Beth sy'n digwydd i'r cofnod o asedau a rhwymedigaethau ar ôl i chi gyflwyno eich cais i gofrestru plaid?
Ar ôl i chi gyflwyno'r cofnod o asedau a rhwymedigaethau, byddwn yn ei brosesu a'i asesu fel rhan o'ch cais i gofrestru plaid wleidyddol. Yna byddwn yn penderfynu a yw eich cais yn ei gyfanrwydd yn bodloni'r gofynion a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), ac a ellir ei gymeradwyo.
Byddwn yn ystyried eich cofnod ochr yn ochr â'r dystiolaeth a ddarperir yn eich cais. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi roi rhagor o wybodaeth i ni fel rhan o'n hasesiad.
Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich datganiad a'r wybodaeth a ddarperir gennych yn y cofnod yn gywir ac yn gyflawn, hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n fyrbwyll.
Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau manylion eich cais a sicrhau bod eich cais a'ch cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn cydymffurfio â gofynion PPERA. Os na fydd y cofnod o asedau a rhwymedigaethau yn bodloni'r gofynion, ni ellir cofrestru'r blaid.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i'r Comisiwn Etholiadol wneud copi o gofnod pob plaid gofrestredig fel y gall y cyhoedd ei archwilio. Unwaith y bydd plaid wedi'i chofrestru, byddwn yn cyhoeddi'r cofnod o asedau a rhwymedigaethau ar ein cofrestr gyhoeddus o bleidiau gwleidyddol ynghyd â manylion y blaid. Bydd pob cofnod ar gael ar y gofrestr am chwe blynedd. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, rhifau ffôn, manylion banc na chyfeiriadau e-bost personol.