Bydd gan swyddogion cofrestredig pleidiau gwleidyddol rôl benodol mewn plaid. Bydd ganddynt gyfrifoldebau statudol penodol fel rhan o'u rolau hefyd.
Arweinydd plaid
Mae'n rhaid mai arweinydd y blaid yw arweinydd cyffredinol y blaid. Os nad oes gan eich plaid arweinydd cyffredinol (er enghraifft, os oes gennych arweinwyr ar y cyd), rhaid i chi gofrestru person fel arweinydd â diben penodol yn y blaid. Er enghraifft, y sawl sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar faterion mewnol pleidiau.
Os na fydd trysorydd y blaid yn ei swydd mwyach, bydd arweinydd y blaid yn gweithredu fel trysorydd dros dro nes i'r blaid ein hysbysu am drysorydd newydd.
Trysorydd plaid
Mae gan drysorydd cofrestredig plaid wleidyddol gyfrifoldebau cyfreithiol sylweddol. Rhaid iddo sicrhau bod y blaid yn cydymffurfio â'r rheolau cyllid gwleidyddol a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Felly, mae'n bwysig bod person priodol yn cael ei gofrestru i fod yn drysorydd y blaid.
Ni all y trysorydd fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau yn y pum mlynedd cyn iddo gael ei benodi.
Swyddog enwebu
Swyddog enwebu'r blaid sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am drefnu'r broses o enwebu ymgeiswyr a chymeradwyo nodau adnabod y blaid a ddefnyddir ar ffurflenni enwebu a phapurau pleidleisio mewn etholiadau.
Nid oes unrhyw ddarpariaeth o dan PPERA i gofrestru dirprwy swyddog enwebu. Fodd bynnag, gall y swyddog enwebu cofrestredig awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran yn ysgrifenedig.
Swyddog ychwanegol
Os byddwch yn cofrestru swyddog ychwanegol, bydd ganddo rôl swyddogol o ryw fath yn y blaid. Mae'n rhaid i chi gofrestru swyddog ychwanegol â ni os mai'r un person yw arweinydd, trysorydd a swyddog enwebu'r blaid, ac nad oes gennych swyddog enwebu. Os nad yw hyn yn wir, ni allwch gofrestru swyddog ychwanegol â ni.
Swyddog ymgyrchu
Bydd y swyddog ymgyrchu yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau o ran adroddiadau ariannol ar gyfer gwariant ar ymgyrchu mewn etholiadau penodol. Bydd yn cymryd y cyfrifoldebau hyn oddi wrth drysorydd y blaid.
Ni ddylai'r swyddog ymgyrchu fod wedi cael ei euogfarnu o unrhyw droseddau mewn etholiadau o fewn pum mlynedd i gael ei benodi ac ni all fod yn drysorydd hefyd.
Dirprwy drysorydd a dirprwy swyddog ymgyrchu
Gall trysorydd neu swyddog ymgyrchu cofrestredig y blaid benodi hyd at 12 o ddirprwy swyddogion i gynorthwyo â'r gwaith o awdurdodi gwariant ar ymgyrchu. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol os yw eich plaid yn ymladd llawer o seddi. Defnyddiwch Ffurflen RP5 i gofrestru dirprwy swyddogion.