| Argraffu'r canllawiau llawn

Cam 3

Bydd perchennog achos yn cael ei ddyrannu i'ch cais o fewn tîm Cofrestru'r Comisiwn, a fydd yn asesu eich cais yn erbyn y profion statudol mewn cyfraith etholiadol. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd yn eich cais. Mae hyn, er enghraifft, yn cynnwys gwirio bod cyfeiriadau cartref wedi'u rhoi ar gyfer swyddogion y blaid.
  • Adolygu eich cyfansoddiad a'ch cynllun ariannol i wirio a ydyn nhw'n bodloni gofynion y gyfraith etholiadol.
  • Asesu a yw enw arfaethedig eich plaid, unrhyw ddisgrifiadau, ac unrhyw arwyddluniau yn bodloni'r profion statudol mewn cyfraith etholiadol.
  • Ystyried a yw'r datganiad o asedau a rhwymedigaethau wedi'i wneud yn briodol a, lle darperir cofnod, ei fod yn bodloni'r gofynion fel y'u nodir yn y gyfraith etholiadol.
  • Ystyried unrhyw gyd-destun perthnasol neu wybodaeth arall, gan gynnwys yr hyn a ddarparwyd drwy sylwadau cyhoeddus.

Bydd yr asesiad hwn yn arwain at argymhelliad i gymeradwyo neu wrthod eich cais. 
Byddwn hefyd yn gwirio a yw'n ymddangos bod eich cyfansoddiad yn groes i gyfraith

Cydraddoldeb y DU. Byddwn yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw bryderon ynglŷn â hyn.

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth neu eglurhad ychwanegol gennych fel rhan o’r broses asesu. Yn yr achos hwn, byddwn yn gohirio eich cais am gyfnod byr er mwyn caniatáu ichi ymateb. Os na chlywwn gennych erbyn y dyddiad cau, byddwn yn bwrw ymlaen â'r wybodaeth sydd ar gael i ni.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Hydref 2025