Ein nod yw cymeradwyo neu wrthod eich cais o fewn saith wythnos o'r pwynt y bydd gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen i asesu eich cais.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn fodlon yn ein prosesau gwneud penderfyniadau a’n bod wedi ystyried yr holl ofynion statudol perthnasol yn llawn. Gall y broses hon gymryd peth amser, er mwyn sicrhau ein bod yn dod i gasgliad teg.
Rydym yn asesu ceisiadau yn nhrefn y dyddiad y maent yn barod i'w hasesu. Ni allwn flaenoriaethu na chyflymu eich cais. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn trin ceisiadau yn gyfartal.
Ceisiadau cymhleth
Ar gyfer ceisiadau cymhleth, efallai y bydd angen i'r tîm Cofrestru weithio gyda thimau eraill yn y Comisiwn i ystyried eich cais yn iawn. Mae hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser i ni roi penderfyniad.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl a yw eich cais yn gymhleth. Ein nod yw rhoi penderfyniad ar geisiadau cymhleth o fewn naw wythnos i'r cais fod yn barod i'w asesu.
Rydym yn penderfynu a yw cais yn gymhleth fesul achos, drwy adolygu dogfennau'r cais ac unrhyw gyd-destun perthnasol arall. Os yw eich cais yn gymhleth, nid yw hyn yn effeithio ar y tebygolrwydd y bydd eich cais yn llwyddiannus.
Cyflwyno ceisiadau cyn etholiadau wedi’u trefnu
Rydym yn eich cynghori i gyflwyno ceisiadau ymhell cyn unrhyw etholiadau yr ydych yn bwriadu ymgeisio amdanynt. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser ar gyfer asesu, ac i
fynd i'r afael ag unrhyw broblemau. Cyn etholiadau wedi'u trefnu, byddwn yn gosod ac yn cyhoeddi dyddiad yr ydym yn eich cynghori i gyflwyno ceisiadau cofrestru erbyn. Cyhoeddir y dyddiad hwn ar ein tudalen we ‘Cofrestru a chynnal plaid’.
Os cyflwynir eich cais ar ôl y dyddiad hwnnw, ni allwn warantu y byddwn yn gallu gwneud penderfyniad ar eich cais mewn pryd i'ch plaid gael ei chofrestru ar gyfer yr etholiadau hynny. Mae hyn oherwydd bod dyddiadau cau statudol ar gyfer newidiadau i'r gofrestr. Mae hyn yn cynnwys achosion lle cyflwynir eich cais cychwynnol cyn y dyddiad ond rydych chi'n cyflwyno cais pellach ar ôl y dyddiad.