Ar ôl y broses gofrestru

Ar ôl i chi gofrestru'n llwyddiannus, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am eich rhwymedigaethau fel plaid wleidyddol gofrestredig.  

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), rhaid i blaid wleidyddol gofrestredig wneud y canlynol, er enghraifft:  

  • sicrhau bod pob rhodd a benthyciad dros £500 yn dod o ffynonellau yn y DU yn bennaf
  • rhoi gwybod am roddion a benthyciadau bob chwarter, a phob wythnos yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU
  • cydymffurfio â therfynau gwario'r ymgyrch yn ystod etholiadau, a rhoi gwybod i ni am yr arian a gaiff ei wario ar yr ymgyrch  
  • cadw cyfrifon a chofnodion cywir  
  • anfon cyfrifon blynyddol atom
  • os bydd incwm neu wariant y blaid dros £250,000 y flwyddyn, dylech hefyd anfon adroddiad archwilydd ar eich cyfrifon blynyddol
  • gweithredu'n gyson â'ch cyfansoddiad a'ch cynllun ariannol, a sicrhau eu bod yn gyfredol 
  • diweddaru manylion y blaid, a'u cadarnhau'n flynyddol.

Diben y rheolau hyn yw sicrhau uniondeb a thryloywder o ran cyllid pleidiau gwleidyddol. Os na fyddwch yn eu dilyn, gallech fod yn destun dirwyon neu gamau gorfodi eraill gennym ni neu'r heddlu. 

Mae gennych gyfrifoldebau sylweddol fel swyddog plaid wleidyddol, felly mae'n bwysig eich bod yn deall y rheolau hyn yn llawn cyn i chi gofrestru â ni. Dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r canllawiau sydd ar gael ar gyfer pleidiau gwleidyddol ar ein gwefan.

Rydym hefyd yn darparu canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar sut i sefyll etholiad, ynghyd â'u hawliau a'u cyfrifoldebau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022