Gweminarau cofrestru pleidiau ar 15 a 23 Ionawr 2025
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut i gofrestru plaid wleidyddol? Cofrestrwch ar gyfer ein gweminar lle byddwn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r broses a'r ystyriaethau allweddol.
Byddwn yn cynnal sesiynau ar 15 Ionawr a 23 Ionawr. Gellir trefnu sesiynau ychwanegol ar adegau eraill yn dibynnu ar ddiddordeb.
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ganllawiau cyffredinol yn hytrach na strwythurau pleidiau penodol neu amgylchiadau unigol. Beth i'w ddisgwyl:
Canllaw cam wrth gam i gofrestru plaid wleidyddol
Pwyntiau allweddol i'w hystyried yn ystod y broses gofrestru
Sesiwn cwestiynau ac atebion ar y diwedd ar gyfer cwestiynau cyffredinol
Sylwer: Os oes gennych gwestiynau penodol am eich sefyllfa unigryw, gallwch gysylltu â’r tîm cofrestru pleidiau am gyngor wedi'i deilwra drwy anfon neges e-bost at [email protected]
Bydd y gweminar hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg ond rydym yn hapus i anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol yn Gymraeg os oes angen.
Ceisiadau i gofrestru pleidiau cyn etholiadau mis Mai 2025
13 Rhagfyr 2024:
Ceisiadau cofrestru plaid cyn etholiadau mis Mai 2025
Os hoffech chi:
gofrestru plaid wleidyddol newydd;
diwygio enw plaid bresennol;
diwygio neu ychwanegu arwyddlun; neu
ychwanegu disgrifiad
i’w gynnwys ar bapurau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau a gynhelir ar 01 Mai 2025, dylech sicrhau ein bod yn cael eich cais wedi’i gwblhau erbyn 5pm, dydd Gwener 31 Ionawr 2025.
Ni allwn warantu y byddwn yn gwneud penderfyniad mewn da bryd ar geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn i'w defnyddio ar bapurau pleidleisio yn yr etholiadau.
Felly, sicrhewch eich bod yn cyflwyno unrhyw geisiadau cyn gynted â phosibl ac ymhell cyn 31 Ionawr 2025.