| Argraffu'r canllawiau llawn

Cam 2

Cyn gwneud penderfyniad ar y cais, byddwn fel arfer yn cyhoeddi eich nodau adnabod arfaethedig ar ein gwefan i gael sylwadau. Bydd eich nodau adnabod yn aros ar-lein hyd nes i ni benderfynu a ddylem eu cofrestru ai peidio. Gall unrhyw un wneud sylwadau ar eich nodau adnabod arfaethedig yn ystod y cyfnod hwn.

Byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau sy'n berthnasol i'n hasesiad. 

Gallwch weld ein cyhoeddiadau cyfredol, a gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am sylwadau’r cyhoedd, ar ein gwefan. Gallwch danysgrifio i gael rhybudd e-bost am yr hysbysiadau hyn sy'n cael eu cyhoeddi drwy gysylltu â ni drwy e-bost.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2025