| Argraffu'r canllawiau llawn

Allwch chi wrthwynebu ein penderfyniad?

Os gwrthodwn eich cais yn ei gyfanrwydd, neu os gwrthodwn nod adnabod penodol, gallwch gyflwyno cais newydd. Caiff pob cais ei asesu yn erbyn y gofynion statudol yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Byddwn bob amser yn egluro'n fanwl y rhesymau pam rydym wedi gwrthod cais. Os oes gennych gwestiynau am y rhesymau dros ein gwrthodiad, cysylltwch â ni.

Nid oes hawl statudol i apelio yn erbyn ein penderfyniad. Os ydych chi'n anghytuno â'n penderfyniad a'r rhesymau drosto, gallwch wneud cais i lys am adolygiad barnwrol o'n penderfyniad.

Os ydych chi'n credu nad ydym wedi dilyn ein gweithdrefnau gweinyddol datganedig wrth ystyried eich cais, gallech holi a fyddai'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaethau Iechyd yn ystyried y mater.

Cyn i chi wneud hynny, byddai angen i chi fwrw ymlaen yn gyntaf o dan ein proses gwyno y cyfeirir ati isod. Mae hyn yn cynnwys:

  • methiant i gasglu neu ystyried gwybodaeth benodol yn briodol
  • rhagfarn wrth ddod i benderfyniad
  • oedi afresymol 

Rhaid i chi fod yn glir ynglŷn â’ch cwyn, gan ddarparu tystiolaeth lle bo modd, yn hytrach na dim ond anghytuno â chanlyniad penderfyniad.

Mae gan ein tudalen we cwynion wybodaeth am sut i wneud cwyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2025