Rydym yn debygol o wrthod enw, disgrifiad neu arwyddlun am ei fod yn sarhaus os ydyw, yn ein barn ni:
yn cynnwys iaith, ymadrodd neu derminoleg sarhaus
yn cysylltu rhywbeth y derbynnir yn gyffredinol ei fod yn sarhaus â grŵp penodol o bobl.
Wrth asesu eich nodau adnabod arfaethedig, byddwn yn ystyried y ffaith bod yn rhaid i bleidiau allu mynegi eu barn wleidyddol a bod yn rhaid i bleidleisiwr ddefnyddio papur pleidleisio er mwyn arfer ei hawl i bleidleisio.
Byddwn hefyd yn ystyried y cyd-destun a'r amgylchiadau allanol ehangach lle y gellir defnyddio enw, disgrifiad neu arwyddlun neu y bydd yn debygol y cânt eu defnyddio.