Gall dwy blaid wleidyddol gofrestredig neu fwy ddewis rhannu disgrifiad o blaid y gellir ei ddefnyddio ar bapur pleidleisio. Gelwir hyn yn ‘ddisgrifiad ar y cyd’ a gall pob un o'r pleidiau sydd wedi'u cofrestru un â phleidiau eraill ei ddefnyddio.
Mae yna reolau penodol sy'n ymwneud â chofrestru disgrifiadau ar y cyd – sef:
dim ond un disgrifiad ar y cyd y gall grŵp o bleidiau ei rannu a'i gofrestru ar y cyd – fodd bynnag, gallwch gofrestru disgrifiad ar y cyd â mwy nag un grŵp o bleidiau
rhaid i eiriad y disgrifiad ar y cyd nodi pob un o'r pleidiau sy'n gwneud cais er mwyn bod yn ddisgrifiad ar y cyd
nid yw disgrifiadau ar y cyd yn cyfrif tuag at yr uchafswm o 12 o ddisgrifiadau y gallwch eu cofrestru â ni – mae hyn yn golygu y gallwch gofrestru hyd at 12 o ddisgrifiadau, yn ogystal â disgrifiadau ar y cyd
Wrth ddefnyddio disgrifiad ar y cyd, bydd angen i'r ymgeisydd ddewis pa un o arwyddluniau'r blaid rydych am ei ddefnyddio ar bapurau pleidleisio.
Ni allwch gofrestru arwyddlun ar y cyd, ac felly gallwch ond defnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru i un o'r pleidiau sydd wedi cofrestru'r disgrifiad ar y cyd.
Os ydych yn ystyried cofrestru disgrifiad ar y cyd, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf i gael gyngor.