Ni chaiff plaid wleidyddol ei chofrestru'n awtomatig ar ôl cyflwyno cais i ni. Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn profion a meini prawf penodol a nodir yn y gyfraith. Caiff cais y blaid ei wrthod os nad yw'n bodloni'r profion statudol.
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn gywir. Gall fod yn drosedd os byddwch yn cynnwys gwybodaeth rydych yn gwybod (neu y dylech yn rhesymol wybod) ei bod yn anghywir.
Rhaid i'ch cais gynnwys y canlynol:
eich ffurflen gais wedi'i chwblhau
cyfansoddiad eich plaid
cynllun ariannol eich plaid
ffi o £150 na chaiff ei had-dalu
Mae'n gyflym ac yn hawdd gwneud cais ar-lein. I ddechrau arni, bydd angen i chi sefydlu cyfrif Cyllid Gwleidyddol Ar-lein. Gallwch dalu eich ffi yn electronig pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein.