Beth ddylai cyfansoddiad eich plaid ei gynnwys?

Rhaid i'ch cyfansoddiad adlewyrchu sut y caiff eich plaid ei rhedeg a'i rheoli. Fel canllaw, dylai eich cyfansoddiad gynnwys y canlynol: 

  • manylion y gofrestr neu'r cofrestri y mae'r blaid wedi cofrestru ynddi neu ynddynt. Mae plaid sydd wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ddwy blaid ar wahân at ddibenion PPERA. Pan fydd plaid wedi'i chofrestru yng nghofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, rhaid i gynllun ariannol y blaid ddangos y caiff materion ariannol y blaid ym Mhrydain Fawr eu cynnal yn gwbl ar wahân i rai'r blaid yng Ngogledd Iwerddon. Dylai'r cyfansoddiad adlewyrchu hynny hefyd. 
  • nodau ac amcanion y blaid. 
  • cyfeiriad at fwriad i ymladd etholiadau ac mewn pa fath o etholiadau, er enghraifft etholiadau cyffredinol Senedd y DU. 
  • y broses dethol ymgeiswyr (neu o leiaf ddatganiad y bydd gan y blaid broses o'r fath). 
  • strwythur y blaid a phwy sy'n gyfrifol am ei rheoli, gan gynnwys cyfrifoldebau swyddogion y blaid, y cyfnodau yn y swyddi a'r weithdrefn ar gyfer newid y swyddogion hynny.
  • sut y bydd y blaid yn gwneud ac yn cofnodi penderfyniadau, ynghyd ag unrhyw drefniadau llywodraethu eraill. Er enghraifft pa fath o gyfarfodydd a gynhelir, pa mor aml y'u cynhelir, pryd y'u cynhelir a beth yw'r cworwm angenrheidiol.
  • sut y bydd y blaid yn datrys anghydfodau mewnol a ph'un a oes gan y blaid unrhyw weithdrefnau disgyblu. Dylech fod yn ymwybodol na allwn ddatrys anghydfodau mewnol ar gyfer eich plaid.
  • y prosesau a’r rheolau sy’n llywodraethu aelodaeth y blaid.
  • bod y blaid wedi mabwysiadu ei chynllun ariannol. 
  • sut y gellir newid y cyfansoddiad a'r broses ar gyfer diddymu'r blaid.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ionawr 2023