Os nad yw acronym neu dalfyriad yn adnabyddus nac yn cael ei ddefnyddio'n eang mewn iaith pob dydd, ni chaniateir i chi ei ddefnyddio fel nod adnabod eich plaid fel arfer. Mae hyn oherwydd, yn ein barn ni, ni fydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn gwybod yr ystyr, ac felly mae'n debygol y cânt eu camarwain.
Ymhlith yr enghreifftiau o acronymau adnabyddus a ddefnyddir mewn iaith gyffredin mae 'DU' a 'GIG’. Byddwn yn ystyried rhai acronymau adnabyddus a ddefnyddir yn eang fel y rhain fel un gair.
Os nad ydym o'r farn bod acronym yn adnabyddus ac yn cael ei ddefnyddio'n eang, rhaid i'r geiriau y bwriedir iddo eu cynrychioli gael eu sillafu fesul llythyren a'u hysgrifennu mewn llythrennau bach neu fel pe baent yn rhan o frawddeg. Gellir wedyn ychwanegu'r acronym yn ei ymyl, a bydd pob gair, gan gynnwys yr acronym, yn cyfrif tuag at y cyfyngiad cyffredinol o chwe gair.
Gall y geiriau a ddefnyddir mewn nod adnabod plaid ddechrau gyda phriflythyren. Ni ddylai geiriau nad ydynt yn acronymau fod mewn llythrennau bras. Os byddwch yn gwneud cais i gofrestru nod adnabod sy'n cynnwys geiriau mewn llythrennau bras nad ydynt yn acronymau, byddwn yn ystyried y nod adnabod hwnnw fel pe bai llythrennau cyntaf y geiriau hynny mewn llythrennau bras yn lle hynny (e.e. byddai ‘PARTY OF THE OAK’ yn cael ei ystyried yn ‘Party Of The Oak’).