaeth y blaid.
  • bod y blaid wedi mabwysiadu ei chynllun ariannol. 
  • sut y gellir newid y cyfansoddiad a'r broses ar gyfer diddymu'r blaid.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ionawr 2023

Eich datganiad o asedau a rhwymedigaethau

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru plaid wleidyddol, mae'n rhaid i'r trysorydd arfaethedig wneud datganiad ynghylch yr asedau a'r rhwymedigaethau a ddelir gan y blaid hefyd. Mae'n rhaid i'r datganiad hwn nodi a yw eich plaid yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau ai peidio.

Bydd eich plaid yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau os yw cyfanswm gwerth asedau a chyfanswm rhwymedigaethau'r blaid yn £500 neu lai. Os byddwch yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau, nid oes angen i chi roi rhagor o fanylion i ni.

Fodd bynnag, os bydd cyfanswm gwerth asedau'r blaid, neu gyfanswm rhwymedigaethau'r blaid, yn fwy na £500, ni fydd eich plaid yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau. Mae'n rhaid i bleidiau nad ydynt yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau i'r Comisiwn Etholiadol gyda'u cais i gofrestru plaid.

Siart lif yn dangos bod angen i blaid gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau pan fydd naill ai ei hasedau neu ei rhwymedigaethau dros £500

Er enghraifft,

  • Mae gan Blaid A werth £50 mewn asedau ac nid oes ganddi unrhyw rwymedigaethau. Mae Plaid A yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan nad oes ganddi asedau na rhwymedigaethau sy'n cyrraedd y trothwy adrodd, sef mwy na £500. Nid oes angen i'r blaid gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau.
  • Nid oes gan Blaid B unrhyw asedau na rhwymedigaethau. Mae Plaid B hefyd yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan nad oes ganddi asedau na rhwymedigaethau sy'n cyrraedd y trothwy adrodd, sef mwy na £500. Nid oes angen i'r blaid gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau.
  • Mae gan Blaid C werth £700 mewn asedau a £600 mewn rhwymedigaethau. Nid yw Plaid C yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan fod yr asedau a'r rhwymedigaethau yn fwy na £500. Felly, mae angen i Blaid C gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau.
  • Mae gan Blaid D werth £100 mewn asedau a £600 mewn rhwymedigaethau. Nid yw Plaid D yn bodloni'r amod asedau/rhwymedigaethau gan fod ganddi werth mwy na £500 mewn rhwymedigaethau. Mae angen i Blaid D gyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau hefyd.

Bydd y Comisiwn yn cynnwys p'un a yw eich plaid yn bodloni'r amod asedau a rhwymedigaethau ai peidio fel rhan o'r manylion a gyhoeddir ar y gofrestr gyhoeddus o bleidiau gwleidyddol. Byddwn yn cyhoeddi copi o'r cofnod ar y gofrestr hefyd.

Gweler Beth yw cofnod o asedau a rhwymedigaethau? i gael rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau cofnod o asedau a rhwymedigaethau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Beth yw cofnod o asedau a rhwymedigaethau?

Mae cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn rhoi ciplun o sefyllfa ariannol gyffredinol eich plaid pan fydd yn gwneud cais i gofrestru fel plaid wleidyddol. 

Mae'n nodi'r asedau a reolir gennych, megis arian yn y banc neu gyfrifiaduron, a'r symiau sy'n ddyledus gennych, megis benthyciadau neu arian sy'n ddyledus i gyflenwyr.

Rydym wedi llunio templed i'ch helpu i roi gwybod am eich asedau a'ch rhwymedigaethau. Mae'r canllawiau canlynol yn nodi'r categorïau y dylech roi gwybod amdanynt yn eich cofnod ac maent yn cynnwys diffiniadau o'r termau a ddefnyddir yn y templed.

Mae defnyddio templedi'r Comisiwn yn ffordd gyflym a syml o sicrhau bod eich cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn rhoi'r holl wybodaeth ofynnol i ni.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Beth ddylai eich cofnod o asedau a rhwymedigaethau ei gynnwys?

Dylid cynnwys y categorïau canlynol yn eich cofnod o asedau a rhwymedigaethau: 

  • Asedau sefydlog 
  • Asedau cyfredol 
  • Rhwymedigaethau

Dim ond asedau a rhwymedigaethau y mae'r blaid yn berchen arnynt y dylech roi gwybod amdanynt yn eich cofnod. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys asedau a rhwymedigaethau o dan enw un o swyddogion y blaid, megis cyfrif banc a ddefnyddir i gadw arian y blaid. Fodd bynnag, ni ddylech roi gwybod am asedau a rhwymedigaethau y mae swyddogion y blaid yn unig yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. Dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o'r asedau a'r rhwymedigaethau y mae angen i chi eu cynnwys yn y cofnod.

Os nad ydych yn siŵr a ddylid cynnwys ased neu rwymedigaeth yn eich cofnod, cysylltwch â ni am gyngor.

Mae'r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am sut y dylid rhoi gwybod am bob categori.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Asedau sefydlog

Eitemau a brynir at ddefnydd hirdymor eich plaid yw asedau sefydlog. Er enghraifft, eiddo, offer swyddfa, dodrefn, yn ogystal â buddsoddiadau megis stociau, cyfranddaliadau ac eiddo buddsoddi. O dan Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU (GAAP y DU), gelwir asedau sefydlog yn asedau anghyfredol hefyd.

Mae'r categorïau a gofnodir o dan asedau sefydlog fel a ganlyn: 

  • Eiddo 
  • Gosodiadau a ffitiadau 
  • Offer swyddfa 
  • Eiddo buddsoddi 
  • Buddsoddiadau eraill 

Eiddo

Mae eiddo yn cyfeirio at unrhyw safle y mae eich plaid yn berchen arno ac a ddefnyddir ar gyfer busnes y blaid. 

Dylech gofnodi cyfanswm gwerth yr eiddo. 

Dylid cofnodi gwerth yr eiddo fel y pris gwreiddiol. 

Os caiff yr eiddo ei ailbrisio'n broffesiynol, gallwch benderfynu cofnodi'r gwerth newydd. Os mai dyma yw'r achos, dylech gynnwys brawddeg yn y blwch nodiadau yn egluro hyn.

Gosodiadau a ffitiadau

Mae gosodiadau a ffitiadau yn cyfeirio at eitemau mewn eiddo nad ydynt yn strwythurol. Er enghraifft, dodrefn, carpedi, nwyddau gwyn a goleuadau.

Dylid cofnodi'r gwerth fel y pris prynu gwreiddiol. Ni ddylech ailbrisio'r eitemau hyn.

Os nad ydych yn gwybod beth oedd pris prynu gwreiddiol ased, dylech roi amcangyfrif rhesymol o'i werth gwreiddiol.

Offer swyddfa

Mae offer swyddfa yn cynnwys nwyddau electronig a TG, megis cyfrifiaduron, argraffyddion, llun-gopiwyr a ffonau.

Dylid cofnodi'r gwerth fel y pris prynu gwreiddiol. Ni ddylech ailbrisio'r eitemau hyn. 

Os nad ydych yn gwybod beth oedd pris prynu gwreiddiol ased, dylech roi amcangyfrif rhesymol o'i werth gwreiddiol.

Eiddo buddsoddi

Mae eiddo buddsoddi yn cyfeirio at unrhyw eiddo y mae eich plaid yn berchen arno, ond na chaiff ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau'r blaid.

Dylech gofnodi cyfanswm gwerth yr eiddo buddsoddi. 

Dylid cofnodi gwerth yr eiddo fel ei bris gwreiddiol, neu'r pris a bennir yn dilyn prisiad proffesiynol. Os caiff yr eiddo ei ailbrisio yn ystod y flwyddyn, dylech gynnwys brawddeg yn y blwch nodiadau yn egluro hyn.

Os delir yr eiddo buddsoddi gan ymddiriedolaeth neu gwmni daliannol, dylech gofnodi'r gwerth a briodolir i'ch plaid yn unig.

Er enghraifft, os yw eich plaid yn rheoli 50% o eiddo buddsoddi, dim ond 50% o'r gwerth y dylid ei gofnodi.

Buddsoddiadau eraill

Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys stociau a chyfranddaliadau, neu asedau eraill y mae eu gwerth yn debygol o godi neu leihau. Mae hyn yn cynnwys cryptoarian ac arian cyfred digidol arall.

Dylid cynnwys cyfanswm gwerth yr holl fuddsoddiadau eraill y mae eich plaid yn berchen arnynt ar y fantolen.

Dylid cofnodi gwerth y buddsoddiad fel ei gost wreiddiol, neu'r pris a geir yn dilyn prisiad proffesiynol.

Dylid cofnodi stociau a chyfranddaliadau fel eu gwerth marchnadol ar 31 Rhagfyr. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno cofnod o asedau a rhwymedigaethau ym mis Medi, dylai unrhyw stociau a chyfranddaliadau y mae eich plaid yn berchen arnynt gael eu cofnodi fel eu gwerth ar 31 Rhagfyr y flwyddyn flaenorol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Asedau cyfredol

Asedau a ddefnyddir i ariannu gweithrediadau o ddydd i ddydd a threuliau parhaus eich plaid yw asedau cyfredol. 

Mae asedau cyfredol yn cynnwys ‘arian parod mewn llaw’ ac ‘yn y banc’, yn ogystal ag asedau eraill nad ydynt ynghlwm wrth fuddsoddiadau hirdymor. Hynny yw, mae asedau cyfredol yn cyfeirio at unrhyw beth o werth y gellir ei droi'n arian parod yn hawdd.

Mae'r categorïau a gofnodir o dan asedau cyfredol fel a ganlyn:

  • Arian mewn llaw ac yn y banc
  • Stoc/stocrestr
  • Dyledwyr a rhagdaliadau

Arian mewn llaw ac yn y banc

Mae arian parod mewn llaw ac yn y banc yn cynnwys arian mân, cyfrifon cyfredol a chyfrifon cadw.

Cyfrifon buddsoddi tymor hwy yw cyfrifon cadw, nad yw mor hawdd tynnu arian ohonynt. Cedwir yr arian cadw am gyfnod penodol, neu dim ond drwy roi rhybudd neu drwy golli llog ar y cyfrif y gellir codi arian.

Dylid cynnwys cyfanswm yr arian mân a'r cyfrifon cyfredol a chadw sydd gan y blaid. 

Dylai'r nodyn cyfrifyddu ddangos arian mân, y mathau o gyfrifon cyfredol a chyfrifon cadw, a'r symiau a ddelir yn y rhain. 

Stoc/stocrestr

Mae stoc, neu stocrestr, yn cyfeirio at eitemau o werth sylweddol a brynwyd ond nad yw'r blaid wedi'u defnyddio eto.

Mae enghreifftiau yn cynnwys llenyddiaeth, papur, amlenni a stampiau, nwyddau ac eitemau ymgyrchu, megis crysau-t, mygiau, bagiau, ac eitemau ar gyfer rafflau/gwobrau.

Caiff y rhain eu prisio fel cost yr eitem, neu ffracsiwn perthnasol o'r gost os yw'r eitem wedi'i defnyddio'n rhannol. Mae'n bosibl y byddant yn destun gwerth gwahanol (sero fel arfer) os nad yw'r stoc o ddefnydd mwyach.

Dyledwyr a rhagdaliadau

Mae dyledwyr yn ymwneud â symiau pendant a phenodol sy'n ddyledus i'ch plaid gan sefydliadau neu unigolion hysbys a rhaid eu hategu ag ymrwymiad neu rwymedigaeth i dalu.

Gallai hyn gynnwys gwarant i wneud taliad nawdd yn y dyfodol am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi bod, neu daliad ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau swyddfa a ddarparwyd gan y blaid.

Mae rhagdaliadau yn fwy cyffredin. Bydd y rhain yn codi pan fydd y blaid wedi talu am rywbeth ymlaen llaw ond nad yw wedi elwa arno eto.

Gallai hyn gynnwys taliad ymlaen llaw i logi lleoliad ar gyfer digwyddiad sydd i ddod neu daliad am bosteri a deunydd hyrwyddo nad ydych wedi'u cael eto.

Dylech gynnwys nodyn yn dadansoddi'r cyfansymiau hyn ac at beth y maent yn cyfeirio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Rhwymedigaethau

Mae rhwymedigaethau yn cyfeirio at unrhyw beth rydych wedi ymrwymo i dalu amdano. Hynny yw, pethau sydd arnoch chi. Mae enghreifftiau o rwymedigaethau yn cynnwys benthyciadau, cardiau credyd ac arian sy'n ddyledus i gyflenwyr.

Mae'r categorïau a gofnodir o dan rwymedigaethau fel a ganlyn: 

  • Benthyciadau gan sefydliad ariannol
  • Benthyciadau eraill
  • Masnach a chredydwyr eraill

Benthyciadau gan sefydliad ariannol

Mae benthyciadau gan sefydliad ariannol yn cynnwys cardiau credyd, cyfleusterau gorddrafft neu fenthyciadau a geir gan fanc neu gymdeithas adeiladu gofrestredig.

Benthyciadau eraill

Mae benthyciadau eraill yn cynnwys symiau sy'n ddyledus gan eich plaid i unigolion neu sefydliadau o dan gytundebau penodol.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys benthyciad i ariannu'r gwaith o sefydlu eich plaid.

Masnach a chredydwyr eraill

Mae credydwyr yn ymwneud â symiau pendant a phenodol sy'n ddyledus i gyflenwyr hysbys lle rydych wedi derbyn anfoneb ond nad ydych wedi'i thalu eto.

Gallai hyn gynnwys symiau sy'n ddyledus i gyflenwr am nwyddau a brynwyd gan eich plaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Pleidiau sy'n cofrestru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon

Mae plaid sy'n gwneud cais i gofrestru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon yn endid unigol nes y bydd cais wedi'i gymeradwyo ar gyfer pob cofrestr briodol. Wrth gofrestru, bydd yr endid unigol yn dod yn ddwy blaid gofrestredig ar wahân yn unol â chyfraith etholiadol. Bydd y blaid ym Mhrydain Fawr a'r blaid yng Ngogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i reolaethau ariannol gwahanol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Gan y byddwch yn gwneud cais fel un sefydliad, dim ond un cofnod o asedau a rhwymedigaethau y bydd angen i chi ei gyflwyno pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru plaid ar y ddwy gofrestr.

Rhaid i'ch cynllun ariannol ddangos sut y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal ar wahân i faterion ariannol y blaid yng Ngogledd Iwerddon er mwyn cydymffurfio â'r gofynion rheolaethau priodol sy'n gymwys i bob cofrestr. Mae'n bosibl y gofynnir i chi ddarparu rhagor o dystiolaeth i ddangos bod y materion ariannol yn cael eu cynnal ar wahân cyn y gellir cymeradwyo eich cais. Gweler Eich cynllun ariannol i gael rhagor o wybodaeth am lunio eich cynllun ariannol.

Byddwn yn asesu pob cais fesul achos. Fel rhan o'r asesiad, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth gennych i sicrhau ein bod yn fodlon bod eich cais yn bodloni gofynion PPERA.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Beth sy'n digwydd i'r cofnod o asedau a rhwymedigaethau ar ôl i chi gyflwyno eich cais i gofrestru plaid?

Ar ôl i chi gyflwyno'r cofnod o asedau a rhwymedigaethau, byddwn yn ei brosesu a'i asesu fel rhan o'ch cais i gofrestru plaid wleidyddol. Yna byddwn yn penderfynu a yw eich cais yn ei gyfanrwydd yn bodloni'r gofynion a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), ac a ellir ei gymeradwyo.

Byddwn yn ystyried eich cofnod ochr yn ochr â'r dystiolaeth a ddarperir yn eich cais. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi roi rhagor o wybodaeth i ni fel rhan o'n hasesiad.

Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich datganiad a'r wybodaeth a ddarperir gennych yn y cofnod yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n fyrbwyll.

Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau manylion eich cais a sicrhau bod eich cais a'ch cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn cydymffurfio â gofynion PPERA. Os na fydd y cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn bodloni'r gofynion, ni ellir cofrestru'r blaid.

Mae'n ofyniad cyfreithiol i'r Comisiwn Etholiadol wneud copi o gofnod pob plaid gofrestredig fel y gall y cyhoedd ei archwilio. Unwaith y bydd plaid wedi'i chofrestru, byddwn yn cyhoeddi'r cofnod o asedau a rhwymedigaethau ar ein cofrestr gyhoeddus o bleidiau gwleidyddol ynghyd â manylion y blaid. Bydd pob cofnod ar gael ar y gofrestr am chwe blynedd. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, rhifau ffôn, manylion banc na chyfeiriadau e-bost personol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Unedau cyfrifyddu

Mae'r rhan fwyaf o bleidiau'n gweithredu fel uned unigol, sy'n golygu bod trysorydd y blaid yn goruchwylio cyllid y blaid gyfan. 

Fodd bynnag, efallai y byddwch am gofrestru canghennau o'r blaid sydd ag ymreolaeth ariannol. Gelwir y rhain yn “unedau cyfrifyddu” ac mae pob uned yn gyfrifol am ei chyllid ei hun. Mae cofrestru unedau cyfrifyddu yn ddewisol. 

Rhaid i'ch cynllun ariannol nodi a fydd gan eich plaid unedau cyfrifyddu. Nodwch nad yw ein templed safonol ar gyfer y cynllun yn addas ar gyfer pleidiau sydd ag unedau cyfrifyddu. 

Os oes gennych ganghennau nad oes ganddynt ymreolaeth ariannol, ni fydd angen i chi eu cofrestru fel unedau cyfrifyddu ac ni fydd angen iddynt ymddangos yn eich cynllun ariannol. Fodd bynnag, efallai y byddwch am gyfeirio atynt yn eich cyfansoddiad o hyd.

Os byddwch yn dewis cofrestru unedau cyfrifyddu, mae'n rhaid bod gan bob uned ei thrysorydd a'i Hail Swyddog ei hun. Rhaid i chi hefyd gofrestru cyfeiriad pencadlys yr uned gyfrifyddu neu gyfeiriad gohebiaeth os nad oes gan yr uned gyfrifyddu bencadlys. 

Gallwn roi rhagor o gyngor ar yr hyn sy'n ofynnol, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os bydd angen rhagor o gyngor arnoch ar unedau cyfrifyddu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cyflwyno eich cais

Cyn i chi gyflwyno eich cais, dylech adolygu manylion yr hyn rydych yn ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod eich cais yn gyflawn ac yn cynnwys yr holl wybodaeth orfodol a perthnasol yn unol â'n canllawiau.

Os byddwch yn gwneud cais gan ddefnyddio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein, pan fyddwch yn fodlon ar eich cais, caiff gweinyddwr eich system anfon eich cais ar-lein i'r holl swyddogion perthnasol ei awdurdodi.

Rhaid i swyddogion eich plaid gymeradwyo'r cais a derbyn eu rôl yn y blaid. Os bydd ganddynt fwy nag un rôl swyddog, dylech sicrhau eu bod yn awdurdodi ar gyfer pob swydd sydd ganddynt. Rhaid iddi fod yn amlwg ym mha rinwedd y maent yn awdurdodi. Ni chaiff gweinyddydd eich plaid gyflwyno eich cais nes y bydd holl swyddogion perthnasol y blaid wedi cwblhau eu hawdurdodiad.

Os byddwch yn gwneud cais all-lein, rhaid i holl swyddogion perthnasol y blaid lofnodi'r ffurflen gais.

Pan fydd yr holl swyddogion wedi awdurdodi'r cais, caiff gweinyddydd eich plaid gyflwyno eich cais a thalu eich ffi gwneud cais o £150 na chaiff ei had-dalu. Gallwch dalu eich ffi ar-lein drwy daliad cerdyn. Gallwch hefyd wneud taliad drwy'r post mewn arian parod, drwy siec neu archeb bost. Os byddwch yn anfon y taliad drwy siec, gwnewch y siec yn daladwy i ‘Y Comisiwn Etholiadol’.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Sut y byddwn yn asesu eich cais

Pan fydd eich cais wedi'i gwblhau a'ch bod yn ei gyflwyno i ni, byddwn yn gwneud y canlynol:

Cam 1

Byddwn yn derbyn eich cais, yn cynnal gwiriad cychwynnol i gadarnhau ei fod yn gyflawn ac yn cydnabod ein bod wedi'i dderbyn. 

Cam 2

Pan fydd eich cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol o dan y gyfraith, byddwn yn cyhoeddi eich nodau adnabod arfaethedig ar ein gwefan i'r cyhoedd roi sylwadau arnynt.

Cam 3

Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn y profion statudol yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Cam 4

Byddwn yn gwneud penderfyniad i gymeradwyo neu wrthod eich cais ac yn eich hysbysu o'r canlyniad. Os caiff eich cais ei wrthod, byddwn yn esbonio ein rhesymeg yn ysgrifenedig. 

Os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn diweddaru'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol sydd ar gael i'r cyhoedd gyda'ch manylion. Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch am eich adroddiadau ariannol a rhwymedigaethau eraill fel plaid wleidyddol gofrestredig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cam 1

Byddwn yn cynnal gwiriad cychwynnol i gadarnhau bod eich cais yn cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau gofynnol a bod eich ffi wedi'i thalu.

Os byddwn yn nodi unrhyw broblemau cychwynnol â'ch cais, efallai y byddwn yn ei oedi am gyfnod rhesymol o amser ac yn cysylltu â chi er mwyn ystyried y materion a godwyd gennym a gwneud newidiadau i'ch cais os bydd angen.

Dylech nodi mai eich cyfrifoldeb chi yn y pen draw yw cadarnhau manylion eich cais a sicrhau bod eich cais a'ch cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn cydymffurfio â gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Hyd nes y caiff penderfyniad terfynol ei wneud ar eich cais, ni allwn gadarnhau a fydd yn llwyddiannus.

Efallai y bydd angen i unrhyw newidiadau i'ch cais gael eu hawdurdodi gan holl swyddogion y blaid.

Os na fyddwn yn clywed gennych erbyn y dyddiad cau a nodwyd, efallai y caiff eich cais ei wrthod.

Pan fydd yr holl wybodaeth a dogfennau gofynnol wedi'u cynnwys, byddwn yn cydnabod y cais yn ffurfiol. Yna, bydd cam nesaf y broses o wneud cais yn dechrau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cam 2

Cyn penderfynu ar y cais, fel arfer byddwn yn cyhoeddi eich nodau adnabod arfaethedig ar ein gwefan i gael sylwadau arnynt. Bydd eich nodau adnabod yn aros ar-lein nes i ni benderfynu p'un ai i'w cofrestru ai peidio. Gall unrhyw un roi sylwadau ar eich nodau adnabod arfaethedig yn ystod y cyfnod hwn.

Byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir ac unrhyw wybodaeth berthnasol wrth asesu eich cais.

Gallwch danysgrifio i gael negeseuon e-bost i'ch hysbysu pan gaiff yr hysbysiadau hyn eu cyhoeddi drwy gysylltu â ni drwy e-bost.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cam 3

Bydd y Comisiwn yn asesu eich cais yn erbyn y profion statudol yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Mae hyn yn cynnwys:

  • Dilysu'r wybodaeth a roddir yn eich cais. Bydd hyn yn golygu cadarnhau, er enghraifft, bod cyfeiriadau cartref wedi'u rhoi ar gyfer swyddogion y blaid.
  • Adolygu eich cyfansoddiad a'ch cynllun ariannol i gadarnhau eu bod yn bodloni gofynion PPERA. Ar gyfer cyfansoddiadau, mae hefyd yn golygu cadarnhau nad ydynt yn mynd yn groes i gyfraith cydraddoldeb y DU.
  • Asesu a yw enw arfaethedig eich plaid, ynghyd ag unrhyw ddisgrifiadau ac arwyddluniau, yn bodloni'r profion statudol yn PPERA.

Mae'n bosibl y byddwn yn nodi materion yn y cais rydym yn awgrymu eich bod yn eu hystyried ar y cam hwn. Os felly, efallai y byddwn yn oedi eich cais am gyfnod rhesymol o amser i'ch galluogi i ymateb. Gall unrhyw oedi wrth ymateb i ni arwain at oedi wrth brosesu eich cais. Os na fyddwn yn clywed gennych erbyn y dyddiad cau, efallai y caiff eich cais ei wrthod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Cam 4

Pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau caiff ei gyflwyno, ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol o'n cyhoeddiad ar-lein, gerbron Bwrdd Cymeradwyo Mewnol y Comisiwn. Mae'r Bwrdd hwn yn cynnwys uwch-swyddogion y Comisiwn. Caiff ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Rheoleiddio a fydd fel arfer yn gwneud y penderfyniad terfynol ar eich cais. Pennaeth y Comisiwn yn yr Alban fydd yn penderfynu ar geisiadau sy'n ymwneud â phleidiau yn yr Alban yn unig.

Unwaith y byddwn wedi gwneud penderfyniad, byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein penderfyniad ar-lein ac, os bydd y cais yn llwyddiannus, byddwn yn diweddaru'r gofrestr.

Os caiff eich cais, neu ran o'ch cais, ei wrthod, gallwch gyflwyno cais newydd. Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi gwneud cais bellach os byddwch yn cyflwyno cais i ni o fewn un mis calendr i'r adeg y cysylltwyd â chi i wrthod eich cais. Dim ond un cyfle a gewch i gyflwyno cais newydd heb dalu ffi. Bydd ffi gwneud cais na chaiff ei had-dalu yn gymwys ar gyfer unrhyw geisiadau pellach.

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn penderfynu nad yw eich cais yn gyflawn?

Os nad fydd eich cais yn gyflawn, ni ellir cofrestru'r blaid.

Beth fydd yn digwydd os na fydd eich cynllun ariannol neu eich cyfansoddiad yn bodloni gofynion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)?

Os na fydd eich cynllun ariannol neu eich cyfansoddiad yn bodloni gofynion PPERA, ni ellir cofrestru'r blaid.

Beth fydd yn digwydd os na allwn gofrestru enw eich plaid?

Os na fyddwn o'r farn bod enw eich plaid yn bodloni'r profion statudol, ni ellir cofrestru'r blaid.

Beth fydd yn digwydd os na allwn gofrestru eich disgrifiad neu arwyddlun?

Ar yr amod bod gweddill eich cais yn bodloni'r profion statudol, byddwn yn mynd ati i gofrestru eich plaid o hyd. Ond byddwn yn gwrthod y disgrifiad neu'r arwyddlun penodol nad yw'n bodloni'r gofynion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Sut y gallwch wrthwynebu ein penderfyniad?

Os byddwn yn gwrthod eich cais yn gyffredinol, neu'n gwrthod nod adnabod penodol, gallwch ddewis cyflwyno cais newydd. Caiff pob cais ei asesu yn erbyn y profion statudol yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Byddwn bob amser yn egluro'r rhesymau dros wrthod cais. Os bydd gennych gwestiynau am y rhesymau dros ein penderfyniad i wrthod cais neu nod adnabod penodol, cysylltwch â ni.

Nid oes unrhyw hawl statudol i apelio yn erbyn ein penderfyniad. Os byddwch yn anghytuno â'n penderfyniad a'r rhesymau drosto, gallwch geisio rhwymedi drwy'r llysoedd drwy wneud cais am adolygiad barnwrol o'n penderfyniad.  

Os na fyddwch o'r farn ein bod wedi cadw at ein gweithdrefnau gweinyddol a nodwyd wrth ystyried eich cais, gallech holi a fyddai'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yn barod i ystyried y mater.

Cyn i chi wneud hynny, byddai angen i chi ddilyn ein proses gwyno y cyfeirir ati isod yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cwmpasu:

  • methiant i gasglu neu ystyried gwybodaeth benodol yn gywir
  • rhagfarn wrth ddod i benderfyniad
  • oedi afresymol 

Rhaid i chi fod yn glir ynghylch natur eich cwyn, gan ddarparu tystiolaeth lle y bo'n bosibl yn hytrach na gwneud honiad yn seiliedig ar y ffaith eich bod yn anghytuno â chanlyniad penderfyniad.    

Mae ein gwe-dudalen cwynion yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cwyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022

Ar ôl y broses gofrestru

Ar ôl i chi gofrestru'n llwyddiannus, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am eich rhwymedigaethau fel plaid wleidyddol gofrestredig.  

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), rhaid i blaid wleidyddol gofrestredig wneud y canlynol, er enghraifft:  

  • sicrhau bod pob rhodd a benthyciad dros £500 yn dod o ffynonellau yn y DU yn bennaf
  • rhoi gwybod am roddion a benthyciadau bob chwarter, a phob wythnos yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU
  • cydymffurfio â therfynau gwario'r ymgyrch yn ystod etholiadau, a rhoi gwybod i ni am yr arian a gaiff ei wario ar yr ymgyrch  
  • cadw cyfrifon a chofnodion cywir  
  • anfon cyfrifon blynyddol atom
  • os bydd incwm neu wariant y blaid dros £250,000 y flwyddyn, dylech hefyd anfon adroddiad archwilydd ar eich cyfrifon blynyddol
  • gweithredu'n gyson â'ch cyfansoddiad a'ch cynllun ariannol, a sicrhau eu bod yn gyfredol 
  • diweddaru manylion y blaid, a'u cadarnhau'n flynyddol.

Diben y rheolau hyn yw sicrhau uniondeb a thryloywder o ran cyllid pleidiau gwleidyddol. Os na fyddwch yn eu dilyn, gallech fod yn destun dirwyon neu gamau gorfodi eraill gennym ni neu'r heddlu. 

Mae gennych gyfrifoldebau sylweddol fel swyddog plaid wleidyddol, felly mae'n bwysig eich bod yn deall y rheolau hyn yn llawn cyn i chi gofrestru â ni. Dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r canllawiau sydd ar gael ar gyfer pleidiau gwleidyddol ar ein gwefan.

Rydym hefyd yn darparu canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar sut i sefyll etholiad, ynghyd â'u hawliau a'u cyfrifoldebau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022