Bydd hefyd angen i chi ystyried ble y mae eich plaid yn bwriadu cyflwyno ymgeiswyr. Bydd hyn yn effeithio ar ba gofrestr y bydd angen i chi wneud cais i gael eich cynnwys arno.
Eich bwriad i gyflwyno ymgeiswyr
Rhaid bod eich plaid yn bwriadu cyflwyno o leiaf un ymgeisydd mewn o leiaf un etholiad yn y DU.
Os ydych yn bwriadu ymladd etholiadau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, bydd angen i chi gofrestru dwy blaid wleidyddol ar wahân, un ar bob cofrestr. Maent yn ddwy blaid ar wahân at ddibenion Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (PPERA) 2000.
Gallwch gofrestru pleidiau ar y ddwy gofrestr mewn un cais.
Rhaid i chi sicrhau bod materion ariannol y ddwy blaid yn cael eu cynnal ar wahân a rhaid i hyn hefyd gael ei adlewyrchu yng nghynllun ariannol pob plaid. Y rheswm pam y mae'n rhaid i'r pleidiau cofrestredig fod ar wahân yn gyfreithiol yw y bydd gan eich pleidiau yng Ngogledd Iwerddon ac ym Mhrydain Fawr ofynion ar wahân o ran adroddiadau ariannol.
Os bydwch yn cofrestru ar gofrestr Prydain Fawr, rhaid i chi nodi a ydych am ymladd etholiadau yng Nghymru, Lloegr a/neu yr Alban. Cofiwch mai dim ond yn y rhannau hynny o'r DU y mae eich cofnod cofrestru yn eu nodi y byddwch yn gallu cyflwyno ymgeiswyr.
Fel rhan o'r broses gwneud cais, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi beth mae'r blaid wedi'i wneud, neu beth y bydd yn ei wneud, i wireddu ei bwriad i ymladd etholiadau. Un ffordd o wneud hyn yw amlinellu pa etholiadau penodol y mae eich plaid yn bwriadu eu hymladd yng nghyfansoddiad eich plaid.
Pleidiau llai
Dim ond ym Mhrydain Fawr y gall pleidiau llai gofrestru a rhaid iddynt hefyd nodi a ydynt yn bwriadu cyflwyno ymgeiswyr mewn etholiadau cynghorau cymuned yng Nghymru, etholiadau cynghorau plwyf yn Lloegr, neu'r ddau.
Gwneud newidiadau
Os bydd eich plaid wedi'i chofrestru a'i bod yn ddiweddarach am newid ble y mae'n bwriadu cyflwyno ymgeiswyr, gallwch wneud cais i ddiwygio'r manylion hyn. Mae angen ffi o £150 i wneud cais i newid eich cofrestriad o blaid lai i blaid wleidyddol.