| Argraffu'r canllawiau llawn

Cam 4

Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gwblhau, bydd Bwrdd Cymeradwyo mewnol y Comisiwn yn ei ystyried. Mae'r Bwrdd hwn yn cynnwys uwch swyddogion y Comisiwn. Bydd y Bwrdd yn adolygu ac yn gwneud sylwadau ar yr argymhellion.

Cadeirir y Bwrdd gan y Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol, a’r Cyfarwyddwr sy'n gwneud y penderfyniad terfynol ar eich cais. Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer ceisiadau sy'n ymwneud â phleidiau yn yr Alban yn unig. Bydd yn ystyried yr argymhellion a'r sylwadau gan aelodau eraill y Bwrdd. 

Unwaith y byddwn wedi gwneud penderfyniad, byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein penderfyniad ar-lein ac, os yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus, yn diweddaru'r gofrestr. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio'n fanwl pam y gwrthodwyd unrhyw ran o'ch cais.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2025