Rhaid i blaid gofrestru enw'r blaid â ni. Gall ddefnyddio'r enw hwn ar bapurau pleidleisio.
Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru ym Mhrydain Fawr ac sy'n bwriadu ymladd etholiadau yng Nghymru wneud cais i enw Cymraeg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.
Gall pleidiau sy'n gwneud cais i gael eu cofrestru yng Ngogledd Iwerddon wneud cais i enw Gwyddeleg ac enw Saesneg fod yn enwau cofrestredig y blaid.
Nid ydym yn rheoleiddio'r modd y mae plaid am frandio ei hun na pha ymadroddion ymgyrchu y bydd yn eu defnyddio gyda'i henw pan na fydd y neges honno'n ymddangos ar bapurau pleidleisio.
Os na fydd enw plaid wedi'i chofrestru â ni, ni all ymgeiswyr ymladd etholiad gan ddefnyddio'r enw hwnnw ar bapurau pleidleisio.
Os nad yw eich plaid wedi'i chofrestru â ni, dim ond i sefyll fel aelod annibynnol y gall ymgeisydd wneud cais i'r Swyddog Canlyniadau. Yn yr achos hwn, gall yr ymgeisydd ddewis defnyddio:
y gair ‘Annibynnol’ (neu ‘Independent’ os nad yw'n sefyll yng Nghymru) i ymddangos wrth ymyl ei enw ar y papur pleidleisio
dim nod adnabod ar y papur pleidleisio.
Mae hyn ynghyd ag unrhyw fanylion eraill sy'n ofynnol o dan y rheolau etholiadol perthnasol.