Byddwn yn cynnal adolygiad cychwynnol i sicrhau bod eich cais yn cynnwys y wybodaeth a'r dogfennau gofynnol, a bod eich ffi wedi'i thalu. Byddwn yn cydnabod y cais yn ffurfiol.
Os byddwn yn nodi problemau sy'n hawdd eu diwygio fel rhan o'n hadolygiad cychwynnol, byddwn yn eu codi gyda chi fel y gallwch eu hystyried a gwneud newidiadau i'ch cais os oes angen.
O dan yr amgylchiadau hyn, byddem yn gohirio eich cais am gyfnod rhesymol er mwyn i chi eu hystyried. Fel arfer, mae hyn yn para am un i ddwy wythnos, yn dibynnu ar y problemau a godir. Efallai y bydd angen i unrhyw newidiadau i'ch cais gael eu hawdurdodi gan holl swyddogion y blaid. Os na chlywwn gennych, byddwn yn bwrw ymlaen â'r wybodaeth a gyflwynwyd yn wreiddiol.
Yna bydd cam nesaf y broses ymgeisio yn dechrau. Noder efallai na fyddwn yn gallu nodi pob problem fel rhan o'n hadolygiad cychwynnol, a hyd nes y gwneir penderfyniad terfynol ar eich cais, ni allwn gadarnhau a fydd yn llwyddiannus.